Ar Fynydd Parys Ebrill 2007 Dyna hanes Ieuan Wyn Jones AC yn ddiweddar. Cyngor Tref Amlwch oedd trefnwyr y daith, a hynny er mwyn codi arian at Sefydliad Aren Cymru.
Roedd yn un o 40 o deithiau trwy Gymru fel rhan o ymgyrch Taith dros Fywyd y Sefydliad.
Fe fu'r Aelod Cynulliad yn cerdded yr haf diwethaf hefyd, trwy Gymru gyfan bryd hynny er mwyn gwrando ar bryderon pobl o bob cwr o'r wlad.
Mae'n dweud iddo fwynhau cerdded tros Fynydd Parys yn fawr.
"Roeddwn yn hynod falch o gael bod yn rhan o'r ymgyrch i godi arian ac ymwybyddiaeth at y gwaith ardderchog sy'n cael ei wneud gan yr elusen," meddai.