Beomjin Angelo Kim
Tenor from South Korea - 32 years old.
Beomjin Angelo Kim from South Korea
Performing Dies bildnis ist bezaubernd sch枚n from Die Zauberfl枚te by Mozart.
I was born in Seoul into a family which enjoyed classical music. As a teenager, my interest turned to Korean Pop, which I both listened to and sang. A high school teacher suggested a classical voice education and I studied with Youngmi Kim at the Korean National University of Arts.
I moved to Germany to study with Enrico Facini in Berlin, and at the Hochschule für Musik Carl Maria von Weber in Dresden I studied with Hendrikje Wangemann and Olaf Bär. I participated in masterclasses with Helmut Deutsch and Brigitte Fassbaender among others.
My competition successes include 1st Prize at the International Mirjam Helin competition and the International Hans Gabor Belvedere Singing Competition and 3rd and Audience Prizes at the DEBUT Competition.
I also received the Curt-Taucher-Preis from Semperoper Dresden, where I was a member of the youth ensemble. Roles there include Ismaele Nabucco, Victorin Die tote Stadt and Jüngling Moses und Aron.
Due to Covid my scheduled debut as Italian Singer Capriccio with Christian Thielemann in Dresden unfortunately was cancelled, as was my debut as Arturo Lucia di Lammermoor at the Staatsoper Hamburg.
I’ve performed Ernesto Don Pasquale in Karlsruhe and Oldenburg, where I’ve also sung Italian Singer Rosenkavalier; Tamino at the Semperoper and Steurmann Der fliegende Holländer at the Daegu Opera House.
Concert performances include Haydn‘s Die Schöpfung, Mozart’s Spatzenmesse and Verdi’s Requiem.
Future commitments include Alfredo La traviata in South Korea, and I will join the ensemble of a German opera house.
I enjoy tennis and swimming. I love good food and spending time with my family.
Beomjin Angelo Kim
Tenor, 32 oed, De Korea
Cefais fy ngeni yn Seoul i deulu a oedd yn mwynhau cerddoriaeth glasurol. Pan oeddwn i yn fy arddegau, trodd fy niddordeb at Bop Korea, genre y bûm yn gwrando arni ac yn ei chanu. Awgrymodd athrawes yn yr ysgol uwchradd y dylwn ymgymryd ag addysg llais clasurol a bûm yn astudio gyda Youngmi Kim ym Mhrifysgol y Celfyddydau Genedlaethol Korea.
Fe wnes i symud i’r Almaen i astudio gydag Enrico Facini yn Berlin, ac yn Hochschule für Musik Carl Maria von Weber yn Dresden bûm yn astudio gyda Hendrikje Wangemann ac Olaf Bär. Fe wnes i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistr gyda Helmut Deutsch a Brigitte Fassbaender ymysg eraill.
Mae fy llwyddiannau mewn cystadlaethau yn cynnwys Gwobr 1af yng nghystadleuaeth Ryngwladol Mirjam Helin a Chystadleuaeth Ganu Ryngwladol Hans Gabor Belvedere a’r 3ydd Wobr a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth DEBUT.
Hefyd, enillais wobr Curt-Taucher-Preis o’r Semperoper Dresden, lle’r oeddwn yn aelod o’r ensemble ieuenctid. Roedd fy rolau yno yn cynnwys Ismaele yn Nabucco, Victorin yn Die tote Stadt a Jüngling yn Moses und Aron.
Yn anffodus, oherwydd Covid, cafodd f’ymddangosiad cyntaf fel y Canwr o’r Eidal, Capriccio gyda Christian Thielemann yn Dresden ei ganslo, yn ogystal â’m hymddangosiad cyntaf fel Arturo yn Lucia di Lammermoor yn Staatsoper Hamburg.
Rydw i wedi perfformio fel Ernesto yn Don Pasquale yn Karlsruhe ac yn Oldenburg, lle rydw i hefyd wedi perfformio rôl y Canwr o'r Eidal yn Rosenkavalier; Tamino yn y Semperoper a Steurmann yn Der fliegende Holländer yn Nh欧 Opera Daegu.
Ymysg fy mherfformiadau mewn cyngherddau mae Die Schöpfung gan Haydn, Spatzenmesse gan Mozart a Requiem gan Verdi.
Mae f’ymrwymiadau yn y dyfodol yn cynnwys Alfredo yn La traviata yn Ne Korea, a byddaf yn ymuno ag ensemble t欧 opera o’r Almaen.
Rydw i’n mwynhau tenis a nofio. Rydw i wrth fy modd â bwyd da a threulio amser gyda fy nheulu.