Rhieni i allu cymharu data perfformiad ysgolion Cymru

Disgrifiad o'r llun, Mae'r holl wybodaeth i'w gael ar y wefan newydd

Gall rhieni ganfod pa mor dda mae ysgolion eu plant yn perfformio drwy wefan newydd.

Mae Fy Ysgol Leol yn cynnwys gwybodaeth am bob un ysgol uwchradd a chynradd sydd o dan reolaeth awdurdodau lleol Cymru.

Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth am gyraeddiadau disgyblion mewn arholiadau, lefelau presenoldeb a data am staffio a chyllid.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod eisiau mwy o dryloywder ond mae un o undebau athrawon yn dweud nad yw cymharu ysgolion sy'n wynebu sialensiau gwahanol "yn gwneud synnwyr.

Mae'r hefyd yn cynnwys cysylltiad i adroddiadau arolygwyr ac yn dangos faint o arian mae ysgolion yn ei wario ar bob disgybl.

Ers blwyddyn bellach mae Llywodraeth Cymru wedi gosod ysgolion mewn pum band sy'n ystyried canlyniadau TGAU, presenoldeb a nifer o ddisgyblion sy'n cael cinio ysgol am ddim.

Bandio

Ond dydi'r llywodraeth ddim wedi mynd mor bell ag ail-gyflwyno tablau cynghrair a gafodd eu dileu yng Nghymru yn 2001.

Er gwaetha sicrwydd nad yw bandio i fod i dynnu sylw pa ysgolion sydd ddim yn perfformio orau mae undebau athrawon wedi gwrthwynebu'r polisi ac wedi galw am ddileu'r cynlluniau i gyflwyno hyn ar gyfer ysgolion cynradd.

Mae'r wefan newydd yn dangos pa mor dda mae ysgolion yn ei wneud o'i gymharu ag ysgolion eraill yn yr un ardal ac yng ngweddill Cymru.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews bod y math yma o ddata yn dod yn fwy cyhoeddus.

"Mae'r wefan yn rhoi darlun cliriach i rieni am berfformiad ysgolion ar draws Cymru.

"Mae gwella tryloywder ystadegau ysgolion yn caniat谩u i rieni gael trafodaeth gyda gwell gwybodaeth am godi safonau ein hysgolion.

"Rydym eisiau annog rhieni i fod yn rhan o welliannau ysgolion ac rydym yn darparu'r wybodaeth ar gyfer hynny."

Mae undeb NUT Cymru wedi gofyn pam fod y llywodraeth yn dyfalbarhau gyda bandio os ydi'r wybodaeth ar gyfer hynny ar gael yn gyhoeddus drwy'r wefan newydd.

"Rydym yn gwbl gefnogol i rieni fod yn cael y wybodaeth sydd ei angen am ysgolion eu plant," meddai Owen Hathway o'r undeb.

"Mae atebolrwydd yn holl bwysig.

"Yr hyn sydd ddim yn gwneud synnwyr ydi cymharu dwy ysgol, yn aml ysgolion cwbl wahanol yn gymdeithasol, yn economaidd ac yn ddaearyddol.

"Mae cyflwyno'r wefan yma yn codi'r cwestiwn be ydi'r angen am y system bandio."