Main content

Ryan Bancroft

Conductor

Ryan Bancroft grew up in Los Angeles and first came to international attention in 2018 when he won both First Prize and Audience Prize at the prestigious Malko Competition for Young Conductors in Copenhagen. Since September 2021 Ryan has been Principal Conductor of the 麻豆官网首页入口 National Orchestra of Wales. He will also take up the position of Chief Conductor of the Royal Stockholm Philharmonic Orchestra in September.

Since winning the Malko Competition, Ryan has made debuts with leading European orchestras including the Philharmonia, London Philharmonic, 麻豆官网首页入口 Symphony, Danish National Symphony, Rotterdam Philharmonic, Rai Torino and the Ensemble Intercontemporain. In North America he has worked with the Toronto Symphony, Baltimore Symphony and Houston Symphony and has debuts in the 22/23 season with the Dallas Symphony and Minnesota Symphony. The 22/23 season also sees Ryan at the Royal Festival Hall with the Philharmonia and Sir Stephen Hough and at the Concertgebouw with the Netherlands Philharmonic. He also returns to the City of Birmingham Symphony, Malmö Symphony and Gothenburg Symphony Orchestra.

Ryan has a passion for contemporary music and has performed with Amsterdam’s acclaimed Nieuw Ensemble, assisted Pierre Boulez in a performance of his Sur Incises in Los Angeles, premiered works by Sofia Gubaidulina, John Cage, James Tenney and Anne LeBaron. He returned to the Ensemble Intercontemporain in Paris in March.

He studied trumpet at the California Institute of the Arts, alongside harp, flute, cello and Ghanaian music and dance. He then went on to receive an MMus in orchestral conducting from the Royal Conservatoire of Scotland. While studying in Scotland he played trumpet with the 麻豆官网首页入口 Scottish Symphony Orchestra on many occasions. He continued his conducting studies in the Netherlands.

Ryan Bancroft

Arweinydd

Magwyd Ryan Bancroft yn Los Angeles a daeth i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf yn 2018 pan enillodd y Wobr Gyntaf a Gwobr y Gynulleidfa yng Nghystadleuaeth enwog Malko i Arweinyddion Ifanc yn Copenhagen. Ers mis Medi 2021, Ryan yw Prif Arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y 麻豆官网首页入口. Bydd hefyd yn ymgymryd â swydd Prif Arweinydd Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Stockholm ym mis Medi.

Ers ennill Cystadleuaeth Malko, mae Ryan wedi ymddangos am y tro cyntaf gyda rhai o brif gerddorfeydd Ewrop, gan gynnwys y Philharmonia, Cerddorfa Ffilharmonig Llundain, Cerddorfa Symffoni'r 麻豆官网首页入口, Cerddorfa Symffoni Genedlaethol Denmarc, Cerddorfa Ffilharmonig Rotterdam, Rai Torino a’r Ensemble Intercontemporain. Mae wedi gweithio gyda Symffoni Toronto, Symffoni Baltimore a Symffoni Houston yng Ngogledd America, ac mae’n ymddangos am y tro cyntaf yn y tymor 22/23 gyda Symffoni Dallas a Cherddorfa Symffoni Minnesota. Mae Ryan hefyd yn y Royal Festival Hall gyda’r Philharmonia a Syr Stephen Hough, ac yn y Concertgebouw gyda Cherddorfa Ffilharmonig yr Iseldiroedd yn ystod tymor 22/23. Bydd hefyd yn dychwelyd at gerddorfeydd Symffoni Dinas Birmingham, Symffoni Malmö a Cherddorfa Symffoni Göteborg.

Mae Ryan yn frwd dros gerddoriaeth gyfoes ac mae wedi perfformio gydag Ensemble Nieuw uchel ei barch o Amsterdam, wedi cynorthwyo Pierre Boulez mewn perfformiad o’i Sur Incises yn Los Angeles, ac wedi bod yn rhan o berfformiadau cyntaf o weithiau gan Sofia Gubaidulina, John Cage, James Tenney ac Anne LeBaron. Dychwelodd i’r Ensemble Intercontemporain ym Mharis ym mis Mawrth.

Bu’n astudio’r utgorn yn Sefydliad Celfyddydau Califfornia, ochr yn ochr â’r delyn, y ffliwt, y soddgrwth a cherddoriaeth a dawns Ghana. Yna aeth ymlaen i dderbyn MMus mewn arwain cerddorfaol o Gonservatoire Brenhinol yr Alban. Tra’n astudio yn yr Alban, bu’n chwarae’r utgorn gyda Cherddorfa Symffoni 麻豆官网首页入口 yr Alban ar sawl achlysur. Parhaodd â’i astudiaethau arwain yn yr Iseldiroedd.