麻豆官网首页入口

TGAU: 'dim dadl o blaid ail-raddio,' medd adroddiad

  • Cyhoeddwyd
Arholiadau
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn 么l rhai ysgolion, roedd canlyniadau TGAU Iaith Saesneg mis Ionawr yn llawer is na'r disgwyl

Mae adroddiad am ganlyniadau arholiadau TGAU Saesneg Iaith wedi dweud nad oes modd cyfiawnhau ail-raddio.

Yn 么l yr adroddiad ar ran Llywodraeth Cymru, roedd y bwrdd arholi CBAC wedi dilyn y canllawiau yn gywir ar gyfer arholiadau mis Ionawr.

Dywedodd yr adroddiad nad oedd yna reswm penodol am y canlyniadau oedd yn siomedig, yn 么l nifer o benaethiaid.

Y casgliad yw bod rhai athrawon wedi bod yn rhy hael wrth ddarogan graddau disgyblion, ac na wnaeth pob ysgol ymateb yn gywir i'r ffaith fod y marcio yn fwy llym eleni.

'Dysgu gwersi'

Ond dywedodd y gwrthbleidiau na fyddai rhieni, disgyblion ac athrawon fawr callach am yr hyn "aeth o'i le".

Dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis wrth ymateb i'r adroddiad yn y Cynulliad fod "y marcio yn llym" ond "bod angen dysgu gwersi".

"Dylai athrawon fod yn fwy gofalus wrth broffwydo graddau ... dim ond mewn nifer fach o achosion mae amcangyfri'r athrawon yn cyfateb i ganlyniadau.

"Dwi'n benderfynol y bydd ysgolion a disgyblion yn cael pob cefnogaeth bosib' a bod ein cymwysterau ni'n berthnasol, yn cael eu gwerthfawrogi ac yn ateb y gofyn."

Mae CBAC wedi dweud eu bod yn croesawu casgliadau'r adolygiad a'u bod eisoes yn gweithredu.

Ar waith

Dywedodd llefarydd fod CBAC wedi:

  • gwahodd y canolfannau i wneud cais am gop茂au wedi'u sganio o sgriptiau 10% o gofrestriadau pob uned, i'w darparu'n rhad ac am ddim;

  • darparu detholiad o atebion ymgeiswyr ar-lein ar gyfer pob uned, ynghyd 芒 sylwadau arholwyr, i enghreifftio'r safonau a gwasgariad cyffredinol y marciau;

  • estyn dyddiad cau cyflwyno cofrestriadau ar gyfer unedau arholiadau TGAU Saesneg Iaith yr haf tan Ebrill 30;

  • a dechrau cyfarfodydd adolygu arholiadau i athrawon ddydd Llun mewn lleoliadau led led Cymru.

Dywedodd y prif weithredwr Gareth Pierce: "Rydym wedi cytuno ar amserlen gyflwyno a phroses camau nesaf y diwygio cymwysterau yng Nghymru gyda Llywodraeth Cymru. Mae CBAC wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a'r consortia rhanbarthol er mwyn sicrhau y bydd digwyddiadau hyfforddi a chyfres gref o adnoddau cefnogi'n cael eu darparu, yn cynnwys darpariaeth ar-lein.

'Ceisiadau ailfarcio'

"Cytunwn bod lle i estyn y drefn o gyfnewid data ffurfiol rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau dyfarnu, a bydd hyn yn berthnasol i'r dull "canlyniadau cymaradwy" sydd i'w ddefnyddio wrth ddyfarnu'r TGAU Saesneg Iaith yn yr haf 2014. Bwriad hyn fydd sicrhau cymaroldeb 芒 chanlyniad ystadegol cyffredinol carfan 2013.

"Bydd CBAC yn parhau i weithredu'r ceisiadau ailfarcio a dderbyniwyd fel rhan o'r broses Ymholiadau am Ganlyniadau. Mae'n arferol gorfod newid marciau nifer fach o ymgeiswyr ar sail y broses hon, felly gall rhai newidiadau gael eu gwneud."

Dywedodd fod CBAC yn cydymdeimlo ag ymgeiswyr ac athrawon wedi'u heffeithio gan ganlyniadau annisgwyl.

"Gobeithiwn felly y bydd yr adolygiad hwn yn rhoi cyd-destun i'r canlyniadau hyn ac y bydd y camau sy'n cael eu rhoi ar waith ar hyn o bryd yn adfer hyder yn y trefniadau ar gyfer cyfres yr haf a blynyddoedd i ddod.

"Rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan er mwyn sicrhau bod y cymwysterau newydd yn cael eu datblygu a'u cyflwyno'n llwyddiannus ac yn amserol. Dyma gyfle i Gymru ddatblygu cymwysterau safonol sy'n edrych tuag at y dyfodol y bydd modd eu cymharu 芒'r goreuon yn y byd."

Cymru'n unig

Roedd arholiadau Ionawr ar gyfer unedau cymhwyster newydd, y TGAU Saesneg Iaith sy'n benodol ar gyfer Cymru'n unig.

Fe fydd y canlyniadau yn cyfrannu at y radd derfynol pan fydd unedau eraill wedi'u cwblhau.

Roedd ymateb nifer o athrawon a rhieni wedi bod yn ffyrnig am fod y graddau a roddwyd yn llawer gwaeth na'r disgwyl, ac fe ysgrifennodd holl benaethiaid ysgolion uwchradd Rhondda Cynon Taf at y Gweinidog Addysg Huw Lewis yn honni bod rhieni wedi colli hyder yn y system arholi.

Yn eu hymchwiliad mewnol casglodd CBAC y byddai'r papurau a farciwyd gan un arholwr yn cael eu hail-farcio ond bod y system farcio ar y cyfan yn gyson.

Yn 么l CBAC, mae'r arholiad newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar gywirdeb o safbwynt gramadeg, sillafu a chreu brawddegau.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod am gynnal adolygiad o'r mater, a chanlyniad yr adolygiad yna gafodd ei gyhoeddi gan y Gweinidog Addysg Huw Lewis ddydd Mawrth mewn datganiad yn y Senedd.