Main content

Cerddi Rownd 2 2024

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Hysbyseb: car ail law

Caernarfon (EG)
Top sbîd reit giami sydd gan hwn -
Rhyw ugian milltir, 'ballu:
Sa'n da i ddim ar Autobahn,
Ond ma'n berffaith i ffyrdd Cymru.

Emlyn Gomer 8.5

Bro Alaw (JWJ)

[gydag ymddiheuriadau i W J Gruffudd, Yr Henllys Fawr]
Sdim un o’i fath gan Gari,
Na’r enwog Arthur Daley,
Ond dyma’th gyfle’i gael y car -
Y gwir anfarwol Siandri.
O’r Henllys, car byddigion,
Am bris rhesymol ddigon,
Ac fe gei ditha fodd i fyw
Wrth lyw un o’r clasuron.

John Wyn Jones 8

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘dweud’

Caernarfon (GL)

Hen gnaf, yn y bôn, di’r gnw,
yn dweud “Dwi’n gês, yn dydw!”

Geraint Lovgreen 8.5

Bro Alaw (RPJ)

Brolian ei gamp wna’r annoeth,
Yn y gwneud mae dweud y doeth.

Richard Parry Jones 9

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae gen i gymydog sy'n smalio’

Caernarfon (GL)
Mae gen i gymydog sy'n smalio
y daw acw i'm helpu i walio
ond wedi dod draw
prin y codith ei law;
tra dwi'n walio mae o'n dilidalio

Geraint Lovgreen 8.5

Bro Alaw (IR)

Mae gen-i gymydog sy’n smalio
ei fod o yn giamstar ar hwylio
Ei enw yw Huw
Mewn Fflat mae o’n byw
‘Dio’n ddim byd i ganu amdano

Ioan Roberts 8.5

4 Cerdd ar fesur yr englyn milwr (rhwng 12 a 15 llinell): Ffreutur

Caernarfon (IP)

Hen heddiw yw’r newyddion
o Gaza ddaw’n waedd gyson
a gwyliaf yn ddigalon
hen, hen hanes newynu
hyd y wlad ar deledu,
gwylio oeredd galaru.

Gweld mor brin yw’r ceginau
y nhw a’u bwyd yn prinhau
ac addewid gweddïau,
gweld dyn, un gwael, dienaid
a lenwa’i un bowlennaid
a’i lwg yn ddu’n ei lygaid.

Does neb yn saff yn Rafah:
a dyfod y mae difa
seiliau y lloches ola’!

Ifan Prys 9

Bro Alaw (RPJ)

Gwerin a rhuddin drwyddynt,
yn rhynnu drwy’r dwyreinwynt
dd峄檌 yno am ginio gynt.

Dod drib-drab draw i’w caban,
troi eu st峄檒 at wres y t岷璶
i ddiddos f岷璶 ymddiddan;

dynion rhwng eu brechdanau
yn edliw hen lasenwau
yn fan hyn, tra’n cyd-fwynhau

sbort diddichell y cellwair,
a’u direidi’n peri’r pair
listio a’u llwyth dilestair;

yna c岷璶, cyn troi’r encore
ymaith o’r hwyl a’r hiwmor,
yn 峄檒 i’w rhigol rhagor.

Richard Parry Jones 8.5

5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Os oes arian yn dy boced’

Caernarfon (EG)
Cei ddyrchafiad heb gymhwyster;
Cei ddihangfa rhag cyfiawnder;
Cei rwydd hynt i ddifa'r blaned,
Os oes arian yn dy boced.

Emlyn Gomer 8.5

Bro Alaw (JWJ)

Talu efo ffôn neu gardyn
Ydy’r arfer ers sawl blwyddyn,
Os oes arian yn dy bocad
Rwyt yn un o'r deinosoriad!

John Wyn Jones 8.5

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): : Y Llinell Gymorth

Caernarfon (GL)

“Be ddiawl ’di llinell gymorth?” gofynnais ar y ffôn,
“mae’n hen bryd tynnu llinell – ac am linell iawn dwi’n sôn!
Peth ’di’i sgwennu lawr ar bapur ydi llinell, dybiwn i,
nid y weiren sydd yn dod o’r polyn teligraff i’r t欧!”

‘Mae’ch galwad chi yn bwysig inni’ – llais robotaidd dyn –
‘Os am gymorth gyda’n gwasanaethau hamdden, gwasgwch un.
Holiadau eraill, gwasgwch dau, cewch sylw mewn rhyw awr.
Os am rantio am ein hieithwedd, jyst rhowch y ffôn i lawr.’

Dwi’n teimlo’n hen wrth ddeall bod ffordd newydd sbon o siarad -
dwi’n si诺r nad o’n i’n arfer pegio’r golch ar linell ddillad –
a’r tro dwetha i mi jecio, dod i lawr y lein wnâi’r trên –
ydi honno’n llinell erbyn hyn? Dwn’im! Ma’n chwalu ’mrên.

Ac am y criw sy’n sôn am ddiwedd ffordd! – ma isio mynedd!
Mae’r gwahaniaeth yn un eitha mawr rhwng pen draw’r byd a’i ddiwedd.
Dwi isio i bawb yng Nghymru orfod llyncu cyfrol Briws
Er mwyn adfer hen hen lendid y Gymraeg, ond be di’r iws?

Iawn, malwch fi ar Twitter (X)!
Hen bedant ydwi! Ffein!
ond os newch chi hynny, ewch chi ddim ar-linell ond ar-lein!

Geraint Lovgreen 9

Bro Alaw

[yn nhafodiaith un o wiwerod cochion Môn]

Fy enw i di Cochyn, dwi’n byw yn rar Mus Jôs,
A dwi cal cnau cyll ganddi bob bora a phob nos.

Mi clywis i hi’n siarad efo Musus Huws dros lôn,
“ Ma’ nhw di croesi’r Fenai – ma’r Lwyd yn ôl ym Môn.

Yr ochor yma i’r Afon ro’ ni wedi’i difai’i gyd -
Nid felly ’rochor arall, ma’r tacla yno o hyd.”

Rhai’n deud, “ ’di croesi’r pontydd”, Miss Jôs â syniad gwell,
“‘Di smyglo ar gychod plesar ryw giaridyms o bell”.

Mae hi’n ffonio’r dyn lladd llygod, a phob cynghorydd Sir,
A Chyngor Gwarchod ein Cefn Gwlad, ond doedd neb am ddifa wir.

Mudiada cadwriaethol yn ddi-symud iawn i gyd,
A chabalatshwrs Twitter-X, am unwaith, oll yn fud.

A gwrthwynebu difa wnaeth ryw Gyrnol Brochley-Smythe
Oedd yn “garu’r moc(h)yn ddaear” ac am “ailcyflwyno’r blaidd”.

“Os nad wyt gryf, bydd gyfrwys”, medda’r hen Mus Jôs yn flin,
“Mi ffoniai’r Llinall Gymorth – mae’n amsar troi tu min”.

“Mewnfudwyr anghyfreithlon”, sibrydodd dros y ffôn,
“Sydd wedi croesi’r culfor ar gychod bach i Fôn”.

“Dim problem”, medda Rishi, “bydd rhain mewn fawr o dro
Ar yr awyren nesa i Rwanda o Heathrow”.

John Wyn Jones 8.5

7 Ateb llinell ar y pryd – Gorau oll gohirio hyn

Caernarfon

Gorau oll gohirio hyn
Ond dwy ochrog yw’r dychryn

Ifan Prys 0.5

Bro Alaw

Gorau oll gohirio hyn
Oedi yw’n tacteg wedyn

Richard Parry Jones

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cwpwrdd Llyfrau

Caernarfon (IaG)

Roedd y cyfrolau’n siarad â’i gilydd,
geiriau’n nofio’n wyrthiol drwy gloriau,
y syniadau’n neidio o silff i silff;
ac yna hyfrydwch y blodeuo, wrth eu hagor
- rhai â phersawr papur ffres,
eraill â llwydni doethineb ar eu gwynt.
Roedd ynddynt ehangder bydoedd,
er mai un iaith frau a’u cyfryngai hwy.

Ond y cwpwrdd hwn a safai mewn t欧 a gostiasai’n ddrud,
a’r etifedd a fynnai
nad oedd y meingefnau oddi’i fewn yn rhai gwiw,
ac mai clirio’r silffoedd oedd rhaid.
Ac efe a aeth â’r cyfan i gefn y t欧,
i’w hysgwyd yn llipa a phwyo’r llwch o bob un;
llosgwyd llawer a bocsio’r lleill
i’w bwrw ymaith yn barseli alltud
- cyn sgwrio’r silffoedd
i’w llenwi â rhesi newydd.

Ifor ap Glyn 9.5

Bro Alaw (IR)

Trwy ffenestr atgofion daw llafn o olau lleuad
I sefyllian ar gwpwrdd sy’n mapio fy mywyd,
O ‘Siglo, Siglo’ hwiangerddi
I gyfrolau coleg, cadernid ‘Meistri a’u Crefft’,
Addysg, gwaith ac enaid.

Yn y goleuni arian,
Gwelaf lyfrau Mam
Fel cipdrem ar fy ngwreiddiau.
Y llyfrau cloriau cochion yn ei llaw ei hun;
Straeon plant, y blodau a greodd i mi,
A minnau heb weld eu gwerth
Nes eu mwytho a’u sawru, fy 诺yr yn fy nghesail.

Mae i’r cwpwrdd fwy na llyfrau.
A phan fydd y golau’n pylu
Daw lladron yn nhraed eu sanau
Gyda’u gwe a’u sgriniau gwyn,
Gan ddileu’r enaid yn ddistaw bach
Cyn i’r cyfan lithro i ddistadledd oer y lloer tu ôl i gwmwl.

Ioan Roberts 9

9 Englyn: Deddf

Caernarfon (IP)

Edwino mae hawliau dynol o ddeddf
i ddeddf annymunol,
gwnawn safiad etholiadol,
hawliwn ni ein hawliau’n ôl!

Ifan Prys 9

Bro Alaw

Mae haf crasboeth Mehefin – a gwewyr
Ein gaeaf a’i ddrycin
Yn brawf fod ein deddfau’n brin
I guro’n tywydd gerwin.

Richard Parry Jones 8.5