Yn ffodus iawn, roedd yr
haul yn tywynnu a chafwyd
prynhawn arbennig o braf yn
ystod y daith ac yna yn y
seremoni wrth feini'r Orsedd
yn Ysgol Syr Thomas Jones.
Cychwynnodd yr orymdaith
o'r Ysgol Gynradd gyda Band
Porthaethwy'n arwain ac roedd
yn cynnwys y Derwydd
Gweinyddol, Cyn-Archdderwydd
yr Eisteddfod
Genedlaethol, Robyn LlÅ·n;
aelodau o Orsedd Môn,
Cyflwynydd yr Aberthged,
Plant y Ddawns Flodau,
gwahoddedigion, swyddogion
pwyllgorau lleol, cynrychiolwyr
o Eisteddfod Môn
Llandegfan ac unrhyw un arall
a oedd yn dymuno ymuno yn yr
orymdaith.
Yna cafwyd Seremoni'r
Cyhoeddi ar dir Ysgol Syr
Thomas Jones. Siôn Roberts a
Gruffydd Owen oedd cludwyr
Baner yr Orsedd. Yn ystod y
seremoni, roedd y Derwydd
Gweinyddol, Huw Goronwy'n
trosglwyddo'r awenau i'r
Derwydd newydd, Eurfon.
Canwyd Cân y Croeso gan Haf
Wyn gyda'i wyres, Ellen Ann.
Darllenwyd y Proclamasiwn gan Gofiadur yr Orsedd, Evan. Yn ystod y seremoni urddwyd saith o aelodau newydd i'r Orsedd gan gynnwys o'r ardal yma,
Evie Jones, Llannerch-y-medd i'r Wisg Werdd a Siân a Ken Owen, Marian-glas i'r Wisg Las.
Cyflwynwyd yr Aberthged gan Anys Jones gyda
phlant Ysgolion Cynradd Amlwch, Carreg-lefn, Moelfre a Rhosybol yn aelodau o'r Ddawns
Flodau. Datganwyd yr Arawd gan
Robyn Llyˆn ac estynnwyd croeso i bawb i Eisteddfod Môn Bro Llandegfan a gynhaliwyd yr
wythnos ddilynol gan Bill Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith ac rhoddwyd gwahoddiad i
Eisteddfod Gadeiriol Môn 2009 gan Alwen Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Amlwch a'r
Cylch. Hefyd, cyflwynodd copi cyntaf o'r Rhestr Testunau i'r Derwydd Gweinyddol. Mae'r Rhestr
Testunau ar werth ar hyn o bryd - am 50c yn unig - rhywbeth at ddant pawb.
Eisteddfod Môn
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |