| ![theatr](/staticarchive/ca48ee7d0bebc129b616076457b53ae527ecab4f.gif) |
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Yr Argae Drama o Iwerddon yn deyrnged i Wil Sam
I ddarllen adolygiad Alwyn Gruffydd o Yr Argae gan Connor McPherson - cyfieithiad Wil Sam Jones - yn Theatr Sherman Caerdydd, Awst 6, 2008, cliciwch YMA
Yn ystod taith y cynhyrchiad fis Chwefror 2009 Catrin Beard fu'n adolygu'r cynhyrchiad ar gyfer Rhaglen Dewi Llwyd ar Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Radio Cymru fore Sul, Chwefror 1, 2009.
Dywedodd iddi fwynhau "drama arbennig o dda" sy'n rhan o draddodiad gwych o ddramau Gwyddelig.
Ychwanegodd na ellid fod wedi cael neb gwell na Wil Sam i drosi'r ddrama i'r Gymraeg.
"Mae'n gweddu yn berffaith i arddull a thafodiaith Pen LlÅ·n-Eifionydd Wil Sam," meddai. "Mae'n llifo ac yn arbennig o dda."
Am yr actorion dywedodd:
Owain Arwyn - "Mor naturiol ar lwyfan".
Emlyn Gomer - "Yn ardderchog".
Richard Elfyn - Perfformiad da.
Ian Saynor - "Yn gwneud ei orau" ond yn cwestiynu'r castio.
Sara Lloyd - Yn "actores ddiddorol" ac yn rhoi "un o'r perfformiadau gorau a welais i ar lwyfan ers blynyddoedd." Yr oedd "hyd yn oed hen sinig fel fi â dagrau yn fy llygaid".
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
|