Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Tafod Elai
Llestri 'Gaudy Welsh.' Llestri 'Gaudy Welsh.'
Mawrth 2005
Wyddoch chi rywbeth am y llestri cywrain hyn? Oes gennych ddiddordeb tybed? Diolch i garedigrwydd casglwr brwd o'r Creigiau dyma ychydig o'r hanes.
Wrth i'r Crynwr William Penn gael ei erlid o Brydain oherwydd ei gred, ymsefydlodd ym Mhennsylvania ym 1666 - dilynwyd ef gan eraill o'r un gred a chynigodd waith iddynt i ddatblygu'r 'Byd Newydd'.

Cyd-ddigwyddai hyn oll gyda chyfnod o galedi mawr ym Ewrop ac o'r herwydd ymfudodd llawer iawn i Ogledd America yn chwennych gwell byd. Dywedir i ryw 7,000 o Gymry ymfudo i Ogledd America o gwmpas canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan gynnwys 250 o Formoniaid Cymraeg o Ferthyr Tydfil sefydlodd yn Salt Lake City. Cyrhaeddodd yr ymfudo o Gymru ei anterth oddeutu 1900 - 1910 pan groesodd rhyw 17,000 o Gymry dros Fôr yr Iwerydd. Dyna ddiwedd y bennod gyntaf o safbwynt y cefndir hanesyddol!

Ond o ble y daeth y llestri 'Gaudy Welsh'? O ganol yr unfed ganrif ar bymtheg byddai'r boneddigion Seisnig yn buddsoddi yn y porslen ceinaf a wnaed ar ynysoedd Japan. Cynhyrchwyd y porslen harddaf ar Ynys Kyushi ac fe'i allforiwyd o borthladd Imari - a dyna'r enw a roddwyd ar y porslen arbennig yma.

Hyd at 1760 deuai'r rhan helaethaf o borslen cain o'r dwyrain ac er mwyn ysgogi cynhyrchu crochenwaith yma ym Mhrydain gosododd y llywodraeth drethi mewnforio hallt iawn ar gynnyrch y dwyrain. Datblygodd crochendai niferus yma ym Mhrydain yn sgil y galw cynyddol am tseina a phorslen gyda llawer o'r crochendai adnabyddus yn copïo patrymau'r Imari. Cynhyrchwyd tseina o'r ansawdd uchaf gan gwmnïau megis Coalport, Davenport, Derby, Spode, Chelsea, Minton, Worcester - ac er taw byr eu hoedl - Abertawe a Nantgarw.

Roedd y crochendai Cymreig yn eu hanterth rhwng 1800 a 1820. Llestri ar gyfer y bonedd a gynhyrchwyd gan y crochendai y cyfeiriwyd atynt eisoes ond dyheai'r werin bobl am berchen ar lestri cyffelyb ond mwy fforddiadwy, felly sefydlwyd crochendai a gynhyrchai lestri cymharol rad a lliwgar yn ardal Swydd Stafford, Sunderland a Newcastle.

Llestri oedd yn drwm dan ddylanwad patrymau'r Imari. Caent eu hadnabod fel y Gaudy Dutch, Gaudy Ironstone, Gaudy Staffordshire a'r Gaudy Welsh. Cafodd patrymau gwreiddiol y Gaudy Welsh a gynhyrchwyd yn Abertawe a Llanelli eu copfo gan lawer o'r crochendai newydd a sefydlwyd yn Swydd Stafford. Tyfodd y diwydiant i'r fath raddau yn yr ardal honno fel buan iawn y gelwid hi 'Y Potteries'.

'Nôl yng Nghymru cafodd llestri eu gwneud yn Abertawe o tua 1764 hyd at 1870. Crochenwaith a wnaed i gychwyn yna yn ddiweddarach porslen mwy cain. Cysylltir yr enw William Billingsley crochenydd ac addurnwr cain iawn gyda llestri Nantgarw ac Abertawe fel ei gilydd.

Aeth ef ynghyd â thîm o weithwyr medrus o grochendy Nantgarw i ofalu am waith Abertawe ym 1814. Cynhyrchwyd y 'Swansea Fine China' hyd at 1870 - tseina o ansawdd arobryn iawn a'r cyfan wedi'i addurno efo llaw. Ond oherwydd nifer o broblemau technolegol wrth gynhyrchu, cwta un darn allan o bob deg fyddai'n cyrraedd y safon foddhaol - felly'n amlwg arweiniai hyn at broblemau cynhyrchu dybryd.

Wedi methiant cynhyrchu'r llestri porslen cain yn Abertawe trowyd i gynhyrchu crochenwaith o ansawdd is - darnau ar gyfer defnydd pob dydd y werin bobl darnau a nodweddir gan eu lliwiau hyfryd - glas cobalt, oren dwfn, coch a gwyrdd weithiau ar gefndir gwyn dyna'r 'Gaudy Welsh'. Adnabuwyd hwynt yn ôl eu patrymau - enwau megis Aberaeron, Asia, Bethesda, Bodnant, Gwynedd, Harlech, Llangennith, Llangollen, Menai, Rhiwderyn a llu o enwau eraill.

Erbyn hyn roedd crochendai Swydd Stafford yn eu hanterth ac yn gynhyrchiol dros ben. Oherwydd trafferthion eto daeth cynhyrchu i ben yn Abertawe ym 1910 ac fe drosglwyddwyd cynhyrchu llestri Abertawe ynghyd â'u patrymau i Swydd Stafford lle y parhawyd i gynhyrchu llestri a adnabyddwyd fel y 'Gaudy Welsh'.

Gofalwch amdanynt os ydynt yn eich meddiant. Mae iddynt hanes difyr a chryn werth bellach, mae'n siŵr.

Diolch o galon i H.R. am rannu'r wybodaeth efo ni.


Cyfrannwch

Purwen Williams o Ynys Mon
Yr wyf wedi cael hyd i wefan sydd yn ddefnyddiol a sydd yn rhoi hanes plaen a hawdd am y llestri yma (Gaudy Welsh). Ymwelwch â'r gwefan a chofrestrwch. Gwerthfawr i ymweld a'r wefan yma:- www.gaudy-welsh.com

Cysylltiadau Rhyngrwyd
http://www.gaudy-welsh.com Diolch John Llewelyn Davies

siwan.hill@btinternet.com
Mae gan Monica A South ddau lyfr ar y llestri ond maen nhw yn ddrud iawn. Gellir eu prynu oddi wrthi o Po Box 48, Abergavenny, "Gaudy Welsh Visual Reference" am £82 a "Volume 2" am £75. Mae gwefan:- www.theartchive.com/gaudy_welsh.htm yn lle ardderchog i gael lluniau ac ychydig o wybodaeth am y llestri hyfryd yma. Pob hwyl yn ymchwilio amdanynt. Siwan

MEINIR OWEN o'r Groeslon Caernarfon
Erthygl ddiddorol iawn. A fedrwch awgrymu llyfr (gyda lluniau lliw) i mi ei brynu ar gyfer adnabod y gwahanol batrymau?

Fedrwch chi helpu gyda'r cais hwn? GOL


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý