Pedair blynedd arall o doriadau?

Disgrifiad o'r llun, Bydd Cyllideb Ddrafft nesaf Cymru'n cael ei datgelu ar Hydref 8

Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu toriadau posib o bron 拢1.5 biliwn dros y pedair blynedd nesaf yn 么l adroddiad newydd gan y Sefydliad Astudiaethau Ariannol (IFS).

Dywed yr adroddiad y bydd ar ben toriadau o bron 10% ers 2010.

Ond mae'r adroddiad hefyd yn datgelu bod y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi gweld toriadau llymach o lawer nag yn Yr Alban a Lloegr.

Bydd yr adroddiad yn cael ei lansio mewn cynhadledd arbennig ddydd Iau fydd yn ystyried y newidiadau radical fydd eu hangen er mwyn cwrdd 芒'r heriau ariannol i ddod.

Meysydd eraill

Dywed yr IFS bod gweinidogion Cymru yn wynebu o leia' pedair blynedd arall o doriadau, ochr yn ochr 芒 phwysau cynyddol ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, allai weld toriadau dramatig mewn gwariant ar feysydd eraill megis trafnidiaeth, diwylliant a thai.

Mae'r cwtogiad gwariant yma yn debygol o fod rhwng 拢800 miliwn ac 拢1.4 biliwn gan ddibynnu ar dwf economaidd a phenderfyniadau ariannol llywodraeth y DU.

Ond mae'r IFS hefyd wedi dadansoddi penderfyniadau cyllidol Llywodraeth Cymru ers 2010.

Maen nhw'n dweud bod y gyllideb iechyd wedi ei thorri o 8.6% mewn termau real, yr adran gyllid o 20.8% ac addysg a sgiliau o 10%. Er hynny fe welodd llywodraeth leol doriad tipyn llai o tua 4.5%.

Fel gwrthgyferbyniad i hynny mae cyllideb iechyd yr Alban wedi cynyddu o 0.4% dros yr un cyfnod, a bu cynnydd yn Lloegr mewn gwariant ar y GIG o 3.1%.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ymosod yn gyson ar yr hyn y maen nhw'n ei alw'n "doriadau digynsail" i'r GIG yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu eu bod wedi dilyn "cyllidebau nodweddiadol Cymreig sy'n adlewyrchu ein blaenoriaethau, ac sy'n seiliedig ar egwyddorion tegwch a chyfiawnder cymdeithasol".

Bydd cyllideb ddrafft Cymru yn cael ei datgelu ar Hydref 8 yn dilyn adolygiad o wariant ar y GIG dros yr haf.

'Penderfyniadau anodd'

Dywedodd David Phillips, sef awdur yr adroddiad ac economegydd ymchwil gyda'r IFS: "Mae cynlluniau llymder ar draws y DU yn awgrymu pedair blynedd arall o doriadau i gyllideb Llywodraeth Cymru ar ben y toriadau sydd eisoes wedi cael eu gweithredu ers 2010.

"Hyd yn oed pe bai cynnydd o ryw 20% yng nghyllideb Llywodraeth Cymru rhwng 2017-18 a 2025-26, fe fyddai dal angen gwneud penderfyniadau anodd.

"Gallai poblogaeth sy'n heneiddio a galw cynyddol am wario ar iechyd, gofal cymdeithasol ac ysgolion olygu y bydd gwario ar wasanaethau eraill ymhen 12 mlynedd yn sylweddol is na'r lefelau presennol.

"Dylai ffocws Llywodraeth Cymru fod ar ffyrdd o leihau'r galw a phwysau ariannol ar y gwasanaethau cyhoeddus yma dros y blynyddoedd i ddod."

Bydd y gynhadledd ddydd Iau yn cael ei hannerch gan Sir Paul Williams sy'n arwain comisiwn i'r angen am ddiwygiadau i wasanaethau cyhoeddus o iechyd, addysg a llywodraeth leol. Bydd y comisiwn yn adrodd yn 么l o fewn y misoedd nesaf.