Gwahoddwyd y grŵp yno i gymryd rhan yng Ngŵyl Rhannu Dau Ddiwylliant Gŵyl o amrywiol weithgareddau a drefnwyd i goroni dwy flynedd o gyfnewid diwylliannol rhwng Ynys Môn a Dalkey.
Yn rhan o'r prosiect bu dawnswyr a cherddorion Ffidl Ffadl yn diddanu nifer o Wyddelod a ymwelodd â Môn yn ystod y cyfnod a chafwyd sawl noson hwyliog a chofiadwy yn eu cwmni. Mae'r noson pan fynnai un Gwyddel bach fod yn 'Ddafad Gorniog' yn y ddawns arbennig honno, yn sicr o aros yn y cof am beth amser.
Yn ogystal â Ffidl Ffadl roedd nifer o artistiaid, beirdd a chantorion Cymru wedi croesi i'r Ynys Werdd i gyfrannu yn y dathliadau. Yn ystod yr Ŵyl bu Ffidl Ffadl yn rhannu gweithdy yn y Ganolfan dreftadaeth gyda'r Wild Geese - tair o offerynwyr a dawnswyr traddodiadol hynod o ddawnus a ... del iawn!! Cafwyd hwyl garw pan ddaeth nifer dda o'r trigolion lleol i brofi'r dawnsiau Cymreig ac yr oedd yr 'Ymryson Clocsio' yn dipyn o ffefryn - tua dwsin o Wyddelod mewn clocsia yn ceisio efelychu camau Bethan yr hyfforddwraig. Wel, sôn am sbort!! Yn ogystal â chyfrannu at y gweithdy, bu Ffidl Ffadl yn perfformio ddwywaith ar y stryd yn ystod y penwythnos gan ddenu cynulleidfa sylweddol o flaen yr eglwys, y castell a'r Ganolfan Dreftadaeth. Roedd pawb wedi dotio at set glocsio'r plantos, Siôn a Gwen, a'r hen delyn deires unwaith eto yn hudo sawl un i holi yn ei chylch! Ar nos Sadwrn roedd y grŵp yn rhannu llwyfan â Chôr ABC o Aberystwyth a Chôr o gyffiniau Dulyn mewn cyngerdd gerbron dros ddau gant o bobl yn Neuadd y Dref. Wedi'r perfformio 'swyddogol' cafwyd sesiwn o ganu ac o chwarae'r hen alawon yn un o'r tafarndai lleol ac yna yn y gwesty tan oriau mân y bore! Penwythnos gwerth chweil - pawb wedi mwynhau - a'r 'cwrw du' mor flasus ag erioed!! Mae sôn bod yr aelodau am ddychwelyd i'r Ynys Werdd i gynnal eu parti Nadolig.
Cafwyd amser difyr iawn yn Nulyn llynedd, felly pam lai?! Cyn cloi fe hoffai Ffidl Ffadl ddiolch i Alun a Louise o Oriel Ynys Môn am drefnu 'gigs y Gwyddelod' dros gyfnod y prosiect, ynghyd â Margaret Dunne yn Dalkey, am holl drefniadau'r penwythnos.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |