Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Dre
Yr hogia'n dathlu Cewri Cae Glyn
Mai 2004
Am y tro cyntaf yn ei hanes mae tîm pêl-droed Dan 13 Cae Glyn wedi cyrraedd rownd derfynol Cwpan 'Menai Electrical' Cymdeithas Pêl-droed Arfordir Gogledd Cymru.
Ar ôl sgubo Llanrwst, Llandudno a Chei Connah o'r neilltu fe drechon nhw eu cymdogion o Ddyffryn Nantlle ar yr Oval yn y rownd gyn-derfynol. Mae'n dipyn o bluen yn het Cynghrair Gwyrfai fod dau o'u timau wedi gwneud cystal yn y Cwpan y tymor yma.

Daeth cefnogwyr o bob cwr i weld yr ornest, a'r Cofis ifanc gafodd unig gôl yr hanner cyntaf wrth i Iwan Owens benio'n nerthol i'r rhwyd o gic gornel berffaith Nathan Craig.

Chwaraewyd y gêm mewn ysbryd da drwyddi, ond yn yr ail hanner doedd gan y dyfarnwr, Gareth Jones, ddim dewis ond dynodi cic o'r smotyn i Cae Glyn wedi i Tomos Davies gael ei lorio yn y cwrt ar ôl rhediad llesmeiriol. Iwan Owens gymrodd y gic, fyddai wedi cyrraedd Bontnewydd oni bai fod 'na rwyd i'w rhwystro! Cae Glyn ddwy ar y blaen.

Er gwaethaf ymdrechion amddiffynnol dewr Nantlle, llwyddodd Cae Glyn i ymestyn eu mantais cyn y chwiban ola'. Nathan Craig unwaith eto yn allweddol yn y symudiad gan groesi'n gywir o'r asgell chwith i Gerwyn Jones benio i'r gôl.

Pob lwc felly i hogia' Cae Glyn yn erbyn Prestatyn yn y rownd derfynol, ar dir niwtral Conwy, yn ddiweddarach yn y mis.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý