Mae hon yn gystadleuaeth ryngwladol sy'n cael ei chynnal yn Iwerddon bob blwyddyn a bydd y Feile Filiochta yn gwobrwyo enillwyr mewn deg iaith. Eleni daeth dros 4,000 o gynigion i law.
Ysgrifennodd Siân am ferch mewn cyflwr manig wedi dringo Pont y Borth, yn sgîl darllen am yr anhwylder wrth wneud gwaith ymchwil ar gyfer nofel.
Ym mis Ebrill bydd yn teithio i Iwerddon i seremoni wobrwyo lle bydd yn darllen ei cherdd fuddugol a chasglu gwobr ariannol o 1,000 euro.
Ar hyn o bryd, mae Siân yn astudio'n rhan amser ar gyfer PhD mewn Ysgrifennu Creadigol yn Ysgol y Gymraeg yn y Brifysgol ym Mangor, sy'n gryn newid byd ar ôl ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg.
Wedi cyfnodau gyda'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn cynhyrchu rhaglenni i Radio Cymru ac yna'n golygu gwersylfrau gwyddonol i CBAC yng Nghaerdydd. Dros ddeng mlynedd yn ôl dychwelodd y teulu i Fôn, lle bu'n magu tri o blant, yn gweithio fel cyfieithydd ar ei liwt ei hun a lle mae'n aelod o dîm beirdd Bro Alaw.
Enillodd Siân Gadair Eisteddfod Môn yn y flwyddyn 2000, ac yna'r Goron a'r Tlws Rhyddiaith yn Eisteddfod Môn, Cylch y Garn yn 2005, yn ei milltir sgwâr.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |