Johanna Wallroth
Soprano from Sweden - 29 years old.
Johanna Wallroth from Sweden
Giunse alfin il momento... Deh vieni, non tardar from Le nozze di Figaro by Mozart.
I was born in Stockholm and trained as a dancer at Royal Swedish Ballet School before studying voice at Vienna’s Universität für Musik und darstellende Kunst (MDW).
Awards include First Prize at the Mirjam Helin International Singing Competition in 2019 and the Birgit Nilsson Scholarship in 2021.
In 2020, I joined the Wiener Staatsoper Opernstudio for two seasons and appeared in roles such as Barbarina Le nozze di Figaro, Fortuna/Damigella/Amorino I L’incoronazione di Poppea, La Contessa di Ceprano Rigoletto, Giannetta L’elisir d’amore, and Une voix céleste Don Carlos. This season I returned as a guest to sing Barbarina in a new Barrie Kosky production, conducted by Philippe Jordan.
This season, I was named as Classical Artist-in-Residence by the Swedish Radio Symphony Orchestra and joined them for concerts including Berg Sieben frühe Lieder with Daniel Harding, Mozart arias with Martin Fröst and Schubert Mass in E flat with Andràs Schiff. Elsewhere, I sang my first Beethoven Symphony No 9 with Rundfunk-Sinfonieorchester Berlin under Vladimir Jurowski and toured Europe with Amsterdam Sinfonietta and Håkan Hardenberger. I made my Opernhaus Zürich debut, singing in a ballet production choreographed by Christian Spück based on Monteverdi madrigals, conducted by Christoph Koncz.
Next season, I return to Swedish Radio Symphony Orchestra and make several operatic, concert and recital debuts across Europe, including with Opéra de Rouen, Oslo Philharmonic, Danish National Symphony Orchestra, Orchestre de Paris and Orchestre de chambre de Paris.
In my free time I like to spend time with friends and family, dance Isadora Duncan choreographies, watch movies, read books and eat great food.
Johanna Wallroth
Soprano, 29 oed, Sweden
Mae’r gwobrau rwyf wedi’u hennill yn cynnwys y Wobr Gyntaf yng Nghystadleuaeth Ganu Ryngwladol Mirjam Helin yn 2019 ac Ysgoloriaeth Birgit Nilsson yn 2021.
Yn 2020, ymunais â’r Wiener Staatsoper Opernstudio am ddau dymor, gan ymddangos mewn rolau fel Barbarina yn Le nozze di Figaro, Fortuna/Damigella/Amorino I yn L’incoronazione di Poppea, La Contessa di Ceprano yn Rigoletto, Giannetta yn L’elisir d’amore, ac Une voix céleste yn Don Carlos. Y tymor hwn, fe wnes i ddychwelyd fel gwestai i ganu Barbarina mewn cynhyrchiad newydd gan Barrie Kosky, dan arweiniad Philippe Jordan.
Y tymor hwn, cefais fy enwi’n Artist Clasurol Preswyl gan Gerddorfa Symffoni Radio Sweden ac ymunais â nhw mewn cyngherddau a oedd yn cynnwys Berg yn Sieben frühe Lieder gyda Daniel Harding, arias Mozart gyda Martin Fröst ac Offeren yn E fflat gan Schubert gydag Andràs Schiff. Mewn mannau eraill, fe wnes i ganu Symffoni Rhif 9 Beethoven am y tro cyntaf gyda Rundfunk-Sinfonieorchester Berlin dan arweiniad Vladimir Jurowski a bûm yn teithio Ewrop gydag Amsterdam Sinfonietta a Håkan Hardenberger. Fe wnes i ymddangos am y tro cyntaf yn Opernhaus Zürich, gan ganu mewn cynhyrchiad bale wedi’i goreograffu gan Christian Spück oedd yn seiliedig ar fadrigalau Monteverdi, dan arweiniad Christoph Koncz.
Y tymor nesaf, byddaf yn dychwelyd i Gerddorfa Symffoni Radio Sweden ac yn perfformio sawl darn operatig, cyngerdd a datganiad am y tro cyntaf ledled Ewrop, gan gynnwys gydag Opéra de Rouen, Oslo Philharmonic, Cerddorfa Symffoni Genedlaethol Denmarc, Orchestre de Paris ac Orchestre de chambre de Paris.
Yn fy amser rhydd, rydw i’n hoffi treulio amser gyda ffrindiau a theulu, dawnsio gweithiau wedi’u coreograffu gan Isdora Duncan, gwylio ffilmiau, darllen llyfrau a bwyta bwyd gwych.
Cefais fy ngeni yn Stockholm a hyfforddi i fod yn ddawnswraig yn Ysgol Fale Frenhinol Sweden cyn astudio llais yn Universität für Musik und darstellende Kunst (MDW) yn Fienna.