Huhegala
Baritone from China - 31 years old.
Huhegala from China
Performing O, du mein holder Abendstern from Tannh盲user by Wagner.
I was born on the beautiful steppes of Inner Mongolian China. My father is a teacher, my mother is a herdswoman and my sister is a singer of the Mongolian long song cultural tradition.
I loved singing from a very young age, while herding our cattle. My parents noticed it and supported me to study at the Cultural University of Inner Mongolia for four years doing a bachelor’s degree in Long Song Singing. In 2016, I studied under Professor Eruu and completed a master’s degree in opera singing at the Mongolian National University of Arts and Culture. In 2021, I went to the Conservatory Arrigo Boito of Parma and completed a master’s degree in opera singing under Professor Rosy Orani.
I reached the Final of a competition to win a two-year course for opera singers at Accademia Teatro alla Scala, Milan in 2021. Other awards I have received include 3rd Prize, Voice in Art Singing Contest (2015), 2nd Prize, The Prairie Song Singing Professional Vocal Competition (2014) and 3rd Prize, The China Music Golden Bell Competition (2011).
In 2020 I took part in a concert ''Prima che si alzi lo spirito” (Before the Spirit Rises) including arias from Nabucco and Ernani. I appeared in the Verdi OFF Prima music festival in Parma in 2019 and in the Jonio Pelagos music festival in 2018.
I enjoy listening to relaxing jazz and chill-out music. Like my father, I write poetry and hope in future to set one of my poems to music and perform it myself.
Huhegala
Bariton, 31 oed, Tsieina
Cefais fy ngeni ar wastatiroedd eang hardd Mongolia Mewnol yn Tsieina. Mae fy nhad yn athro, mae fy mam yn heusor gwartheg ac mae fy chwaer yn ganwr y traddodiad caneuon hir Mongolia.
Roeddwn i wrth fy modd yn canu pan oeddwn i’n ifanc iawn, wrth hel ein gwartheg. Roedd fy rhieni wedi sylwi ar hyn ac fe wnaethon nhw fy nghefnogi i astudio ym Mhrifysgol Ddiwylliannol Mongolia Mewnol am bedair blynedd, gan ennill gradd baglor mewn Canu Caneuon Hir. Yn 2016, bûm yn astudio o dan yr Athro Eruu a chwblhau gradd meistr mewn canu opera ym Mhrifysgol Genedlaethol y Celfyddydau a Diwylliant Mongolia. Yn 2021, ymunais â Conservatoire Arrigo Boito of Parma a chwblhau gradd meistr mewn canu opera dan yr Athro Rosy Orani.
Cyrhaeddais rownd derfynol cystadleuaeth i ennill cwrs dwy flynedd ar gyfer cantorion opera yn Accademia Teatro alla Scala, Milan yn 2021. Mae’r gwobrau eraill rwyf wedi’u hennill yn cynnwys y drydedd Wobr yng Nghystadleuaeth Ganu Voice in Art (2015), yr ail Wobr yng nghystadleuaeth leisiol The Prairie Songs Professional Vocal Competition (2014) a'r drydedd Wobr yng Nghystadleuaeth The China Music Golden Bell (2011).
Yn 2020, cymerais ran mewn cyngerdd o'r enw “Prima che si alzi lo spirito” (Cyn Bydd yr Ysbryd yn Codi) oedd yn cynnwys arias o Nabucco ac Ernani. Fe wnes i ymddangos yng ng诺yl gerdd Prima Verdi OFF yn Parma yn 2019 ac yng ng诺yl gerdd Jonio Pelagos yn 2018.
Rydw i’n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth jazz a cherddoriaeth ymlaciol. Fel fy nhad, rwy’n ysgrifennu barddoniaeth a’r gobaith yn y dyfodol yw gosod un o fy ngherddi i gerddoriaeth a’i pherfformio fy hun.