麻豆官网首页入口


Explore the 麻豆官网首页入口

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆官网首页入口 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sian Elin Lle cyfyng i farw

Sian Elin Dafydd yn ysgrifennu o Frwsel

Dydd Llun, Medi 30, 2002

Mae'n digwydd inni gyd ond prin iawn yw'r bobol sy'n edrych ymlaen ato.

Mae'n rhywbeth hollol gyffredin sy'n croesi pob ffin boed yn liw croen, iaith neu'n ddiwylliant.

Gweld eu hunain yn marw

Mae pawb, yn hwyr neu'n hwyrach, (ac yn hwyr iawn iawn yn fy achos i gobeithio!!!) yn cael ymweliad gan yr hen Angau a'i Gleddau Glas!

Droeon dwi wedi darllen hanes nifer yn honni iddynt farw wrth dderbyn llawdriniaeth gyda disgrifiadau anelwig o angylion yn eu croesawu!

Dwedant iddynt godi uwchben eu cyrff eu hunain gan weld y cyfan sy'n digwydd o'u cwmpas cyn ei heglu hi i gyfeiriad twnel o olau.

Yn bersonol rwy'n ddigon parod i aros yma cyn mentro ar hyd unrhyw dwnel deniadol!

Ond, o ddifrif, wrth fynd yn hynach ac yn enwedig ar ôl cael plant mae meidroldeb dyn yn dod yn fwy amlwg rywsut, mae'n rhaid meddwl gwneud ewyllys a thrafod y pethau "pe bai".

Drwy'r ffenast

Rai dyddiau yn ôl, yn hollol ddi-rybudd, fe'n hatgoffwyd o 'brosesau' naturiol bywyd.

A hithau'n fore braf o hydref, cerddai'r plant a minnau i lawr y stryd i gyfeiriad y car - y ddwy fach yn hel straeon am eu ffrindiau.

Sylwais ar ambiwlas ar gornel y Rue Gerard ond yn fy mhrusurdeb anghofiais y cyfan am y cerbyd a dychwelais o'r ysgol a mhen yn llawn manion bob dydd.

Wrth barcio nôl ar y stryd gwelais gerbyd mawr tebyg i winsh yn tynnu rhywun allan o ffenest llawr ucha ty cyfagos a sylweddolais mai corff marw oedd yn cael ei symud gan y gweithwyr.

Tai uchel a chul

Yma ym Mrwsel, oherwydd siap y tai, (yn bensaerniol mae nifer ohonynt yn uchel ac yn gul) fe symudir y cyfan, yn gelfi neu'n gyrff drwy ffenestri.

Sefais yno'n gwylio'n geg agored a phawb arall heblaw am y teulu yn bwrw ati'n brysur i fynd o amgylch eu pethau a throdd y traffig yn un rhibidi res er mwyn darganfod ffordd arall o gyrraedd pen y daith.

Meddyliais yn hir am yr hyn welais a thrafodais yr olygfa foreuol gyda ffrind sydd wedi byw sawl blwyddyn yma.

Chwarddodd wrth glywed fy stori brudd. Roedd y math yma o beth yn hollol gyffredin meddai.

Cynnal y marw

Roedd hi wedi rhannu lifft gyda tri gwr unwaith - gyda'r ddau ddyn byw yn pwyso ar yr un ymadawedig er mwyn ei gadw i fyny ar ei daith i lawr!

Arferai fyw mewn bloc uchel o fflatiau a dyma'r unig ffordd o symud y meirw allan o'r adeilad. Does dim rhyfedd felly bod y rhai hynaf yn fy nheulu yn byw mewn byngalos!

Mae systemau ail-gylchu Brwsel yn arbennig o dda ac fe ail-gylchir popeth o garton sudd oren i organau dynol.

Rhoi organau

Dysgais ffaith ddiddorol yn sgil y cyfan. Rhagdybir fod pawb sy'n byw yng Ngwlad Belg, yn Felgiaid ac yn bobol ddwad sydd wedi treulio chwe mis yma, yn rhoi eu horganau i wyddoniaeth feddygol ar eu marwolaeth.

Rhaid gwneud cais i gadw organau yma yn hytrach na'u rhoi! Mawr obeithiaf y byddaf i yn cadw fy holl organau yn ystod fy nghyfnod ym Mrwsel - gan gynnwys fy organ geg!!!!!






ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy