Main content

Talwrn Tafwyl 2024

1 Pennill mewn mydr ac odl (rhwng 8 ac 8 llinell) Y Cymoedd trwy Lygaid Caerdydd/Caerdydd trwy Lygaid y Cymoedd

Caerdydd (MWD)
Os gorfod gadael Ynys Môn
i fyw’n y De, mae’n amlwg
mai mond un lle dwi’n fodlon byw:
Caerdydd (…neu fro Morgannwg).
Be sydd ym Margoed neu Gwmbrân
ond olion diwydiannol?
Mae yng Nghaerdydd ail Wynedd fach,
wel… Gwynedd dosbarth canol.

Manon Wynn Davies 8.5

Y Cymoedd (MG)

Pan gerddaf mewn i ofyn am siwgr gei di sioc,
mae’n really rude mae’n debyg i alw heb roi cnoc.
Ti’n bwyta avocado, quinoa a sourdoughs
mewn m诺g, s诺n ceir a bysys rôl talu trwy dy nose.
Der ‘da fi i’r clwb rygbi i gael cyri half n half
a cherdded tai o stryd i stryd gan wybod dy fod di’n saff.

Mari George 8.5

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘twtsh’

Caerdydd (GO)

Go iawn yn ein Meuryn gwar
mae ‘na dwtsh llym hen ditshar.

Gruffudd Owen 9

Y Cymoedd (EL)

Er ei blaid, ysgeintir Blair
â thwtsh o Maggie Thatcher.

Emyr Lewis 9

3. Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ni wyliais yr Ewros eleni’

Caerdydd (MWD)
Ni wyliais yr Ewros eleni
na chwaith y tro cynt. Oni fod-i?
Di Cymru yn chwara?
Pa mor hir mae o’n bara?
Neu ydw i’n hwyr braidd i’r parti?

Llio Maddocks yn darllen gwaith Manon Wynn Davies 8.5

Y Cymoedd (AK)

A minnau'n ysbïo ar Ceri
a stelcian ar draws Aberteifi,
wrth ei ddilyn i'r pwll
fe gwympais mewn twll,
ni wyliais i'r Ewros eleni.

Aneirin Karadog 8.5

4 Cywydd ysgafn (rhwng 12 a 18 llinell): Y Blaid Ddelfrydol

Caerdydd (GO)

Dyro im wleidydd drama
o hen deip sy’n gwmni da;
boi iawn, all fynegi barn
nerthol deifiol y dafarn;
un hael ddarparith i ni
elynion. Plîs, ga’i ‘leni
Gymêr iawn i’r Gymru hon?
Ladyddiaeth, nid gwleidyddion?
Gai’r blaid fedar droi’r gwir blêr
anodd yn haws o’r hanner?
Dyro’r boi sy’n pledu’r bai
ar eraill, nid g诺r wariai
f’arian ar ryw oferedd;
ga’i law sy’n darparu gwledd
sy’n gwybod mai’r dyfodol
i ni ‘di cael ddoe yn ôl.
So what os nad ydio’n sant?
Heddiw, rho im fy haeddiant.

Gruffudd Owen 9.5

Y Cymoedd (EL)

Y blaid sydd heb aelodau,
dim yw dim, heblaw ni ein dau -
ti a fi, heb chwilio fôts
na chybôl blychau balots,
nac ista ar soffa yn s诺n
Panel, na pholau piniwn.

Yn gryf o deyrngar i hon,
ein cred yw hawl cariadon
mewn cornel dawel drwy’r dydd
i gael gwylio ei gilydd
yn ddi-stop, bod yn sopi
a deud ‘dwi’n dy garu di’.

Dal dwylo yw ideoleg
i ninnau, telerau teg
a llawn i ni gael llonydd,
tra bo maniffesto’n ffydd
yn rhoi hawl bod ar wahân
yn oes oesoedd, i swsian.

Emyr Lewis 10

5 Triban beddargraff perchennog canolfan arddio

Caerdydd (ORhJ)

Nid blodau na bwcedi
a ddaeth ag arian iti:
Cei dreulio dy dragwyddol bnawn
mewn cornel lawn o’r caffi.

Osian Rhys Jones 8.5

Y Cymoedd (GD)

Fe ddyfraist bob planhigyn
o’r lili fach i’r rhosyn,
ond ti sydd nawr mewn gwely clud -
mae’n bryd ffarwelio, blodyn.

Gwynfor Dafydd 9

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Cyfieithiad neu Barodi Cymraeg o ‘The Green, Green Grass of Home’

Caerdydd (HC)

Dyw’r hen Gaerdydd ddim ‘run fath, gweud y gwir mae’ dipyn gwa’th
Ma’r lle ‘di boddi ‘dan swnami o fewnfudwyr
Nid ein hannwyl leiafrifoedd
(Mae nhw yma ers canrifoedd)
Ond y teips Cymraeg ar wyrdd gwyrdd wair Caerdydd

Ma’ nhw’n haint yn y ddinas nhw yw Thatcher ein Malvinas
Yn eu Gwladfa fach ar wyrdd gwyrdd wair Caerdydd

Ma nhw’n dod am swyddi teli neu waeth byth i’r lle ’na’n Y Bae
Ma nhw’n dueddol iawn o lynnu yn ei gilydd
Does dim rhyfedd bod nhw’n ‘wherthin, ac mae’r diawled oll yn perthyn
Y teips Cymraeg ar wyrdd gwyrdd wair Caerdydd

Ond yn sydyn, dyma ddi’no mae’n rhaid mod i ‘di blino
A wy’n edrych ma’s drw’r ffenest ar Blasturton
Clywaf delyn ber a llais yn pyncio o lawr llawr a nawr wy’n cofio
Rwy’n deip Cymraeg ar wyrdd gwyrdd wair Caerdydd

Ry’n ni ‘gyd ym Mhontcanna a lawr yn Grangetown ddyfal blanta
Mae dyfodol sâff i deips Cymraeg Caerdydd

Huw Chiswell 9.5

Y Cymoedd (STO)

Mae'r hen ddinas ma'n dra wahanol
wrth i mi gamu lawr o'r replacement bus
ac i fy nhyfarch mae Pret-a-manger a chae concrît.
Ond lawr y lôn a'f i ar hyd St Mary's
heb fwcio bwrdd, sdim gobaith caneri
am beint mewn dinas ymhell o wair Tom Jones.

O'dd y bois am gwrdd mewn pub draddodiadol
nid rooftop bar â choctails deiniadol
Ond dyma'r dewis ymhell o wair Tom Jones.

Mae'r Vulcan di ail-agor
mewn amgueddfa werin,
ond na siomedig smo'r prisie'n hanesyddol.
Felly lawr y lôn a'f i waelod St Marys
SA Gold a Chips mewn gravy
yn stryd Caroline, ymhell o wair Tom Jones.

Yna dwi'n deffro a chynnig gweddi
wrth weld waliau llwyd a rhes o seddi
cyn i mi sylwi mod i ar dren sy'n dod i derfyn,
a dyma'r guard yn dweud, "tren olaf heddi,
last stop for...Abergavenny"
O, bollocks! Tren rong dwi'n bell o wair Tom Jones.

Nawr ma'r bois am gwrdd yn ein pub arferol
yn mhen y Cymoedd a phrisie...rhesymol,
ym mhell o'r ddinas ond yn nes at wair Tom Jones.

Sion Tomos Owen 10

7 Ateb llinell ar y pryd – Deunaw oed yw hon o 诺yl

Caerdydd
Tyfais yng nghwmni Tafwyl
Deunaw oed yw hon o 诺yl

Osian Rhys Jones 0.5

Y Cymoedd

Deunaw oed yw hon o 诺yl
Rhywfodd fe ddaeth yn brifwyl

Aneirin Karadog

8 Cerdd (heb fod dros 18 llinell): Blwch

Caerdydd (MWD)

Llithrodd hen lun i’w llaw hi ddoe,
o focs yn y cefn, a’i dal hi’n oer.
Efallai iddi glywed ei lais ar y radio
neu flasu ei bersawr ar rywun
aeth heibio ’chydig rhy agos.

A methodd beidio â chofio’r
cyffyrddiadau trydan a’r addewidion gwin gwyn,
ôl gwefus ar wydr yn y Pontcanna Inn,
y ddau yn euog ond yn malio dim.
Y meddwi ar nosweithiau gloyw a’r cusanau rhith,
yr atgofion am sgyrsiau rif y gwlith
na chafwyd am enwau ac am fyw wrth y tonnau.

A sgwn i ydi yntau’n oeri ac yn ildio weithiau,
yn agor y caead ac yn meddwl am hyn –
y cusanau na rannwyd yn y Pontcanna Inn?

Manon Wynn Davies 9.5

Y Cymoedd (MG)

Mae’r falerina’n troi yn ei hunfan,
creu aer newydd o rwd cadwyni.
Twriaf yn yr arogleuon parti, clwb nos, tafarn,
sydd wedi gweu nyth glos dros y blynyddoedd,
trio’u datod,
tynnu cyffro a sglein a stori mas
gyda mysedd.
O, am gael cymryd fy amser yn matsio mwclis i ffrog
cau’r clesbyn a mynd allan am y nos...
Dwi’n astudio clustdlws,
edrych ar fodrwy
gwled fy hun yn y metel afloyw,
ond ddim cweit.
Mae’r cadwyni’n clymu eu hunain yn dynn am fy mysedd,
dwi’n gwasgu’r clawr ar ben y falerina
sy’n gwichian yn gryg
cyn moesymgrymu’n dawel
a mynd yn ôl i’w lle.

Mari George 10

9. Englyn cywaith ar y pryd – Corryn

Caerdydd
(Biden a Trump)

Un henwr sy’n methu denig – o’i we
O’i hun; Ond daw’r perig
O henwr mwy gwenwynig,
Yr un sy’n dringo i’r brig.

Gruffudd Owen 10

Y Cymoedd

Ar hyd pob cam bwriadus – o’i we fain
Yn filain ofalus
Hulia wledd yn hwyl ei lys
Ar y sidan arswydus

Gwynfor Dafydd 10