Triwantiaeth: Cynnydd o 700%

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae 'na anghydweld yngl欧n 芒'r ffordd orau i fynd i'r afael a thriwantiaeth yng Nghymru

Mae nifer cynyddol o rieni yng Nghymru'n cael eu herlyn am fod eu plant yn absennol o'r ysgol.

Casglodd gwaith ymchwil 麻豆官网首页入口 Cymru fod yna gynnydd o 700% yn nifer achosion triwantiaeth dros y pum mlynedd diwetha'.

Yn 么l ffigurau ddaeth i law rhaglen Week In Week Out, mae nifer y rhieni sy'n cael eu herlyn am fethu 芒 sicrhau bod eu plant yn mynd i'r ysgol wedi codi o 60 yn 2007 i bron i 500 yn 2011.

Mae'r rhaglen yn dilyn swyddogion Cyngor Merthyr Tudful wrth iddynt fynd i'r afael 芒'r broblem.

Mae'r cyngor yno dan bwysau cynyddol wedi i'w adran addysg gael ei rhoi mewn mesurau arbennig bron i bythefnos yn 么l, ac wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi na fyddai'r cyngor yn gyfrifol am wasanaethau addysg yn y dyfodol.

Roedd gan Ferthyr Tudful un o'r lefelau ucha' o driwantiaeth yng Nghymru ar un adeg ond mae'r cyngor wedi llwyddo i drawsnewid hynny drwy weithredu'n llym yn erbyn rhieni.

Carchar

Ymhlith y rhieni a gafodd eu herlyn gan y cyngor roedd Suzanne Lewis, 36 oed o Ferthyr Tudful.

Roedd ei merch 15 oed, Shauna, wedi bod yn absennol yn rheolaidd ers dechrau yn yr ysgol uwchradd.

Dywedodd Mrs Lewis, sydd newydd gael dedfryd o garchar wedi'i gohirio: "Maen nhw eisiau fy ngweld i'n mynd 芒 hi at gatiau'r ysgol.

"Dyna beth ry'n ni wedi'i wneud, ry'n ni wedi codi yn y bore, mynd 芒 hi i'r ysgol yn y bore ac wedyn ry'n ni wedi cael galwadau ff么n i fynd i'w n么l falle awr ar 么l iddi wrthod mynd mewn i'r dosbarth gyda'r plant eraill a gwrthod gwneud unrhyw waith.

"Mae'n debyg y bydda' i'n mynd i'r carchar oherwydd hyn yn y diwedd."

Mae ei merch yn credu ei bod yn annheg y gallai ei mam orfod treulio amser dan glo.

"Ddylai Mam ddim bod yn mynd trwy hynny i ddweud y gwir achos nid ei bai hi yw bod hyn i gyd wedi digwydd," meddai Shauna.

"Rwy'n teimlo'n euog weithiau. Ro'n i'n ofni y bydden nhw'n ei rhoi hi yn y carchar achos 'dwi ddim yn gwybod be' fydden i'n ei wneud heb Mam."

Dirwyon

Yn 么l y cyngor, mae gofyn i ynadon roi dedfrydau amodol wedi bod yn llawer mwy llwyddiannus na chyflwyno dirwyon, gan ei bod yn golygu bod rhaid i rieni gydweithio gyda'r awdurdodau neu wynebu dychwelyd i'r llys - ac efallai treulio cyfnod yn y carchar.

Mae Llywodraeth Cymru newydd gwblhau ymgynghoriad ar gyflwyno dirwyon yn y fan a'r lle, allai olygu bod rhieni'n wynebu dirwy o 拢120 am fethu ag anfon eu plant i'r ysgol.

Er bod cynghorau yn Lloegr wedi cyflwyno dros 30,000 o ddirwyon i rieni dros y degawd diwetha', dyw lefelau presenoldeb ddim wedi gwella.

Dyw Gavin Vanden Berg ddim yn credu fod dirwyon yn ffordd effeithiol o daclo'r broblem. Mae ei fab 15 oed, Brandon, yn absennol o'r ysgol yn aml.

"Os yw rhiant wir yn trio ei orau i fynd 芒 phlentyn i'r ysgol, heblaw am fynd 芒 nhw yno'n gorfforol, beth arall allan nhw wneud?"

'Dim gwahaniaeth'

Mae'r Athro Ken Reid, ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru ar eu polisi triwantiaeth ac ymddygiad, hefyd o'r farn nad dirwyon yw'r ateb.

"Mae'r holl dystiolaeth o'r gwaith ymchwil yn Lloegr yn awgrymu nad ydyn nhw'n gweithio o gwbl.

"Dyw'r holl ddirwyon dros y 50 neu 60 mlynedd diwetha' o ganlyniad i driwantiaeth ddim wedi gwneud llawer o wahaniaeth nac wedi gweithio."

Dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, wrth 麻豆官网首页入口 Cymru mai dim ond un agwedd o'r polisi triwantiaeth yng Nghymru oedd y dirwyon a bod y polisi wedi'i selio ar argymhellion yr Athro Reid.

Ond bedair blynedd ar 么l ysgrifennu ei adroddiad, mae'r Athro Reid yn dweud ei fod yn siomedig gyda'r diffyg cynnydd.

"Yr hyn mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ei wneud yw cyflwyno rhaglen gradd meistr i athrawon newydd gymhwyso, fydd yn cynnwys modiwl ar ymddygiad a phresenoldeb.

"Ond does dim strategaeth genedlaethol eto ar ymddygiad a phresenoldeb er gwaetha'r addewidion bedair blynedd yn 么l y byddai hynny'n digwydd."

Week In Week Out, 麻豆官网首页入口 One Wales, 10:35pm, nos Fawrth, Mawrth 5.