麻豆官网首页入口


Explore the 麻豆官网首页入口

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆官网首页入口 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sian Elin Celfyddyd plagio

Sian Elin Dafydd yn ysgrifennu o Frwsel

Dydd Llun, Ebrill 22, 2002

Mae'n codi braw arnai.
Ar ryw adeg yn ystod y flwyddyn ddiwetha' mae'r ferch ifanca' sy'n bedair oed wedi dod i adnabod Britney Spears.

Mae'n gallu enwi aelodau S Club 7 heb ddim problem na help gan ei chwaer fawr.

Mae'r adnabyddiaeth o'r 'sêr' yn fy mhoeni ychydig ond bellach mae fy nwy fach annwyl wedi troi i fod yn fodau sy'n bencampwyr ar blagio - i ddweud y gwir gallent swnian dros Gymru - a tase'r categori yma'n bodoli yng ngemau'r gymanwlad, byddai un yn derbyn y fedal aur a'r llall yn cael yr arian!

Bellach, fel bodau ifanc, mae'r ddwy yn cael eu targedu'n gyson i hoffi rhyw fwyd, dillad a nwyddau arbennig sy'n glwm â rhaglenni, ffilm neu bersonoliaethau.

Cenhedlaeth Blue Peter a Shep
Yn bersonol fe gymerodd flynyddoedd i fi gofio enwau cyflwynwyr Blue Peter. Shep y ci oedd y peth mwya cofiadwy a phrin oedd y nwyddau atodol nôl yn oes yr arth a'r blaidd.

Roedd gan bob plentyn bach Cymreig da ei lyfr llofnodion a fyddai'n gweld golau dydd mewn eisteddfodau - ond yn anffodus doedd casglu enwau selebs' blinedig Cymru ddim yn fy ysbrydoli i o gwbl!

Y teledu a'r sgrîn fawr yw arfau pwysicaf cwmnïau wrth iddynt dorri mewn i fyd plant.

Yn y gorffennol crewyd nwyddau oherwydd poblogrwydd cyfres ond nawr mae'r sioe a'r cynnyrch yn un, mae'n un ymgyrch farchnata fawr.

Plagio yn fusnes

Mae plagio yn fusnes sy'n dwyn elw oherwydd mae plant bellach yn dylanwadu ar rieni ac yn pwyso arnynt i brynu iogwrt Tweenies neu siocled Harri Potter.

Dyma'n union sy'n digwydd i mi a dwi'n crynu yn fy sgidie pan ddaw'r plant i siopa 'da fi mewn archfarchnad.

Mae'r siop leol yn cynnig trolîs bach i blant ac mae'r ddwy yn rasio rownd yn llenwi fel tasent yn gystadleuwyr ar Supermarket Sweep!

A dwi wastad yn gorfod eu gwagio a stwffio brogaod siocled Harri Potter, pethe gwallt Britney Spears, siampw Barbie a sticeri Disney nôl ar y silffoedd.

Apêl angenfilod

Ar ddechrau gwyliau'r Pasg fe es i a'r merched i weld y ffilm Monsters Inc ym Mrwsel cyn mynd i Lisbon ar wyliau.

Oherwydd iddynt weld hwn llwyddodd y ddwy i berswadio'u tad (sy'n cytuno i unrhyw beth ar ôl cael cusan ganddynt!) i brynu grawnfwyd Monsters Inc i frecwast, jyst er mwyn gweld pa bethau rhad ac am ddim oedd yn y bocs!

Fe blygais innau hefyd i'r poeni parhaus a phrynwyd llyfr lliwio yr angenfilod iddynt - oherwydd y tywydd gwlyb yn Lisbon i chi gael deall!

Bellach mae marchnata i blant yn debyg iawn i farchnata i oedolion gan fod eu dillad a'r ffordd maent yn treulio'u hamser hamdden yn debycach.

Mae nifer fawr o sianelau lloeren yn bwrpasol ar gyfer plant, felly mae'r cyfryngau yn rhan bwysig o'u bywydau.

Rheoli dylanwad y sgrîn

Mae rhai gwledydd Ewropeaidd yn ceisio rheoli y dylanwadau yma fwyfwy ac yn Sweden a Norwy 'dyw cwmnïau ddim yn cael hysbysebu a thargedu plant sydd o dan 12 oed ar y teledu ac mae'r ddwy wlad am weld sefyllfa debyg yng ngweddill gwledydd yr Undeb.

Yng Ngwlad Groeg does dim hysbysebion ar gyfer teganau yn cael eu darlledu rhwng saith y bore a deg y nos.

Dwi'n deall ein bod yn byw yn oes y cyfryngau ond dydw i ddim eisiau i'r plant droi'n oedolion bach a thyfu i fyny heb fwynhau pethau plentynnaidd.

Mae angen gwisgo dillad sydd ddim yn mynd â'i gilydd, gadael i'r gwallt fod yn glymau a mwynhau'r rhyddid - mae'r busnes yma o dyfu yn digwydd yn ddigon cyflym - heb unrhyw gymorth!





ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy