Cerddi Rownd 2 2024
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Nodyn i’r Glanhawyr
Talybont
(eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa)
Cyn rhoi’r clo clap haearn arni
a rhoi’r sein For Sale o’i blaen hi,
gwell i’w dôr gael dwstad handi,
er go brin y gwnaiff neb sylwi.
Anwen Pierce 8.5
Y C诺ps (RAJ)
Sori fod y stafell yn llanast
Yn fudur yn flêr ac yn front
Ond welwyd erioed y fath rybish
A gaed gan dîm Tal-y-bont.
Rocet Arwel Jones 8
2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘gwneud’
Talybont
Nid dweud ‘gwneud’ ond dweud ‘y gwnaf’
heddiw yw’r her anoddaf.
Phil Thomas yn darllen gwaith Anwen Pierce 8.5
Y C诺ps (HME)
A’r rhaff am wddw Rafah,
Dyw gwneud dim ddim digon da.
Huw Meirion Edwards 9
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Fe welwyd tystiolaeth ar fideo’
Talybont
Fe welwyd tystiolaeth ar fideo,
medd Rocet ar ôl y recordio,
bod Phil yn cam odli
tu fewn y cwrt cosbi;
mae gyd o boys C诺ps wedi’u gytio.
Anwen Pierce 8.5
Y C诺ps (GSW)
[gan gymydog anhysbys i Phil y Fet]
Fe welwyd tystiolaeth ar fideo
Bod gan Phil y Fet, wrth ei ffilmio,
Y teip 'na o wyneb,
Ys dywed y wireb,
A gaiff well ymateb ar radio.
Dafydd John Pritchard yn darllen gwaith Geraint Sion Williams 8.5
4 Cerdd ar fesur yr englyn milwr (rhwng 12 a 15 llinell): Sgwrs rhwng dau
Talybont
Sgwrs gyda Llinos Ann Edwards, Llanycefn, Sir Benfro - fy mam-yng-nghyfraith bu farw yn ddiweddar
‘Mae’n law dros Abertawe,
a niwl llwyd am ben y lle,
glaw o lid; goleuade’.’
‘Nid yw’r ddau gae’n wag o hyd,
llwyni golau’n llawn golud,
erwau byw ddaw’n ôl i’r byd.’
‘Ond hiraeth sy’n y tiroedd
hyn, eiddil yw’r mynyddoedd;
daear a’i galar ar goedd.’
‘Chwarddais a rhedais ar hyd
y lonydd, hawlio ennyd;
yn ifanc a h欧n hefyd.
Crwydra’r waun, cer ar dy rawd;
hyn yw dy fraint, câr dy frawd;
cloddiau blodau Parc-y-blawd.’
Gwenallt Llwyd Ifan 9.5
Y C诺ps (HME)
“Pam, Mam, mae’r drymiau yma’n
Hario ’mhen drwy’r oriau mân?
Pam, Mam, mae’r mamau’n mwmian?”
“Pwy a 诺yr, ond Allah, pam?
Er amau llith yr imam,
Gwaedd am aer yw gweddi mam.”
“Pam, Mam, mae’r slymiau yma’n
Rhwth eu toi, a chreithiau tân
Ar aelwydydd rhy lydan?
Pam na ddaw’r llun o unman –
Mymryn hedd un ddelwedd wan –
Wyneb fy nhad fy hunan?”
“Am mai rhyfel a weli,
Rhyfel sy’n lladd cartrefi;
Rhyfel wnaed i rai fel ni.”
Huw Meirion Edwards 9.5
5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Tasai gen-i fil o erwau’
Talybont
Tasai gen-i fil o erwau,
plannwn ddegwm yn goedlannau,
cadwn ddrysni, pebyll glampio;
ac un rhych i dyfu dato.
Phil Thomas yn darllen gwaith Gwenallt Llwyd Ifan 9
Y C诺ps (GSW)
Tasai gen-i fil o erwau
Ym mha le y bwrwn wreiddiau?
Er nad yw fy ngardd ond ewin
Nid oes gorwel i'm cynefin.
Dafydd John Pritchard yn darllen gwaith Geraint Sion Williams 9.5
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Yr Ymchwiliad
Talybont
D诺r Cymru sy’n gofidio fod carthion heb ei waeth,
Yn llygru Aberystwyth a golchi nôl i’r traeth.
Cynhaliwyd sawl ymchwiliad i ffindio tarddle’r stinc,
Fe dwriwyd mewn baddondai, archwiliwyd dan sawl sinc.
Cywirwyd llu pibelli ond carthion brown a du
A lifai yn ddiddiwedd fel siocled ych a fi.
Defnyddiwyd camra bychan i olrhain taith y cac,
O’r harbwr, dan y strydoedd, i bob pasej (ffrynt a bac).
Yn sydyn, daeth goleuni, y chwilio wnaeth ddwyn ffrwyth,
Fe welwyd criw o glerwyr yn brysur gollwng llwyth
O gerddi, lawr y toiled mewn tafarn yn y dre,
A chlywyd staff D诺r Cymru yn gweiddi’n groch, ‘Na Fe!’
Rôl ceibio dan palmentydd a thyllu nos a dydd,
O’r diwedd caed ffynhonnell dolur y cerddi rhydd.
Ar ôl yr holl ofidio roedd ateb nawr ar gael,
Ac arbenigwyr ddaeth ynghyd dan darth yr oglau gwael.
Adnoddau Naturiol Cymru wnaeth wahardd Tîm y C诺ps
Rhag fflysho mwy o gerddi a gollwng mwy o p诺ps.
Phil Davies 8.5
Y C诺ps (RAJ)
Rôl sgandal y drydargerdd aeth dros ei chyfri caeth
Fe dorrodd Golwg stori oedd hyd yn oed yn waeth.
(Fe ddylai’r bardd egluro i’r gwrandäwr glân
Mai dim ond naw deg eiliad a ganiateir i gân.
Un funud fach a hanner, ’run filfed hwy na hyn
Fel bod y gweddill yno i ddal doethineb Ceri Wyn.)
Fe chwidlodd rhyw wrandäwr, heb ddim byd gwell i’w wneud,
Fod ’na dîm ’di adio dwy eiliad at eu dweud.
A dyna sut cychwynnwyd ymchwiliad mwya’r oes,
Y mwyaf ers ymchwiliad cofiadwy Tan-y-groes.
Ar ôl ’ddi hi ymddeol fe benodwyd Elan Clos
I sgwennu yr adroddiad, un cryno iawn, heb os.
Trafodwyd holl fanteision ac anfanteision hyn
I’r awen greadigol: nid yw yn ddu a gwyn.
Trafodwyd ddull Bro Ddyfi o ddweud yn slô a chlên
A dull yr ‘Arwel Arall’ o adrodd fel y trên.
A allai y cynhyrchydd gyflymu’r tâp smij bach?
I gadw’u hoff dalyrnwyr rhag cael eu hun mewn strach?
Mae’n ddrwg da ni am y torriad yr amser aeth mor chwim
Bydd canlyniad yr ymchwiliad ar Golwg 360.
Rocet Arwel Jones 8.5
7 Ateb llinell ar y pryd – Mae rhai yn ei morio hi
Talybont
Cân eryrod sy’n codi
Mae rhai yn ei morio hi
Gwenallt Llwyd Ifan 0.5
Y C诺ps
Yn nh欧 hen y dadeni
Mae rhai yn ei morio hi
Huw Meirion Edwards 0.5
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Meddyginiaeth
Talybont
Llwybr i’r gwyll ei hebrwng
ar hyd y llethrau hir
drwy’r coed i’r cwm
a’i ‘sgidiau rhedeg yn eger.
Ei choesau hi’n chwys oer,
cyhyrau yn curo
drwyr llosg a hyder ei llam.
Daw i gau ei diwrnod gwaith.
A chylch o gylch ei phen yn gof
mae’n gweld llun, darlun y dydd.
Ffilm ar sgrin mor finiog
â’r geiriau o gerydd,
y cwynion cynnil,
a’r tuchan bychanol;
a chyllyll ei chau allan.
Y dynion yn ei danod.
Wrth yr afon sy’n cronni
ym mhen draw’r awr hon,
mae’n aros er mwyn herio,
a brwydro yno am anadl.
Mae’n poeri’r gwir ar y gwair,
a rhegi’r dydd ar gwr y d诺r.
Yn dawel mae’n dewis
ei llwybr, a chychwyn nôl a’i llam
yn ferw i’w hyfory.
Gwenallt Llwyd Ifan 9.5
Y C诺ps (DJP)
Does dim sy’n wyrthiol
am yr olew hwn yr
ydw i’n ei annwyl-arllwys
heddiw dros holl, holl flinder
traed y dyn, gan sychu’r rheini
wedyn gyda gwallt mawr, blêr fy
mhenlinio yma, nes peri i’r cyfan
lynu wrth ei gilydd.
Ac mi gefais i iachâd,
yn do, heb ddim o hyn?
Rwy’n barod, cofiwch, i ddadlau’n
hir fod gwerth sy’n llawer mwy
na phris y farchnad yn yr
act o arllwys rhywbeth,
olew,
诲诺谤,
gwaed.
Dafydd John Pritchard 9.5
9 Englyn: Cragen
Talybont
I aber fy mhryderon – daw moryd
a’i môr o obeithion
drwy adwy ei sibrydion
â s诺n doe’n ymson y don.
Anwen Pierce 9
Y C诺ps (HME)
Bererin, dan erwinder – y glaw-wynt,
A glywi o’i dyfnder
S诺n bad a su hen bader
O’r tu hwnt i’r Swnt a’r sêr?
Huw Meirion Edwards 9.5