Cerddi o Talwrn Nadolig 2024
1 Pennill ysgafn bachog (4 llinell): Y Tîm Arall
Asynnod (HME)
Gamelod, mawr obeithiwn
Nad ewch, wrth golli’r Talwrn,
I lyncu mul a chael yr hymp
Fel Trump wrth golli lecsiwn.
Huw Meirion Edwards 8
Camelod (IR)
Mi goda’ i ’nghap i’r Mulod,
‘Big hitters’ wir i chi,
Ond ma’r boi roth gweir i Alan Llwyd
Yn chwarae i’n tîm ni.
Ioan Roberts 8.5
2 Parodi ar unrhyw garol Nadolig adnabyddus
Asynnod (IRh)
E-bost bychan, e-bost bychan,
Noswyl ’Dolig sydd:
“Dal i weithio? Mae hi’n bedlam!
Gwaith it fory fydd.”
E-bost bychan awtomatig:
“Cefais flwyddyn faith.
Nid wy’n gweithio, mae hi’n Ddolig.
Dacw ben y gwaith.”
Ond canu fu clychau’r tils –
Blincin hec! Blincin hec!
Dilyn fydd llwyth o fils –
Gymra i’r siec! Gymra i’r siec!
E-bost bychan: “Helô bachan,
Ar fy ffordd yn brudd.
Er fy mod i wedi blino
Garia i ’mlaen drwy’r dydd!”
Iwan Rhys 9.5
Camelod (GP)
I orwedd ar soffa y rhoddaf fy ng诺r
Mae o wedi bod allan a heb yfed d诺r
Mewn dim mae o’n chwyrnu ac yn hollol KO
Hefo bwced a blanced fel mae o bob tro.
A’r gwartheg yn brefu y meddwyn ddeffroes
Ni 诺yr o lle mae o a’i ben sydd llawn loes
Er mod i’n ei garu mae’n nhynnu fi lawr
Yn tendio a phoeni nes dyfod y wawr.
Dwi wedi penderfynu mai fel hyn ma’i am fod
Ar ôl im ystyried pob peth dan y rhod
Os am fod yn ffyddlon yn Nhafarn y Ddraig
Pob lwc efo hynny – nid fi fydd dy wraig.
Gwenan Prysor 9.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae sôn nad oes lle yn y llety’
Asynnod (HME)
“Mae sôn nad oes lle yn y llety,”
Meddai Joseff wrth Mair, bron â drysu,
“Dim Airbnb,
Carafán na thipî …
Ond mi wn-i am foi efo beudy.”
Huw Meirion Edwards 8.5
Camelod (IR)
Mae sôn nad oes lle yn y llety,
Dim carthen, na gwlanen na gwely,
Ond mae’r dyn bach “up-bît”
Wrth y ddesg “meet and greet”
Yn dweud fod “en suite” yn y beudy!
Ioan Roberts 8.5
4 Cywydd ysgafn (rhwng 12 a 18 llinell): Siopa Nadolig
Asynnod (HME)
Deuthum i Boundland dethol,
A haid o straglars i’m hôl,
Siopad munud-ola dig
I wneud dêl â’r Nadolig:
Gwario’r bunt i guro’r banc,
Mond d诺ad mewn a dianc.
Ond dacw fâs … dacw fìn …
Lamp … padell … wyth plwm pwdin …
Mynnai hwyl yr 诺yl nad crinj
Cael Terry’s Chocolate Orange …
Walnut Whips i lenwi t欧 …
Rhyw Dwiglets? … Rhaid ei heglu!
O fewn awr (nas caf yn ôl),
Dacw’r blingwr – bil ingol.
Pa fodd y morffiodd fy mhunt
(O’r cwymp!) yn hanner canpunt?
Ond O’r wefr ddaeth wedi’r winj –
Cael torri’r Chocolate Orange!
Huw Meirion Edwards 10
Camelod (CE)
‘Dwi yn sgint. Dwi’n was â gwedd arianhesb, mewn gwirionedd.
A’r haf ar drai, sylwais i:
Peintiau sy’n ddrud, yn Ponty – ac mae’r coffrau’r adeg hon rhy wag i gael anrhegion.
Ail-roi’n hael yw’r hyn a wnaf.
Eleni, ailgyflwynaf
rai o ’ngherddi fi fy hun.
I ’Nhaid, ’wneith hen wawdodyn. Awdl o’r drâr i ‘nghariad,
I’r chwaer h欧n, rhyw englyn rhad.
Cwpled thematig hoples
i Mam rof, a chadw ’mhres.
I ’nghefndryd, nid gêms drudion, Ond limrig ddaeth i’r brig (bron).
Ond na phoener. Rhof, Ceri, gywydd deg fel d’anrheg di.
Carwyn Eckley 9.5
5 Triban beddargraff perchennog siop gwisg ffansi
Asynnod (AG)
Bu’n poeni beth i’w wisgo
Ar Ddydd y Prysur Bwyso,
Gan fod ’rhen ‘Angau gawr’ ar ras,
Yn ei byjamas aeth-o.
Annes Glynn 9
Camelod (LlGL)
Bu farw ’nghanol demo
stoc ‘Borat’. Bechod drosto.
Troi lan i’r nef a deimlai’n rong
heb ddim ond thong amdano.
Ll欧r Gwyn Lewis 9
6 Cân ysgafn (heb fod dros funud a hanner o berfformiad): Stori’r Geni
Asynnod (MTI)
Nid pawb sy'n cael yr un cyfle yn ein gwlad fach ni,
'Mond ambell un sy'n ffodus i gael bod yn hy-hi,
Y nhw y g'nethod tawel, sy'n derbyn eu ffawd,
Gan eistedd heb symud na sugno ei bawd;
Y rhai heb leins i'w cofio, 'm'ond gwenu yn dlws,
Tra fo' Joseff, y creadur, yn curo pob drws
Y nhw, dim ond y nhw, sy'n cael canu
Si-lwli l诺.
Waeth i mi gyfaddef fan hyn wrthoch chi
Na chefais i gyfle i fod yn hy-hi,
Roedd gen i bob amser beth wmbreth i'w ddweud -
Geiriau i'w cofio - symudiadau i'w gwneud,
A minnau'n ysu'i wisgo lliain bwrdd glas
Yn lle bod yn hen frenin - un andros o gas,
Ond y nhw, dim ond y nhw, oedd yn cael canu
Si-lwli l诺.
Ond cyn bo hir ym Mrynawelon bydd fy ngeiriau'i gyd ar ffo,
A Joseff a'r asyn wedi 'ngadael ers tro,
A minnau'n cael eistedd yn dawel a mud,
Yn magu fy nwylo a gwenu ar y byd,
Bydd tinsel glas rownd fy mhen fel mam y Meseia
A rhywun yn gweiddi "Come on, ! You know this one Maia "
A fi, nid y nhw, fydd yn canu
Si-lwli l诺.
Mair Tomos Ifans 9
Camelod (GP)
“O haia, Mair – dyw, be sy’n bod?” “O! Joseff dwi’m yn gwbod –
Dwi ddim yn teimlo’n iawn ers tro – Poen bol a hen benstandod.”
“I ddeud y gwir, dwi’n reit conffiwsd Ar ôl ymweliad Gabriel –
Odd o yn deud bod Duw yn deud Fod babi ar y gorwel.”
“Sut uffarn wyt ti ‘up the duff’ A heb gael hanci panci?
Y chdi oedd yn mynd on ag on Nad oedd na’m secs cyn priodi.”
“Ta waeth, bydd raid cynllunio’r daith I Fethlehem yn gynta’ –
Cyfrifiad mawr sydd raid ei wneud Ti’n barod am y siwrna?”
“Dwi’m angen poeni medda Gabs Mae o’i gyd yn nwylo’r sêr
Mae’r ‘birth plan’ yn gynhwysfawr glir Fyddai’m angen ‘gas ‘n’ air’”
Oedd petha’i weld yn mynd reit ddel, Nes bu i’r dyfroedd dorri –
Ni wyddai’r asyn beth i’w wneud A’i g诺r oedd yn cyfogi.
Wel doedd Jo’m cweit yn 诺r i Mair - Falle nad dyma’r amser
I fynd ar ôl y technicals, A’r stori ar ei hanner.
Doedd yna’m lle yn ‘run ‘hotel‘ Yn nunlla, fel ffeindiodd Jo,
A dwedodd Mair, mewn ffasiwn boen
Gwnâi Air BnB y tro.
“Sna’m un o’r rheina yma chwaith Ond mae beudy rownd y gornal Mae’n edrych yn un digon neis
‘Fo gwellt ar llawr a rhesal”
A’r babi ddaeth yn reit ddi-lol O flaen cryn gynulleidfa.
‘Roedd tri ‘di dod a ‘bling’ ‘fo nhw O ochra Saudi Arabia.
‘Roedd ffarmwrs hefyd wedi dod A’u h诺yn i weld y baban,
Ond ‘dydi’r cofnod ddim yn glir Oedd hynny o fewn y ‘birth plan’.
“A be di enw’r babi bach?” Gofynai pawb yn mwydro,
A Mair a Jo’n deud “Iesu Grist, ‘Dan ni’m yn gwbod eto!!!”
Ac felly ga’dd y baban bach
Ei enwi a’i fedyddio,
Drwy gamddealltwriaeth, waeth ‘chi ddeud, A hynny wedi sticio.
Felly gwyliwch beth ddywedwch
Mewn byrbwylltra neu ar chwiw Cans gallai newid byd yn llwyr
I fabi bach diniw. Gwenan Prysor 9
7 Ateb llinell ar y pryd – Yn y sied fe guddiai Sion
Asynnod
Yn y sied fe guddiai Sion
Fankini o Fanceinion
Iwan Rhys 0.5
Camelod
Yn y sied fe guddiai Sion
Yn ymyrryd â’r moron
Ll欧r Gwyn Lewis
8 Cerdd (rhwng 12 a 18 llinell): Calendr Adfent
Asynnod (GM)
(i Gruff, sydd ddim eto’n flwydd)
Sydd, hyd yma, heb weld blwyddyn
yn ei llawnder crwn. Heb brofi gwanwyn
o’i blaendwf oer i’w blodau gwyn. Ddim eto.
Daw hynny. Mi ddaw yr amser pan fydd y bwlch
o Fedi i Fedi’n llai. Ond am eleni, mae
‘diwrnod’ dal yn syniad newydd. Ti dal yn ansad
ar y gwastad hwnnw, heb ddeall pendil
araf nos a dydd, curiadau’r tymor.
Wyt ti’n sylwi fod y nosau’n mynd yn hwy?
Canghennau’r coed yn noeth, a barrug a’r doeau’r ceir?
I un heb arfer, gallai deimlo fel petai’r byd yn dod i ben.
Wn i ddim be weli di pan wyt ti’n gwenu dros fy ysgwydd.
O dy gwmpas, mae pawb yn cyfri, fesul blwch bach
ac eiliad felys, yn cyfri’r dyddiau at rhyw ddyfod, neu
rhyw derfyn mawr. Dal yn ansad, falle, yn trio ffeindio’u traed.
Grug Muse 10
Camelod (TBD)
“Sut wyt ti?” “Iawn, diolch. A chdi?”
Mae’n dymor hel briwsion y flwyddyn,
tymor y dychwelyd, tymor uno ers tro,
hithau’n wên o glust i groth,
yntau’n brolio’r garreg ar ei fys,
a minnau – yn iawn, diolch.
Yn ddrws ar gau, a’r aelwyd tu mewn
yn llonydd fel epilog storm,
drws dan glo, a minnau ’di anghofio
dan ba graig mae’r goriad ’di cuddio.
Rhyw ddydd, fe agora’ i’r drws
i ddarn o haul gynhesu cysgod y ’stafell gefn,
a pheswch golau dydd o’m ’sgyfaint
fel ’tawn i ’di cyrraedd y lan, o’r diwedd.
Ond am heddiw, dwi’n plygu,
agor y drws o’m ’mlaen i
a gadael siocled melys
ar flaen fy nhafod i doddi.
Tegwen Bruce-Deans 9.5
9. Englyn ar y pryd – Addurniadau
Asynnod
Os yw’r tinsel yn welwach – hyd y byd
a’n byw yn dywyllach
o bren a’i olau’n brinnach
fe gawn ninnau binnau bach.
Iwan Rhys 10
Camelod
Er cof am Nain 23.4.25 – 9.12.24)
Mond rhoi ar goeden leni’r asyn cam
a’r Sion Corn bach digri’
yn addurn, ac mi fyddi
eto yno efo ni.
Ll欧r Gwyn Lewis 10