麻豆官网首页入口


Explore the 麻豆官网首页入口

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



麻豆官网首页入口 Homepage

Cymru'r Byd
» Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r M么r Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sian Elin Hollti blew

Sian Elin Dafydd yn ysgrifennu o Frwsel lle mae hi a'i theulu yn awr yn byw.

Dydd Llun, Mawrth 11, 2002

Gwleidydd yn poeni am wallt ei ben
Mae'r byd gorllewinol yn rhoi pwyslais mawr ar bryd a gwedd.

Ac yn ystod y misoedd diwethaf dyfarnodd Tom Ford, un o hoelion wyth y byd ffasiwn, mai Hamid Karzai, arweinydd dros dro Affganistan, yw y gwleidydd â'r steil mwya' trawiadol.

Y peth olaf ar ei feddwl

O ystyried yr hyn mae ei wlad newydd ddioddef, mae'n siwr mai'r peth olaf sydd ar ei feddwl yw lliw neu siap het newydd ond dyna'r neges - anghofiwch am y ffoaduriaid, dilynwch y ffasiwn ddiweddara'.

Ond mae delwedd yn beth pwysig iawn mewn gwleidyddiaeth er falle na fyddai Ann Widdecombe a nifer o aelodau'r Cynulliad yn cytuno.

O fod yn llygad y cyhoedd mae'n rhaid bod yn drwsiadus ac wrth gwrs rhaid ceisio cadw'n ifanc ond mae Canghellor yr Almaen, Gerhard Schröder, yn dechrau ymddwyn yn eithafol a'r rheswm ei wallt!

Tan yn ddiweddar, doedd dim barn bendant ar 'steil' Schröder - does dim byd hynod amdano o ran pryd a gwedd, mae'n ddyn canol oed sy'n gwisgo siwtiau tywyll ceidwadol fel pob pennaeth Ewropeaidd arall - ond nawr mae'r blew ar ei ben yn destun siarad.

Anghofiwch am yr economi, yr amgylchedd a hiliaeth, mae'r canghellor 57 oed yn bwriadu mynd i gyfraith, oherwydd amheuaeth am liw ei wallt.

Pa liw yw ei wallt

Meiddiodd asiantaeth newyddion ddyfynu geiriau ymgynghorydd delwedd yn ddiweddar;

"Dylai Schröder gyfaddef ei fod yn lliwio ei wallt," ac o ganlyniad mae'r arweinydd wedi mynd yn benwan fel petai!

"Yn bersonol dwi'n credu ei fod yn ddyn lwcus iawn, mae ganddo lond pen o flewiach brown tywyll tra bo nifer o'i oedran e wedi hen golli'r blew heb sôn am y lliw - dwi'n cofio fy nhad pan oedd e'n 57!

Ond NA, byddai'n well ganddo weld Banc Canolog Ewrop yn syrthio cyn dioddef sylwadau am ei ben.

Bellach mae wedi cael ei coiffeur personol, Udo Walz - sy'n trin gwallt y cyfoethog a'r enwog yn yr Almaen - i dyngu llw.

Sel bendith ei wraig

Mae Walz wedi derbyn sêl bendith Doris, gwraig Schröder, wrth ddatgan i'r byd a'r betws bod blew yr arweinydd mewn cyflwr di-liw, naturiol.

Ac wrth gwrs 'da ni i gyd yn gwybod bod gwleidyddion gan gynnwys Clinton wastad yn dweud y gwir ar ôl tyngu llw!

Yn gyntaf, beth yw'r ots os yw Schröder yn lliwio'i wallt? Yr hyn sy'n bwysig i'r Almaen ac i'r Undeb Ewropeaidd yw ei safon fel arweinydd.

Peidied neb â gwadu mai byd yr ifanc yw hwn ac mae'r rhan fwyaf ohonom yn ein ffyrdd ein hunan yn gwneud rhyw ymdrech i gadw'n drwsiadus.

Yn ail mae'n hollol dderbyniol i ferched sôn am ddeiets, lliwio'u gwalltiau a gwisgo colur a dillad ffasiynol, pam felly fod dynion yn teimlo y dylid cadw eu cyfrinachau ymbincio' o dan glo?

Gwastraffu arian ac amser
Os yw lliwio ei wallt yn ei wneud yn hapus, dyna ni. Yr hyn sydd yn fy mhoeni yw bod Schröder yn gwastraffu amser ac arian cyhoeddus yn cymryd camau cyfreithiol dros rhywbeth mor ddin-nôd â'i wallt.

Serch hynny, byddai'n braf gweld ambell aelod o'r Cynulliad yn dilyn esiampl Schröder heb fynd dros ben llestri.

Mae'n bryd i'r arweinydd gwalltog ym Mae Caerdydd ystyried cael mêcofer falle byddai cael steil newydd yn gwneud byd o les i fyd gwleidyddol Cymru!





ewrop

Gwlad Belg
Diwrnod Ewropeaidd

Y dref lle bu Marvin Gaye yn curo a chyfansoddi

Je m'appelle Sian

Gweld y trysor

Gemau a gorilas

Bwrlwm bywyd plant

Bargeinion wrth deithio Ewrop

Partis - a baw cwn - yn y stryd

Codi cwestiwn am fywyd

Gwyliau chwedlonol

Cyfrif bendithion

Celfyddyd plagio

Y ferch sy'n hoffi denim

Hollti blew

Yn nheyrnas y deiasoriaid

Lle cyfyng i farw

Brwydr bechgyn Wilmots

Syrffio'r sianelau

O am fod yn Zeta Jones...

Ymweliad arbennig

Plant pobl eraill

Nadolig ym Mrwsel

Blasu'r oes a fu ym Mhenfro

Prifddinas ifanca Cymru yn creu argraff salw

Ar drywydd y Bachan Pisho

Addunedau 2002

Meddwi ar harddwch Brugge

Diwedd y gân yw'r Ewro!

Dechrau byw - ym Mrwsel

Catalog Nadolig y plant

Airbus mewn Ewrop ffederal

Plismyn Brwsel

Brwydr y troliau cwrw

Brwsel - trafodd ewthanasia




About the 麻豆官网首页入口 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy