Main content

Cerddi Rownd 2 2024

1 Trydargerdd (sef cerdd gaeth neu rydd sydd, fel un o negeseuon Twitter, heb fod dros 280 o nodau cyfrifiadurol): Hysbyseb: beic ail law

Ffoaduriaid (GWD)
Ers cael plant, s'dim gwarantu - hanner siawns
i'w nôl o'r shed. Gwerthu
hwn o feic a'r rhyddid fu
oedd raid, rhag iddo rydu.

Gethin Wynn Davies 8.5

Gwylliaid Cochion

Ar werth yn rhad mae hen dandem
Mamgu a Tadcu Pontyberem,
’rôl anffawd reit gas gerllaw i Gorslas
a thymbl go arw'n Y Tymbl
cyn mynd ar eu hyd tu draw Porthyrhyd
daeth amen i'r tandem yng Nghrwbin.
Maent wedi goroesi 'rôl bod yng Nglangwili
a'u beic sy' ar werth - heb 'run olwyn.

Rhiain Bebb 8.5

2 Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘côr’

Ffoaduriaid (GO)

Côr o helgwn carolgar
a glywir yn boddi’r bar.

Gruffudd Owen 8.5

Gwylliaid Cochion

Yn fudan o’r brefiadau,
Y côr sy’n gweiddi’r dicáu.

Gwion Aeron 9

3 Limrig yn cynnwys y llinell ‘Os ydych am gadw'n ddiogel’

Ffoaduriaid (DL)
Os ydych am gadw'n ddiogel
ystyriwch fuddsoddi'n eich bogel
er bod nifer yn amau
mae eraill yn dadlau
bod chwyddiant y peth yn anochel.

Dyfan Lewis 8.5

Gwylliaid Cochion

Os ydych am gadw'n ddiogel
na ewch yn rhy agos i gamel
cewch gnoiad neu gic
a hyny'n reit gwic
a byddwch yn sic yn anochel.

Ifan Bryn Du 8

4 Cerdd ar fesur yr englyn milwr (rhwng 12 a 15 llinell) yn cynnwys y geiriau ‘erbyn hyn’

Ffoaduriaid (GO)

Yn ei goets bu’n wenau’i gyd,
yn oen cyrliog mewn cwrlid,
yn dduwiol gan addewid.

I bawb bu’i wyneb babi
yn fagnet braf o egni
a seren i’w thrysori.

Myfyriwyd am ei fory,
gan ddiniwed dynghedu
ei wychder, â hyder hy.

Be wnawn ag o erbyn hyn?
Heddiw mae’i anwybyddu’n
arfer gan lu diderfyn,

a’r wen nad yw ar ei wedd
sy’n gofnod o ddinodedd
dynion a’n cyffredinedd.

Gruffudd Owen 10

Gwylliaid Cochion

Derwen

“Edrych Taid; Taid ond tydi'n
dderwen hen, fe dorrwn hi
a chael polion ohoni.”

“Coeden rhy ifanc ydyw
â'i chrib iau ond dechrau byw,
breuder diffyg amser yw

gwynnin hen ei gwanwyni;
os rhoddwn amser iddi,
rhoddwn nodd i'w ruddin hi.”

Erbyn hyn rwyf innau'n hen,
h欧n o lawer na'r dderwen.
Heibio'r awn am ddarn o bren

a rhanaf â'm 诺yr innau
drwy’r un dweud â'r hendeidiau,
“Er yn h欧n, mae'n dderwen iau.”

Tegwyn Pughe Jones 9.5

5 Pennill telyn yn cynnwys y llinell ‘Dwedwch imi p’run sydd orau’

Ffoaduriaid (GO)
“Dwedwch imi p’run sydd orau,
NHS neu’r Celfyddydadu?”
Rheitach gofyn i’r Philistiaid:
Beth yw gwerth y corff heb enaid?

Gruffudd Owen 9

Gwylliaid Cochion

Dwedwch imi pu'n sy’ ore
codi'n hwyr neu godi'n fore?
neu rhag mynd i unrhyw drwbl
ai gwell peidio codi o gwbl.

Rhiain Bebb 9

6 Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau): Hel Achau

Ffoaduriaid (LLEM)

Dwi ffansi hel fy achau, fel Mam a Nain ynghynt,
a’r nain a ddaeth cyn honno, cyn mynd yn llwch i’r gwynt.
Roedd nain cyn honno hefyd yn hoff o’i family tree.
A’i nain, a’i nain hi hithau, a nain honno, credwch fi.
Cyn honno, roedd ei nain hi. A’i nain hithau, a’i nain hi.
Dwi wedi tracio un nain lawr i’r flwyddyn 1203.
Cyn honno, roedd nain arall. Mae’r goeden deulu’n dyst.
Mae gen i neiniau a hen-neiniau yn dod o bob un clust.
Roedd ganddi hi nain hefyd, a chyn honno daeth mam-gu.
(Roedd hi’n dod o Bancffosfelen… ‘da ni’m yn son amdani hi).
Mae’r busnes o hel achau yn orchwyl eithaf hawdd,
cyn cyrraedd nain heb achau oedd yn fabi cyw tin clawdd.
Mi fuodd un nain farw. (Ond mae honno’n stori drist).
ac roedd fy hen-hen-hen-hen-hen-nain yn nain i Iesu Grist.
Roedd un hen-nain yn tarddu o Sycharth digon si诺r.
Ond tydi pob un Cymro’n perthyn rhywsut i Glyndwr.
Mae hi wedi bod yn bwrw hen-hen-neiniau efo ffyn
ac mae gen i lond pwll nofio o neiniau erbyn hyn.
Mae’n lot o waith i rywun gyfri blwming nains di-ri,
Mi wnâi bethau’n haws i’m llinach; mi geith o ddarfod efo fi.

Gethin Wynn Davies yn darllen gwaith Llio Maddocks 9

Gwylliaid Cochion

(i’w chanu a’r Bardd yn ei Awen)

Y mae’n hen daid wedi marw
cyfaill annwyl oedd i’r cwrw,
rargen fawr peidiwch â’i ddeffro
neu mi fydd yn yfed eto.

Nain a oedd yn hen a dotus
a ‘di throi dwtsh yn anrhefnus,
aeth at ei Duw gan ganu’n iach,
tu cefn ei sgert ‘nei blwmars bach

Salw yw fy nghefnder Sulwyn
mae’n ffed yp â’r “Mwynder Maldwyn “.
Hoffai fod yn hurt a stropi
fel trigolion gweddill Cymru.

Yng Nghaerdydd trig Bodo Sandra
fabwysiadodd anaconda;
a safodd unwaith dros y Blaid,
un o ffans y Ffoaduriaid.

Pwy a feiddia hel ei achau
gan ddatgelu “cymeriadau”,
rhai yn annwyl, rhai yn wrthyn,
ond “tough luck”'- maent oll yn perthyn .

Alun Cefnau 8.5

7 Ateb llinell ar y pryd – Gwerth ffortiwn a wariwn ni

Ffoaduriaid

Er bod hi’n oes o dlodi
Gwerth ffortiwn a wariwn ni

Gethin Wynn Davies

Gwylliaid Cochion

Drwy waled o fwledi
Gwerth ffortiwn a wariwn ni

Tegwyn Pughe Jones 0.5

8 Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Pridd

Ffoaduriaid (DL)
Crochennu (pridd)

Cylchu a chylchu mae'r olwyn o 'mlaen,
i'w chanol, bwraf dalp yn driw,
a dechrau mwytho'r sylfaen grai
i droi'r peth amrwd hwn yn fyw.

Gollyngaf fy ego a fy mrys
a throi fy sylw at y manylion;
y bwlch rhwng bawd a bys,
fel mae'r moleciwlau'n 'mestyn,
y meddwl yn ymgodymu â'r mwd,
ac yn dilyn pob tro’n garcus
rhag ofn i'r gwaith wyro'n gam
a throi'n un arall i’r pentwr nam

A phan ddaw at ei siâp yn fy llaw
ei grefft yn un gyffredin, anhynod,
fy nillad wedi swarjo gan faw;
fe wn nad oes llawer gwell yn y byd
na theimlo clai ar y dwylo
a rhywbeth yn dod ynghyd.

Dyfan Lewis 9.5

Gwylliaid Cochion

(planu coed ar lan yr Hafesb, ar dir Mathrafal, mis Ebrill 2024)

Mae pob dyrnaid o’r sylwedd tamp
a thywyll hwn yn ryfeddod;
yn fyd rhwng ei fysedd oer.

Mae ei drwyn yn goch
wrth iddo blygu ar ei gwrcwd
i archwilio twll, byseddu’r cynnwys –
gwreiddyn, pryfaid genwair, ambell gareg.
Mae’n gweithio’n araf, ac o agor twll
ym mherfedd cae, mae’n mynd ati
â dwylo meddyg i’w drin,
i osod gwreiddgell derwen fach,
cyn cau y twll yn ôl.

Amynedd. Mae’n ceisio amgyffred degawdau
mewn dyrnaid fach o bridd.

Grug Muse 9.5

9 Englyn: Llygod Mawr neu Llygoden fawr

Ffoaduriaid (GO)

Nid dynoliaeth dwi’n ei hela. Dim ond
Llygod Mawr sydd yma;
nid plant mohonynt ond pla
a dyfith. Rhaid eu difa.

Gruffudd Owen 10

Gwylliaid Cochion

Vaughan Gething

Y syniad oedd creu Senedd o wydr
i wadu pob llygredd,
ond s诺n cropian, hôl dannedd
sydd yno’n tanseilio’i sedd.

Gwion Aeron 9.5