麻豆官网首页入口

Ffrae canlyniadau, uno a newid yn y byd addysg

  • Cyhoeddwyd
Disgyblion yn sefyll arholiadauFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n debyg mai canlyniadau TGAU Saesneg Iaith oedd un o bnf straeon addysg y flwyddyn

Os ofynnwch chi i unrhyw un o fewn y byd addysg beth oedd prif stori 2012, y tebygrwydd yw mai'r ffrae dros y canlyniadau TGAU fyddai'r ateb.

Ond mae wedi bod yn flwyddyn hynod o brysur i'r Gweinidog Addysg Leighton Andrews mewn sawl maes - o dargedu llythrennedd, i'r dadlau a'r tro pedol honedig dros uno prifysgolion y de ddwyrain i sefydlu consortia newydd i ddechrau rheoli ysgolion y wlad.

"Bu'n flwyddyn brysur eithriadol ac mae'n rhaid edmygu egni a phenderfyniad y gweinidog," meddai Rebecca Williams, swyddog polisi UCAC wrth grisialu'r deuddeg mis diwethaf.

"Mae'n braf gweld gweinidog o fewn y llywodraeth sy'n cymryd ei swydd gymaint o ddifri. Mae rhywun yn amau ambell waith faint o gwsg mae e'n ei gael achos mae lefel y gwaith yn aruthrol!

"Mae 'da ni 5 neu 6 adolygiad yn mynd mlaen ar hyn o bryd, mae 'da ni ddau bil yn mynd drwy'r Cynulliad, ac wedyn y posibilrwydd o ail-strwythuro gwasanaethau addysg awdurdodau lleol... Gall rhywun ond edmygu lefel y gwaith mae e'n ei wneud."

Ond, mae'r gweinidog wedi wynebu un storm ar 么l y llall eleni.

Ail-farcio

Y cyntaf ym mis Ionawr - gydag adroddiad arall gan gorff arolygu Estyn yn awgrymu fod 'na le mawr i wella ar safon addysg yng Nghymru. Cafodd llythrennedd sylw arbennig.

Yn 么l eu ffigurau nhw mae 40% o ddisgyblion Cymru yn cyrraedd ysgolion uwchradd gydag oedran darllen is na'u hoedran iawn. Felly, erbyn y flwyddyn nesaf, mae disgwyl i fframwaith llythrennedd a rhifedd newydd ddod i rym, wedi i Lywodraeth Cymru ddweud bod gwella sgiliau sylfaenol yn flaenoriaeth.

Erbyn yr haf, doedd s诺n dathlu disgyblion yn casglu eu canlyniadau TGAU ddim yn ddigon i foddi'r corwynt darodd yn sgil dirywiad mawr y canlyniadau Saesneg Iaith.

Diwrnod wedi cyhoeddi'r canlyniadau galwodd Leighton Andrews am adolygiad a ddaeth i'r casgliad bod disgyblion Cymru wedi bod o dan anfantais oherwydd newid i'r modd y cafodd y papur TGAU Saesneg Iaith ei raddio, ac fe gafodd dros 2,000 o ddisgyblion raddau gwell.

Dros Glawdd Offa roedd undebau ac athrawon yn barod i fynd i'r llys i alw am ail-raddio yno hefyd.

Roedd CBAC wedi oedi cyn cytuno i ail-raddio cyn i Leighton Andrews ddefnyddio ei rym fel gweinidog i'w gorchymyn i wneud hynny.

Roedd 84,000 o ddisgyblion Lloegr hefyd wedi sefyll yr union r'un papur ac roedd ymateb Ysgrifennydd Addysg San Steffan, Michael Gove, yn ymfflamychol.

"Mae penderfyniad Leighton Andrews yn anghyfrifol, ac yn gamgymeriad," meddai.

"Rwy'n credu ei fod e wedi tanseilio hyder yn arholiadau TGAU disgyblion Cymru, ac rwy'n credu y dylai ail-ystyried gwneud beth rwyf i yn ei ystyried yn ymyrraeth wleidyddol anffodus."

Ond mynnu wnaeth y Gweinidog Addysg mai sicrhau tegwch i ddisgyblion Cymru oedd ei flaenoriaeth.

Newidiadau

Ym mis Medi, dyfnhaodd y rhwyg rhwng Cymru a Lloegr ymhellach wrth i Michael Gove gyhoeddi nad oedd dyfodol i'r TGAU yn Lloegr mwyach ac y byddai Bagloriaeth Lloegr yn cael ei gyflwyno yn ei le.

Erbyn diwedd mis Tachwedd, daeth adroddiad hir-ddisgwyliedig yr adolygiad cymwysterau i'r casgliad y dylai'r TGAU barhau yng Nghymru, fel rhan o gymhwyster cryfach y Fagloriaeth Gymreig.

Ar 么l ymgynghori'n eang, roedd croeso cyffredinol i'r awgrym y dylai Cymru dorri ei chwys ei hun.

Un arall o 42 awgrym yr adolygiad yw sefydlu corff newydd sef Cymhwyster Cymru i reoleiddio a dyfarnu cymwysterau. Wedi'r ffrae dros yr haf, bu beirniadu mawr mai'r Gweinidog Addysg sy'n rheoleiddio'r drefn arholi ar hyn o bryd.

Mater arall fu'n boendod i'r Gweinidog addysg fu'r broses o uno prifysgolion y de ddwyrain.

Uno

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Doedd y Brifysgol ddim am uno gyda Phrifysgolion Morgannwg a Chasnewydd

Ym mis Ionawr, fe ail-bwysleisiodd ei ddymuniad i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru Casnewydd uno gan ddweud y byddai'n creu un brifysgol gref i wynebu "heriau'r sector addysg uwch". Ond gydol y flwyddyn, bu Met Caerdydd yn gwrthwynebu, gan ddweud bod risg uchel i'r cynllun - oedd heb achos busnes.

Fe wnaeth Leighton Andrews gychwyn cyfnod o ymgynghori, gyda'r bwriad o orfodi'r Brifysgol i uno yn erbyn ei hewyllys.

Ond, ddechrau mis Tachwedd - daeth yr hyn y disgrifiodd y gwrthbleidiau fel tro pedol wrth iddo gyhoeddi bod Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru Casnewydd wedi awgrymu nad oedden nhw eisiau aros i uno - ac y byddai parhau a'r ymgynghoriad yn gorfodi oedi di-anghenrhaid.

Bandio ysgolion uwchradd oedd y mater dadleuol olaf i gloi 2012.

Bu'r undebau athrawon yn gyt没n eu beirniadaeth, wedi iddi ddod i'r amlwg bod yr ysgol oedd ar y brig llynedd, bellach ym mand 4. Ond mynnu wnaeth Leighton Andrews ei fod e'n gwbl hapus 芒'r system, gan ddweud bod cynnydd da wedi bod yn yr ysgolion fu ym mand 4 a 5 llynedd.

Ond, does dim disgwyl saib i'r Gweinidog Addysg yn y flwyddyn newydd, gyda sawl ymgynghoriad yn cael eu cynnal ar hyn o bryd - bydd llawer o adroddiadau iddo'u hystyried yn y flwyddyn newydd.

Efallai mai'r cyntaf fydd yr adolygiad cymwysterau.