Byrddau iechyd yn cael rhybudd gan y Gweinidog Iechyd

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y gweinidog y byddai'n disgwyl i fyrddau iechyd gyflwyno esboniadau manwl os ydyn nhw'n gorwario

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi dweud ei fod yn bosib na fydd rhai byrddau iechyd yn mantoli eu cyfrifon erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Ond dywedodd Mark Drakeford wrth 麻豆官网首页入口 Cymru ei fod yn hyderus y gallai'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru "dorri'r got yn 么l y brethyn".

Ychwanegodd y byddai'n disgwyl i fyrddau iechyd gyflwyno esboniadau manwl os ydyn nhw'n gorwario.

Roedd ei ragflaenydd, Lesley Griffiths, wedi awgrymu y byddai'n barod i ddiswyddo rheolwyr os nad oedden nhw'n llwyddo i fantoli eu cyfrifon erbyn dechrau mis Ebrill.

'Ystyried'

Ond dywedodd Mr Drakeford, gafodd ei benodi i olynu Ms Griffiths ddechrau mis Mawrth fel rhan o ad-drefnu cabinet y Prif Weinidog, Carwyn Jones, nad oedd yn ystyried "ymatebion byrbwyll".

"Nid cael gwared ar bobl a byrddau ddylai fod yr ymateb uniongyrchol i beth allai ddigwydd oherwydd rwy'n credu y bydd rhaid ystyried yr esboniadau," meddai.

"Dwi am i fyrddau iechyd Cymru ddeall y bydd rhaid iddyn nhw dderbyn y cyfrifoldeb pe bawn i'n cael fy narbwyllo mai'r rhesymau am eu methiant yw eu bod wedi methu 芒 gweithredu pan y gallen nhw fod wedi gweithredu."

Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno newidiadau i sut y mae'r Gwasanaeth Iechyd yn cael ei gyllido fel bod modd cael cyllid dros gyfnod o dair blynedd yn lle'r drefn bresennol, arian yn flynyddol.

Ond mae'r gweinidog am i ddulliau diogelu gael eu creu i sicrhau na fyddai'r drefn newydd yn golygu y bydai'r Gwasanaeth Iechyd yn mynd i ddyled fawr dros dair blynedd.

"Rwy'n gallu gweld achos llawn persw芒d i gyllido'r Gwasanaeth Iechyd dros dair blynedd ond rwy'n meddwl bod peryglon mewn cynllun o'r fath," meddai.

Ychwanegodd y byddai'n rhaid i'r Gwasanaeth Iechyd ddeall na fyddai'r cynllun yn caniat谩u i'r gwasanaeth "osgoi torri'r g么t yn 么l y brethyn".