'Yn fodlon ar drefn ariannu S4C'

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Mae'r sianel yn wynebu gostyngiad yn ei chyllideb

Mae'r Gweinidog Diwylliant Ed Vaizey wedi dweud ei fod yn fodlon ar drefn newydd o ariannu S4C.

Fe fydd S4C yn derbyn dros 拢76 miliwn y flwyddyn o ffi'r drwydded o flwyddyn nesa ymlaen.

Dywedodd nad oedd unrhyw beth o'i le wrth gael cynrychiolydd o'r 麻豆官网首页入口 ar y panel sy'n penodi aelodau newydd awdurdod S4C.

Ychwanegodd nad oedd angen deddfwriaeth newydd i egluro'r berthynas rhwng y gorfforaeth a'r sianel.

Bu Adran Ddiwylliant Llywodraeth Prydain yn cynnal ymgynghoriad ar newidiadau i strwythur a chylch gorchwyl y ddau ddarlledwr.

'Diogelu annibyniaeth'

Wrth ymateb, dywedodd S4C mewn datganiad: "Mae S4C yn croesawu derbyniad a chadarnhad y Gweinidog o'r cytundeb a gyrhaeddwyd rhwng Ymddiriedolaeth y 麻豆官网首页入口 ac Awdurdod S4C ac yn credu fod y trefniant partneriaeth newydd yn diogelu annibyniaeth olygyddol a gweithredol S4C.

"Mae'n glir o ymateb y Gweinidog ei fod yn cytuno na fydd cynrychiolaeth Ymddiriedolaeth y 麻豆官网首页入口 ar unrhyw banel dewis aelodau Awdurdod S4C yn effeithio ar yr annibyniaeth honno.

"Bydd cynrychiolydd wedi ei enwebu gan Ymddiriedolaeth y 麻豆官网首页入口 ar y paneli dewis yn y dyfodol".

Bydd y Cytundeb Gweithredol rhwng Ymddiriedolaeth y 麻豆官网首页入口 ac S4C yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn yr haf.

Bydd y Cytundeb yn gosod allan yn fanwl y trefniadau atebolrwydd ac ariannu a sut fydd S4C a'r 麻豆官网首页入口 yn cydweithio i sicrhau cydweithredu ac effeithiolrwydd orau posibl.

拢100尘

Ar hyn o bryd mae S4C yn derbyn y mwyafrif o'i chyllid drwy grant oddi wrth y llywodraeth oedd yn 2009-10 yn werth tua 拢100 miliwn.

Fel rhan o'r o Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr Llywodraeth San Steffan fis Hydref y llynedd cyhoeddwyd hefyd y byddai'r 麻豆官网首页入口 yn bennaf gyfrifol am ariannu'r Sianel ar 么l 2013.