Galw am gwtogi nifer y cynghorau

Disgrifiad o'r llun, Mae awdurdodau lleol Cymru yn gyfrifol am wasanaethau cyhoeddus fel casglu sbwriel, gofal cymdeithasol, addysg a chynnal priffyrdd

Mae'r 麻豆官网首页入口 ar ddeall y bydd adroddiad sy'n cael ei ryddhau dydd Llun yn argymell y dylai nifer y cynghorau gael ei leihau drwy gyfuno rhai presennol, yn hytrach na sefydlu rhai newydd.

Mae'n debyg y bydd y Comisiwn Williams yn galw am dorri nifer y cynghorau o'r 22 presennol i tua hanner hynny.

Bydd yr adroddiad yn awgrymu proses yngl欧n 芒 sut y dylai'r uno ddigwydd.

Mae'n debyg fod y comisiwn, sydd wedi ei gadeirio gan gyn bennaeth y gwasanaeth iechyd, Paul Williams, yn credu mai uno cynghorau sy'n fodlon gwneud hynny'n wirfoddol fyddai'r ffordd orau o ddechrau.

Yn ogystal, mae'r 麻豆官网首页入口 wedi clywed y bydd yr adroddiad yn dweud bod rhaid bod yn ofalus er mwyn osgoi sefyllfa lle byddai gwahanol rannau o'r cynghorau newydd o dan reolaeth gwahanol gyrff cyhoeddus.

Disgrifiad o'r llun, Mr Williams oedd yn arwain y t卯m oedd yn ystyried y pwnc ar ran y llywodraeth

Ni fyddai posib uno dau gyngor sy'n cael eu rheoli gan wahanol fyrddau iechyd ar hyn o bryd, er enghraifft Pen-y-bont a Bro Morgannwg.

Byddai'r un fath yn wir am luoedd heddlu.

Mae'r iaith Gymraeg yn rhywbeth arall fydd rhaid ei hystyried, gan fod y comisiwn yn credu bod angen parchu ffiniau ieithyddol.

Un o oblygiadau hyn yw na fyddai modd uno cynghorau Ceredigion a Phowys.

Mater arall yw arian Ewropeaidd - mae'n debyg bod y comisiwn wedi penderfynu bod angen parchu ffiniau ardaloedd sy'n derbyn cymorth o gronfa gydgyfeirio'r Undeb Ewropeaidd.

Byddai hyn yn gwneud cyfuno Blaenau Gwent, sydd yn derbyn arian Ewropeaidd, gyda Sir Fynwy, sydd ddim, yn amhosibl.

Ar y Post Cyntaf bore Gwener mi oedd yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru yn cydnabod bod ad-drefnu yn mynd i fod yn gostus.

Llai o reolwyr?

"Mae na gost efo ad-drefnu ac mae na drafferth efo ad-drefnu ac adnoddau yn cael eu dargyfeirio i sicrhau bod ad-drefnu yn digwydd yn hytrach nag yn canolbwyntio ar wasanaethau.

"Felly mi fyddan nhw isio ad-drefnu yn y ffordd fwyaf syml, fydd yn creu y lleiaf o drafferth a dw i'n meddwl mai uno ydy'r ffordd wedyn. Mae pobl wedi arfer wedyn efo'r ffiniau. Mae pobl wedi arfer darparu gwasanaethau o fewn y ffiniau."

Mae o'n rhagweld na fydd na newidiadau mawr i'r gwasanaethau ar lawr gwlad ond y bydd yna dorri n么l ar nifer y rheolwyr ar y top.

"Beth sydd gennych chi ar hyn o bryd ydy dyblygu mawr iawn, iawn. Mae gennych chi o fewn ychydig filltiroedd o'i gilydd yn dyweder Llangefni a Caernarfon, mae gennych chi gyfarwyddwyr ar y rheng uchaf na sydd i gyd ar gyflogau da.

"Y syniad ydy, y theori ydy bod arian go fawr y gellir ei arbed jest trwy stopio'r dyblygu yna ar lefel rheolaethol."

'Ddim yn gynaliadwy'

Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn trafod y mater dan sylw ar raglen Sunday Politics y 麻豆官网首页入口, ddydd Sul.

Ar y rhaglen, mae Vaughan Roderick yn gofyn iddo a fyddai'r cynghorau wedi gallu osgoi ad-drefnu drwy weithio gyda'i gilydd a rhannu adnoddau.

"Na," yw ateb Mr Jones, "Byddai wedi helpu ond ni fyddai hynny wedi bod yn bosib.

"Rwy'n credu, pam mae gennych chi rhai cynghorau bach iawn mae problemau capasiti sy'n anodd iawn i'w datrys.

"Mae gennym ni, ar y cyfrif diwethaf, chwech awdurdod lleol mewn mesurau arbennig mewn perthynas ag addysg allan o 22.

"Dyw hynny ddim yn gynaliadwy yn y dyfodol felly mae angen cymryd golwg galed, hir ar strwythur, nid yn unig llywodraeth leol ond gwasanaethau cyhoeddus yn gyffredinol, er mwyn gwneud yn si诺r ei fod yn fwy cynaliadwy ac yn gryfach ar gyfer y dyfodol."

Bydd adroddiad y Comisiwn Williams yn cael ei gyhoeddi'n llawn fore Llun.