Cerddi'r Chwarteri
1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Neges yn Esbonio Canlyniad Gwael
Dros yr Aber
Yn foesol y canfasiais. Yn rhy wâr
es ar ôl y bleidlais.
Yn 诺r llon, fi oedd â’r llais
callaf. Gan hynny, collais
Rhys Iorwerth 9
Y C诺ps (RAJ)
Collodd Ceri Wyn ei lais
Daeth cais i mi feuryna.
Dros yr Aber, diolch i chi,
Hwyl fawr ’ny gyfres nesa.
Rocet Arwel Jones 8.5
2 Cwpled caeth yn cynnwys enw unrhyw wlad yn yr Affrig
Dros yr Aber
Awr wrth awr, mae Gwlad yr Iâ
yn troi fel Eritrea.
Iwan Rhys 8.5
Y C诺ps (HME)
Dy ras, Mandela, a drig
Yn offrwm i Dde’r Affrig.
Huw Meirion Edwards 8.5
3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Mae angen ystyried cyn prynu’
Dros yr Aber
Mae angen ystyried cyn prynu
ond trueni na chofiais i hynny
pan brynais biranha
a’i roi yn nhanc Adda,
ein broga, sydd wedi diflannu.
Iwan Rhys 8.5
Y C诺ps (GW)
Mae angen ystyried cyn prynu
Y glud 'na sy'n hynod o stici.
Mae'n stwff reit ddanjerus
Os aiff ar eich gwefus
Fel m-m-m-m-m-m.
Geraint Sion Williams 8.5
4 Hir-a-thoddaid yn cynnwys y llinell ‘Adroddwn o hyd yr addunedau’
Dros yr Aber (CE)
 hi’n eiddilo, fel ei meddyliau,
adroddwn o hyd yr addunedau.
 hyder, hawliwn, i godi’r hwyliau,
y dôi i’m nabod ymhen diwrnodau.
Cedwais ffydd, ond celwyddau oedden nhw.
Sownd yn ei gwddw’ oedd f’enw innau.
Marged Tudur yn darllen gwaith Carwyn Eckley 9
Y C诺ps (HME)
Adroddwn o hyd yr addunedau
Ar fedd y llynedd a’i holl gynlluniau;
Wedi noswylio, er gweld ein seiliau
Heb grych wrth edrych drwy waelod gwydrau
Nos Galan, cras yw golau’r – bore glân;
A brân yn crawcian, mae’n chwilio’r craciau.
Huw Meirion Edwards 9.5
5 Epigram Dychanol (rhwng 4 ac 8 llinell)
Dros yr Aber
Mor wyn dy fyd os wyt yn Ll欧n
yn berchen ar dy d欧 dy hun.
Gwynnach dy fyd os wyt â’r stoc
i dreulio’r haf yn Abersock..
Rhys Iorwerth 9
Y C诺ps (GW)
Syndod faint mae modd ei arbed
Pan ddaw’r stwff o ben draw’r blaned:
Syndod pa mor rhad yw’r prynu
Pan nad fi sy’n gorfod talu.
Geraint Sion Williams 9.5
6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Fy Amser Sbâr
Dros yr Aber (IRh)
Does gen i’m awr i’w sbario – mae rhywbeth mlaen o hyd.
Mae ’nyletswyddau helaeth yn llenwi ’nyddiau i gyd.
Nos Lun yw noson ddartiau. Rwy’n aelod triw o’r tîm
ac felly mae ymarfer drwy’r dydd yn bwysig im.
Nos Fawrth, fi sy’n coginio. I wneud y job yn iawn
fe boraf drwy ryseitiau drwy’r bore a’r prynhawn.
Rhaid imi fynd i loncian am ddwyawr fore Mercher,
ac wedyn rhaid ymestyn am bedair awr a hanner.
Ddydd Iau, rwy’n mynd am fasaj i gadw’r coesau’n llac.
Mae’n bwysig ar ôl rhedeg, er bod y wraig yn grac.
Rwy weithiau yn gobeithio cael awr yn rhydd nos Wener.
Ond na, rhaid cymdeithasu – mae hynny’n dasg a hanner.
Ddydd Sadwrn rhaid yw gwylio y gêm bêl-droed, dim llai.
Gefnogaf i bwy bynnag sy’n digwydd bod ar Sky.
Ddydd Sul rhaid gwylio’r rygbi mewn tafarn yn y dre.
Gefnogaf i y bechgyn sy’n chwarae o’r chwith i’r dde.
Ac wedyn rwy’n gobeithio nos Sul am awr fach braf
ond gorwedd lawr i wrando ar Radio Cymru wnaf.
Rwy’n cenfigennu’n hynod wrth rai a all ymlacio.
Gen i wyliau wythnos nesa, a minnau angen pacio!
Iwan Rhys 9
Y C诺ps (RAJ)
Gallwn fod yn bwyta te
Neu’n gwrando ar Radio Cymru.
Gallwn fod o flaen y bocs:
Ond ... mae gen i gân i’w sgwennu.
Mae mwstásh y ci yn flêr,
Mae’r crwban bron a rhynnu,
Blew’r moch cwta braidd yn hir:
Ond ... mae gen i gân i’w sgwennu.
Gallwn fod yn chwarae draffts
Neu’n dysgu sut i chwythu
Clarinet neu denor horn:
Ond ... mae gen i gân i’w sgwennu.
Gallwn fynd o ddrws i ddrws
Yn brysur yn ymgyrchu’i
Ennill heddwch led led byd.
Ond ... mae gen i gân i’w sgwennu.
R诺an bod fy nghân ar ben
Ac amser i’w afradu
O’r holl bethau sydd i’w gwneud:
Af ati’n syth ... i gysgu.
Rocet Arwel Jones 8.5
7 Ateb llinell ar y pryd – Am wythnos i’r Ewros af
Dros yr Aber
O hyd, o hyd breuddwydiaf
Am wythnos i’r Ewros af
Rhys Iorwerth 0.5
Y C诺ps
Wyf Kane yn glaf y canaf
Am wythnos i’r Ewros af
Huw Meirion Edwards
8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cyfrif
Dros yr Aber (MT)
I fyfyrwyr Safon Uwch Cymraeg Coleg Meirion-Dwyfor
Mae oglau arholiadau ar yr haul
ac uwch y ddesg dwi’n baglu
dros gynlluniau marcio a graddau targed,
i’w gosod mewn bocsys.
Yna dwi’n eu gweld yn tywallt i’r maes parcio,
coflaid yn ateb gwefus wedi raflio
a’u rhegi’n bownsio’n idiomau ar y tarmac.
Uwch drysau ceir, daw’r ymresymu
nes i’r tafoli eu hel,
ben-glin wrth ben-glin, i’w seddi.
Maen nhw’n cynnau’r gân,
gwthio’u breichiau drwy’r ffenestri agored,
marcio’u bysedd ar y metel eirias,
ac wrth yrru dros y llinellau i’r lôn,
mae’u geiriau’n hedfan am Gader Idris.
Dwi’n gollwng y feiro a chau’r ffeil.
Marged Tudur 9.5
Y C诺ps
mae cudyn bach o
haul ar wegil braf y
bryn cw na alla i’n
fy myw â
chofio’i enw r诺an hyn…
mi wn yn iawn fod
dau ohonom yno yng
nghysgod gwyllt y lle
er nad ydw i’n gallu
cofio enwau’r lleill
i gyd…
a dwi’n clywed rhywbeth
rhywun falla yn fy
mhen yn trio deud…
trio…
deud…
nad dyna chwaith sy’n cyfri
Dafydd John Pritchard 9.5
9 Englyn: Dewiniaeth
Dros yr Aber (RhI)
Fe goeliaf, a hi'n haf golau, yn nhric
yr hwyr, yn holl liwiau’r
haul hud am rai eiliadau.
Hyn yw cast y nos yn cau.
Rhys Iorwerth 9.5
Y C诺ps (HME)
(gan gofio am un o driciau pennaf Lloyd George, y ‘Dewin Cymreig’)
Ar ffin Erin, os erys – ôl y llafn,
Ôl holl waed ei hystlys,
Nid â bom, â bawd a bys
Yr unir corff yr ynys.
Huw Meirion Edwards 9.5