Mae Grês yn adnabyddus ac yn cael ei hanrhydeddu am ei gwasanaeth a chyfraniad gwerthfawr i gerddoriaeth am flynyddoedd
lawer ar Ynys Môn.
Daeth y newyddion da i'n clyw ar ddechrau'r flwyddyn, ond nid dyma pryd y daeth Gres i wybod am yr anrhydedd byddai'n ei derbyn.
Cyrhaeddodd lythyr i
gartref Grês a'i gwr Donald Glyn a'u meibion Rhys a Siôn, ganol fis Tachwedd a bu rhaid iddi arwyddo y byddai'n cadw'r newyddion yn dawel tan ddechrau'r flwyddyn.
Roedd y
gyfrinach yn ddiogel rhwng Grês a Donald Glyn am sawl wythnos cyn cyhoeddwyd y newyddion i bawb yn y Flwyddyn Newydd.
Mae Grês yn gyfeilydd i Gôr Meibion y Traeth
ers deugain mlynedd ac yn arweinyddes ar ddau gôr yn y Llan
ers eu sefydlu, deng mlynedd yn ôl.
Mae Côr Meibion y Foel yn cyfarfod bob nos Fawrth, Côr Merched, Lleisiau Llannerch bob nos Fercher a Chôr Meibion y Traeth bob nos Lun.
Weithiau, bydd ganddi gyngerdd ar nos Wener neu nos Sadwrn a Chymanfa Ganu ar nos Sul! Prin iawn yw'r nosweithiau rhydd!
Beth fydd Grês yn
mwynhau ei wneud yn ei amser hamdden meddech chi?
Wel, ymlacio wrth y piano wrth gwrs, hynny ydi, os nad yw'n rhoi gwersi cerdd!
Ar ô1 dywed y newyddion da, daeth criw teledu Wedi 7 i ffilmio Grês wrth ei gwaith efo plant Ysgol Penysarn a gwelwyd y cyfweliad ar S4C y noson honno.
Mae Grês hefyd wedi ei chyfweld gan Dei Tomos ar ei raglen ar Radio Cymru.
Mae wedi derbyn llu o gardiau yn ei llongyfarch,
dros 160 ohonynt yn falch drosti ac yn credu fod yr anrhydedd yn un haeddiannol iawn.
Ymysg y cardiau, derbyniodd un gan Ieuan Wyn Jones A.C., Carwyn Jones P.W., Peter Hain A.S. ac Alur Ffred Jones A.C..
Mae hefyd wedi derbyn anrhegion lu a mawr yw ei gwerthfawrogiad a' diolch i bawb.
Yn ei geiriau ei hun, mae wedi bod yn ffodus iawn o'i gwaith ac wedi mwynhau cymaint.
Mae wedi cael cyfuno pleser, diddordeb a gwaith yn un.
Mae wedi cael cymdeithasu, gwneud ffrindiau a chymysgu a chymaint dros y blynyddoedd ac wedi mwynhau pob munud.
Nid oes gan Grês yr un bwriad o arafu a gwneud llai sydd yn newydd da i ni gyd!
Tra fod iechyd yr caniatáu, bydd Grês yn dal ati i weithio'n galed a rhoi gymaint i eraill.
Dymuniadau gorau i chi ym Mhalas Buckingham Edrychwn ymlaen i glywed yr hanes!