Jones: 'Rhaid ad-drefnu cynghorau'

Disgrifiad o'r fideo, arlein carwyn2

Ar drothwy cyhoeddi adroddiad ar ddyfodol llywodraeth leol mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi dweud y bydd rhaid ad-drefnu cynghorau.

Mewn cyfweliad i raglen Y Sgwrs dywedodd bod 22 o awdurdodau lleol yn ormod ond byddai'n rhaid aros i weld beth mae Comisiwn Williams yn ei ddweud yngl欧n 芒 faint o gynghorau sydd eu hangen.

Dywedodd bod sawl cyngor "wedi stryglo ers blynyddoedd" i ddarparu gwasanaethau a bod angen strwythur cryf. Mae disgwyl i adroddiad y Comisiwn gael ei gyhoeddi wythnos nesa.

Hefyd yn ystod y rhaglen, mae'r prif weinidog yn dweud ei farn am y ffrae rhwng Undeb Rygbi Cymru a'r rhanbarthau, gan ddweud y byddai'n hapus i wrando ar y ddwy ochr.

Dyw'r ddwy ochr ddim yn gallu cytuno ar ffordd ymlaen, wedi i'r pedwar prif glwb wrthod arwyddo cytundeb newydd gyda'r undeb.

Yn gynharach ddydd Mercher, fe wnaeth aelodau o'r blaid Geidwadol a Phlaid Cymru alw am ymchwiliad annibynnol gan y Cynulliad i'r sefyllfa.

Bydd Mr Jones hefyd yn siarad am y sefyllfa yn dilyn y llifogydd, gan gyfeirio at arian Ewropeaidd.

Bydd Y Sgwrs yn cael ei ddangos yn fyw heno am 9:30pm, yn syth ar 么l Newyddion 9, ar S4C ac ar .