Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Dre
Grwp Terminal 24 Da iawn hogia' Terminal 24
21 Gorffennaf 2003
Mae'n rhaid llongyfarch grwp o dre' a lwyddodd i gyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau ar raglen C2, Radio Cymru.

Mae Terminal 24 yn un o chwe grwp a lwyddodd i gyrraedd y rownd derfynol. Mi fu'r grwp yn perfformio yn Ysgol Syr Hugh yr wythnos diwetha' gyda'r set o wyth cân yn cael ei recordio i'w darlledu ar C2 a'r gwrandawyr yn pleidleisior grwp gorau.

Aelodau Terminal 24 ydi Martin Sexton o Ffordd Llanberis (drymiau), Geraint Brown o Twtil (gitar fâs) a Dion Jones o Lanrug, ond a oedd yn arfer byw yn Stryd y Faenol (prif leisydd a gitâr flaen).

Grwp sy'n canolbwyntio ar gerddoriaeth roc pync ydi Terminal 24 ac mae'r hogia' yn hynod o falch eu bod nhw wedi cael y cyfle i gystadlu yn y rownd olaf. Maen nhw'n gobeithio y bydd hynny'n rhoi mwy o gyhoeddusrwydd iddyn nhw, mwy o gigs ac efallai cytundeb gyda label recordio.

Mae'r hogia' wedi bod yn ymarfer yn galed ers wythnosau ar gyfer y gystadleuaeth. Yn garej Geraint ar dop allt 'Gypsy Hill' y byddan nhw'n ymarfer ac mae pobol y stryd yn hen gyfarwydd â'u caneuon erbyn hyn. Mae plant Syr Hugh wedi bod yn mwynhau cyngerdd am ddim ar eu ffordd adref hefyd.

A bydd cyfle i weddill y dre' glywed Terminal 24 yn perfformio yn fuan a hynny ar Y Maes yn ystod Gwyl Caernarfon ddiwedd y mis.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý