Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Dre
Un o luniau Tom Griffith Arlunydd hanesyddol
Rhagfyr 2005
Braint o'r mwyaf, yw cael cyflwyno un o arlunwyr mwyaf poblogaidd ein tref.
Magwyd Tom Griffith yn Stryd John Llwyd, un o hen strydoedd tref Caernarfon a enwyd ar ôl y pensaer o Twtil, John Lloyd, a fu'n gyfrifol am godi nifer o adeiladau adnabyddus, megis Capel Ebenezer, Y Farchnad yn Stryd y Plas a'r hen waith Nwy ar ffordd Santes Helen.

Cymerodd Tom at arlunio yn hogyn ifanc iawn ac mae ganddo gof o fynd yn rheolaidd i siop Rathbone Jones yn Stryd y Llyn i brynu papur arlunio arbennig am un geiniog y dudalen. Pan oedd yn naw oed bu raid iddo dreulio peth amser yn Ysbyty Eryri, Caernarfon, yn gwella ar ôl triniaeth lawfeddygol. Sylweddolodd rhai, bryd hynny, bod ganddo ddawn neilltuol i dynnu lluniau, a rhoddodd staff Eryri, ynghyd a'r Dr. Hilton Parry, anrheg iddo yn cynnwys tabledi dyfrlliw. Yna dechreuodd dynnu lluniau o rai o'r cleifion, a hyd yn oed un llun o Dr. Hilton Parry ar ymweliad a'r Ysbyty.

Yn yr Ysgol Rad ac Ysgol Segontium hefyd, daeth ei ddawn i amlygrwydd a rhoddwyd cefnogaeth iddo gan ei athrawon. Yn 1944 ac yntau yn ddim ond 17 oed, ymunodd a'r Llynges a threuliodd bedair blynedd yn y Dwyrain Pell. Gwnaeth ffrindiau a theulu o dras Cymreig yn Hong Kong, a chyda hwy y treuliodd llawer o'i wyliau o'r Llynges.

Aeth y teulu hwn ag ef i'r 'New Territory', lle roedd y golygfeydd yn wahanol, ond gwell oedd ganddo fraslunio'r brodorion, y Tsieineaid yn eu dillad traddodiadol gyda'u hetiau cwli, merched a phlant yn llafurio wrth ochr y lôn yn torri cerrig ar gyfer y diwydiant adeiladu.

Mae tlodi yn adrodd cyfrolau, yn fwy dynol, yn fwy real ac yn llawn teimlad. Yn anffodus, dim ond un llun sydd ar ôl yn ei feddiant, un o ferch Tsieineaidd gyda'i mam yn llafurio wrth ochr y lôn. Gadawodd y gweddill o'i luniau yn Kai Tak a Hong Kong.

Pan ryddhawyd ef o'r Llynges, aeth ar Gwrs Diploma, 5 mlynedd mewn Arlunio Masnachol a bu hefyd am ddwy flynedd mewn Ysgol Nos yn y Coleg Technegol, Bangor yn astudio o dan Mr. Burgess Sharrocks, arlunydd masnachol enwog yn ei ddydd.

Mae'n wir dweud bod pob darlun yn adrodd stori, ond teimlai Tom bod ffigurau dynol yn gwneud gwahaniaeth dirfawr i waith creadigol. Dechreuodd beintio lluniau o'r hen Gaernarfon dros 30 mlynedd yn ôl, ar argymhelliad ei ddiweddar gyfaill a'r hanesydd lleol, Cledwyn Flynn-Hughes, Cyfrifydd a oedd a'i swyddfa y drws nesaf i westy'r Black Boy. Ei syniad gwreiddiol ef ydoedd, ond gwyddai Tom, ar yr un pryd, bod hyn yn rhywbeth roedd ef hefyd yn awyddus i'w wneud.

Yn ffodus, o safbwynt hanesyddol, mae Tom wedi rhoi rhai o'i atgofion fel plentyn ar gynfas, rhai fel llun o'i rieni yn darparu Coeden Nadolig allan o ddau gy1ch pren a phapur lliwgar o Woolworths. Derbyniwyd y llun hwn i'w arddangos yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd, 1993, ynghyd ag un arall o blant yn chwarae 'Gêm Esgid' ar y stryd. Prynwyd yr olaf gan Dr. Alan Armstrong ar gyfer Prifysgol Agored Cymru.

Dyma'r math o ddarluniau sy'n codi hiraeth ac yn boblogaidd gan lawer o deuluoedd a adawodd eu gwlad enedigol a mynd i fyw dramor. Yr hyn a rydd bleser di ben draw i'r arlunydd yw cofio a phaentio rhai llefydd a chymeriadau nad ydynt yn bod bellach. Gwerthfawroga, hefyd, y gefnogaeth a gafodd gan ei deulu ar hyd y blynyddoedd ac yn arbennig felly gefnogaeth ei wraig Odette, sy'n hanu o'r Swistir, ac mae'n cydnabod hynny trwy ddefnyddio 3 llythyren ei henw morwynol ENZ a'u hychwanegu at ddwy lythyren gyntaf ei gyfenw GR i ffurfio'r enw GRENZ a dyma'r enw a ddefnyddia i arwyddo ei ddarluniau.

Mae'r enw GRENZ yn ein hatgoffa o'r gair Almaeneg am Y FFIN - DIE GRENZE. Tybed nad oes arwyddocâd yn ei ddewis o enw? Onid mynd â ni'n ôl dros Y FFIN i'r gorffennol yw'r hyn sy'n gwneud ei ddarluniau mor boblogaidd?

A'r Nadolig ar y trothwy, a hithau'n adeg chwilio am anrhegion, yn sicr bydd llawer ohonoch yn awyddus i wybod mwy am ddarluniau hanesyddol o Gaernarfon gan yr arlunydd Tom Griffith - Grenz.

T. MEIRION HUGHES


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý