'Ecsbloetio athrawon cyflenwi'

Disgrifiad o'r llun, Mae Estyn yn cydweithio gyda Swyddfa Archwilio Cymru ar adolygiad

Mae athrawon cyflenwi yn cael eu hecsbloetio gan yr asiantaethau sy'n eu hurio, yn 么l undeb athrawon.

Mae ymchwiliad gan 麻豆官网首页入口 Cymru wedi darganfod fod athrawon cyflenwi yn cael eu talu cryn dipyn yn llai pan maen nhw'n cael eu hurio gan asiantaeth o gymharu ag yn uniongyrchol gan ysgol.

Yn dilyn hyn daeth galwadau ar i Lywodraeth Cymru reoleiddio asiantaethau ac am ymchwiliad i'w harferion wrth gyflogi.

Dywedodd Suzanne Nantcurvis ar ran Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau: "Mae'r driniaeth o athrawon cyflenwi gan asiantaethau yn ofnadwy.

"Dwi wedi cael sioc ynghylch maint yr ecsbloetio ac ymarferion cyflogaeth gwael yr asiantaethau.

"Mae angen iddyn nhw gyd gael eu rheoleiddio".

5,000

Mae tua 5,000 o athrawon cyflenwi yng Nghymru gyda thua 40 o asiantaethau yn eu recriwtio.

Dywedodd un athro cyflenwi - oedd am aros yn ddienw - wrth 麻豆官网首页入口 Cymru ei fod ef a chyd-weithwyr yn cael eu trin yn annheg:

"Byddai athro sydd wedi bod yn gweithio am 9 neu 10 mlynedd yn cael 拢27,000 neu 拢28,000 y flwyddyn.

"Y mwyaf y bydden nhw'n cael eu talu trwy asiantaeth fyddai 拢17,500.

"Os ydych yn cael eich hurio yn uniongyrchol gan ysgol efallai y cewch 拢150 neu 拢160 y dydd, ond y mwyaf y cewch gan asiantaeth yw 拢100 ac efallai y cewch gyn lleied 芒 拢60."

Tom Hadley yw cyfarwyddwr polisi Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth, corff proffesiynol y diwydiant recriwtio.

Mae'n gwadu bod athrawon cyflenwi yn cael eu hecsbloetio.

"Rydych yn medru cael athrawon gyda lefel uchel o sgiliau mewn ychydig oriau sydd wedi cael yr holl wiriadau angenrheidiol, felly mae'r ysgol yn talu am wasanaeth hanfodol".

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn ddyletswydd ar brifathrawon i reoli absenoldebau a bod t芒l athrawon yn gyfrifoldeb Llywodraeth y DU.

Ychwanegodd bod Estyn yn cydweithio gyda Swyddfa Archwilio Cymru ar adolygiad a ddylai gael ei gwblhau erbyn yr haf.