Michael Christie
Conductor
Michael Christie first came to international attention in 1995 when he was awarded a special prize for ‘Outstanding Potential’ at the First International Sibelius Conductors’ Competition in Helsinki. He became an apprentice conductor with the Chicago Symphony Orchestra, working with Daniel Barenboim there and at Berlin State Opera.
He is the Artistic and Music Director of the New West Symphony in the Los Angeles area. Deeply committed to new music, he programmes a wide range of repertoire from Mozart to jazz, with a diverse range of groups including Mexican and Ukrainian ensembles. During COVID-19, Michael led the 2020-21 season of digital concerts (Global Sounds, Local Cultures) highlighting the music, cultures and family traditions within the Southern California community while emphasizing connections with orchestral repertoire.
His conducting career includes serving as Chief Conductor of the Queensland Orchestra, Music Director of the Phoenix Symphony, Brooklyn Philharmonic and Colorado Music Festival, where he is now Music Director Emeritus as well as guesting with the Los Angeles Philharmonic among other major American orchestras. His New York Philharmonic debut came in 2007 when he replaced an ailing Riccardo Muti at short notice.
Michael was Music Director at Minnesota Opera (2012-18), leading repertoire staples including La traviata, La bohème and Das Rheingold to performances of contemporary operas including Bernard Herrmann’s Wuthering Heights and the world premieres of Paul Moravec’s The Shining and Kevin Puts’ Silent Night, which won the Pulitzer Prize.
His work in Europe includes the European premiere of John Corigliano’s The Ghosts of Versailles at Wexford Festival Opera and performances at Opernhaus Zürich, Finnish National Opera and Scottish Opera. He also conducted the WNO Orchestra at the 2021 Cardiff Singer competition.
He won a 2019 GRAMMY award (Best Opera Recording) for the world premiere recording of Mason Bates’ The (R)evolution of Steve Jobs with The Santa Fe Opera which he had premiered in 2017. He leads this work with the San Francisco Opera this September.
Michael Christie
Arweinydd
Daeth Michael Christie i sylw rhyngwladol am y tro cyntaf yn 1995 pan gafodd wobr arbennig am ‘Botensial Eithriadol’ yng Nghystadleuaeth Ryngwladol Gyntaf Sibelius i Arweinyddion yn Helsinki. Daeth yn brentis arweinydd gyda Cherddorfa Symffoni Chicago, gan weithio gyda Daniel Barenboim yno ac yn Opera Talaith Berlin.
Ef yw Cyfarwyddwr Artistig a Cherddoriaeth New West Symphony yn ardal Los Angeles. Gydag ymrwymiad angerddol i gerddoriaeth newydd, mae’n rhaglennu dewis eang o repertoire o Mozart i jazz, gydag amrywiaeth eang o grwpiau gan gynnwys ensembles o Fecsico ac Wcráin. Yn ystod COVID-19, arweiniodd Michael dymor cyngherddau digidol 2020-21 (Global Sounds, Local Cultures) gan dynnu sylw at y gerddoriaeth, y diwylliannau a’r traddodiadau teuluol yng nghymuned De California ar yr un pryd â phwysleisio cysylltiadau â repertoire cerddorfaol.
Mae ei yrfa fel arweinydd yn cynnwys gweithio fel Prif Arweinydd Cerddorfa Queensland, Cyfarwyddwr Cerdd Cerddorfa Symffoni Phoenix, Cerddorfa Ffilharmonig Brooklyn a G诺yl Gerddoriaeth Colorado, lle mae bellach yn Gyfarwyddwr Cerdd Emeritus yn ogystal â bod yn westai gyda Cherddorfa Ffilharmonig Los Angeles ymhlith cerddorfeydd mawr eraill America. Ymddangosodd am y tro cyntaf gyda Cherddorfa Ffilharmonig Efrog Newydd yn 2007 pan gamodd i'r bwlch ar fyr rybudd yn lle Riccardo Muti, oedd yn wael.
Roedd Michael yn Gyfarwyddwr Cerdd gydag Opera Minnesota (2012-18), gan arwain repertoire o weithiau craidd oedd yn cynnwys La traviata, La bohème a Das Rheingold i berfformiadau o operâu cyfoes, gan gynnwys Wuthering Heights gan Bernard Herrmann a’r perfformiadau cyntaf yn y byd o The Shining gan Paul Moravec a Silent Night gan Kevin Puts, a enillodd Wobr Pulitzer.
Mae ei waith yn Ewrop yn cynnwys y perfformiad cyntaf yn Ewrop o The Ghosts of Versailles gan John Corigliano yng Ng诺yl Opera Wexford a pherfformiadau yn Opernhaus Zürich, Opera Cenedlaethol y Ffindir ac Opera’r Alban. Ef hefyd oedd yn arwain Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yng nghystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd 2021.
Enillodd wobr GRAMMY yn 2019 (Y Recordiad Opera Gorau) am y recordiad cyntaf yn y byd o The (R)evolution of Steve Jobs gan Mason Bates gydag Opera Santa Fe yr oedd wedi’i berfformio am y tro cyntaf yn 2017. Mae’n arwain y gwaith hwn gydag Opera San Francisco ym mis Medi eleni.