Mae'r bont wedi ei hadeiladu i groesi o'r ucheldir ar un ochr i ddyffryn Y Tarn i'r ochr arall - tua milltir a hanner o hyd - ac mae'r tŵr canol yn uwch na thŵr Eiffel.
Buom yn ymweld a nifer o arddangosfeydd a
chanolfannau twristiaid newydd sbon sydd wedi eu sefydlu i ddehongli'r bont hon.
Mae twristiaid yn llifo i'r ardal i'w gweld ac yn dod a bywyd newydd i ardal wledig wrth i'r diwydiant traddodiadol (gwneud menig lledr) edwino.
Mae'r dref wedi manteisio ar enwogrwydd y bont ac wedi mynd ati yn ddyfeisgar i gynllunio gweithgareddau ar gyfer y bobl sy'n dod i'w gweld.
Ar ôl dod adref dechreuais feddwl am ein pontydd ni.
Ar hyn o bryd mae llawer o gwyno am broblemau traffig ar ddwy bont y Fenai a sôn am gael trydedd bont, efallai, ond beth am y ddwy bont bresennol? Wrth eu croesi mor aml rydym yn dueddol o'u diystyru ac anghofio am eu hanes.
Yn eu dydd roedd y ddwy mor flaengar eu pensaernïaeth a phont Mlllau, ac yn gerrig milltir nodedig yn natblygiad peirianneg ac adeiladwaith pontydd. Roeddent yn fwy chwyldroadol byth yn eu heffaith ar drafnidiaeth - ar drafnidiaeth rhwng Dulyn a
Llundain ac ar drafnidiaeth leol. Roedd yn rhyddhad mawr i bobl gael peidio croesi dŵr peryglus y Fenai ym mhob tywydd mewn fferi fechan ac yn rhyddhad mwy i ffermwyr Môn am nad oedd rhaid i'r gwartheg nofio
drosodd mwyach. Mae arddangosfa ddifyr iawn o hanes y pontydd a'u cyfraniad i'r ardal i'w gweld yn Nghanolfan Thomas Telford sydd wedi ei lleoli ar yr A5 ger yr eglwys yn y Borth. Mae yno nifer o ffilmia diddorol am adeiladu'r pontydd hefyd.
Mae'r Ganolfan yn awyddus iawn i gasglu hanesion ac atgofion lleol am y pontydd. Fuodd un o'ch hynafiaid y gweithio ar y pontydd gwreiddiol? Fuoch chi neu un o'ch teulu yn gweithio ar ailadeiladu Pont y Borth neu Bont Llanfair? Os oes gennych stori i'w rhannu neu luniau i' dangos galwch yn y Ganolfan am sgwrs. Bydd y Ganolfan:
yn cau dros y gaeaf (ddiwedd Medi) ac ail agor eto yn haf 2009. Ann Jones
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |