A hwythau bellach yn hanner cant fe ddaeth yn o agos i'r rhif hwnnw ynghyd i hel atgofion am ddyddiau ysgol, a'u blwyddyn gynta yn arbennig, 'nôl ym 1965. Am resymau amlwg fe fethodd Tom Pritchard â dod adra o Seland Newydd, Peter Rowe o Awstralia a Gareth Lewis Jones o'r Eidal ond fe ddaeth eraill o bell ac agos - yn cynnwys Glyn o Lanfaircaereinion, Non o Gaerdydd, Gwyn o Fanceinion, Pauline o Wlad yr Haf ac Ann o Milton Keynes, heb sôn am John a Sioned y pâr priod o Ddyffryn Conwy oedd hefyd yn canlyn yn yr Ysgol. Roedd y trefnwyr wedi gobeithio cynnal yr aduniad pan oedd pawb yn ddeugain oed ond methu wnaethpwyd bryd hynny ac mae Wendy, Dilys, Marilyn, Egryn a Bryn yn ddiolchgar iawn i bawb a ddaeth 'nôl i Dre i ddathlu ddeng mlynedd yn ddiweddarach.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |