Y mis dwytha, Malcolm Lloyd a Huw Jones o'r Cyffro a Rhys Harris o'r Trwynau Coch oedd yn edrych yn ôl ar y dyddiau da, ond nid nhw ydi'r unig hen rocars sy'n dal o gwmpas Dre. Rhiannon Tomos: Roedd Tanybont yn lle pwysig iawn iawn yn Steddfod Caernarfon (1979). Mi oedd y lle'n llawn bob pnawn ar gyfer sesiynau roc efo grwpiau Cymraeg newydd o bob math o steil. Dyna lle dechreuodd Ail Symudiad: roedd pobol yn dechra gweld fod rhywbeth da yn digwydd. Mae'r cyfnod hwnnw'n cael ei gyfri fel oes aur pop Cymraeg, ac yn Nhanybont y dechreuodd petha godi sbîd. O'n i wedi dechrau canu efo band blws a jazz yng Ngholeg Bangor yn y Steddfod Rynggolegol, ac mi benderfynon ni ganu yn sesiwn Sgrech yn Nhanybont. Doedd gennon ni ddim enw hyd yn oed; dyma'r trefnydd yn ein galw ni'n Grwp Rhiannon Tomos, oedd yn eitha naff - wnaethon ni newid wedyn i Rhiannon Tomos a'r Band. Mae pawb yn meddwl am Gaernarfon fel prifddinas y Gymru Gymraeg, ond nid y diwylliant gwleidyddol Cymraeg ydi diwylliant y Dre. Traddodiad brenhinol, milwrol Prydeinig sydd yma, ond mi ddaru 'Tnybont roi cyfle i lot o bobol Caernarfon weld mai nid jyst peth Welsh nash oedd canu pop Cymraeg, a rhoi hyder iddyn nhw fel Cymry. Cynhyrchydd efo Cwmni Da yn Lôn Parc ydi Gwyn Doctor erbyn hyn: Be sy'n rhyfedd ydi, fel band, sgin i ddim co' chwarae yna. Mwy o go' mynd yno i weld bandiau er'ill sy gen i. O'n i'n byw adre yn Llanfairfechan ar y dô1 ac yn ista'n ty'n gneud dim drwy'r wythnos, ond ar bnawn Sadwrn, dal bys i Fangor i Farrar Road, wedyn ar ôl y gêm, draw i G'narfon a'r Blac Boi.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |