Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Sibrydion
Adolygiad gan Nic Ros o gynhyrchiad diweddaraf Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru
Medi 2004

"Efallai mai arian sy'n gwneud i'r byd droi
ond trwy straeon y gallwn wneud synnwyr o'r cyfan.
"
Felly dywed Greg Cullen, cyfarwyddwr arlwy diweddaraf Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Sibrydion.

Y bwriad yw i "geisio creu theatr sy'n apelio ar draws terfynau oedran a diwylliant".

Campwaith hudolus
Yn sicr, yn weledol mae'r ffantasi dylwyth teg yma yn gampwaith, gyda set hudolus a rhyngweithiol James North ynghyd â gwisgoedd gogoneddus.

Mae'r darluniau'n ddigon i ddal llygaid a dychymyg unrhyw blentyn neu oedolyn am gyfnod ond efallai bod dwy awr a hanner yn gofyn gormod.

Byddai'r stori'n colli dim o docio rhai rhannau, ac yn wir, ar adegau byddai cyflymu'n gymorth i lif y cynhyrchiad.

Mae'n wir nad ydy hi'n dasg hawdd neilltuo cyfle i bob aelod o gast enfawr, ac weithiau mae'r sioe yn teimlo'n fwy fel showcase na darn unedig o theatr.

Perfformwyr nid actorion
Mae arddel safonau proffesiynol yn hanfodol i lwyddiant Th. G. I. C. Ac, fel arfer, mae gwledd o dalent yma; Tom Cullen yn gymwys o amrwd fel y Blaidd, Gruffydd Glyn ab Aled yn aeddfed a medrus fel y Teiliwr, ac Elain Llwyd yn meddu ar amseru comedi gwych yn rhan Liana.

Ond cast o berfformwyr sydd gennym ni yma, nid actorion.

Er bod y canu a'r dawnsio heb ei ail mae natur y sioe yn golygu bod y sgiliau yma yn ragofynion, a thybed a gollwyd rhai o'r "actorion" gorau yn y broses gyfweld o'r herwydd?

Hawdd deall penderfyniad Th. G. I. C. i fynnu sioe deithiol a phoblogaidd er mwyn arddangos galluoedd y bobl ifainc i gynulleidfaoedd mor eang â phosib, ond mae'n amhosib peidio ag edrych yn ôl ar orffennol gogoneddus y cwmni gyda hiraeth.

Filyn Guidi
Bu'r cwmni o dan gyfarwyddyd artistig Firenza Guidi ar droad y mileniwm, ac mae'r cyferbyniad rhwng ei gwaith hi a gwaith Greg Cullen yn peri i Sibrydion ymddangos yn druenus o ddiuchelgais.

Anodd fyddai i unrhyw un ddilyn etifeddiaeth Guidi a oedd, gyda'i pherfformiadau montage mewn lleoliadau arbennig, yn cyfrannu cymaint at addysg ehangach y bobl ifainc parthed posibiliadau theatrig.

Mewn prosiectau ieuenctid mae'r broses yr un mor bwysig â'r cynnyrch, ac er cystal y safon a gyflwynwyd ar lwyfan, roedd y deunydd ei hun yn boenus o hen ffasiwn.

Mewn sioe gerdd fel hon, ychydig iawn o le sydd i gynildeb dramatig. Ar adegau yn Sibrydion, roedd y perfformio yn efelychu pantomeim.

Ar lwyfannau Cymru fe gyflwynwyd ambell bantomeim gan gwmni proffesiynol o safon is na'r sioe yma.

Roedd y stori'n dibynnol ar elfennau dawns a sgript blodeuog yn hytrach nag unrhyw emosiwn gwirioneddol a pherfformiad Kimberley Nixon yn rhan y Ferch yn dioddef o achos hyn.

Er bod ganddi un o'r prif rannau, chafodd hi fawr o gyfle i ddangos ei thalentau, er bod ei pherfformiad yn lân ac yn ymroddedig.

Dwy iaith
Sioe ddwyieithog oedd hon i fod, gyda'r Gymraeg ar flaen y rhaglen o dan y teitl cyfatebol Saesneg, gyda Whispers in the Woods mewn print bras.

Dyma'n anffodus arwydd o'r cydbwysedd ieithyddol, nad oedd yn llwyddiant mewn unrhyw ffordd.

Ni chafwyd digon o'r Gymraeg iddi fod yn ddim mwy na symbol ac nid oedd rhesymwaith amlwg yn y defnydd ohoni chwaith.

Roedd rhai golygfeydd yn neidio o'r naill iaith i'r llall, ac er nad actio naturiolaidd oedd yma, roedd y defnydd o'r confensiwn yn fympwyol.

Serch hyn, fe gafwyd ambell uchafbwynt yn iaith y nefoedd, gyda chân Ceri Elen yn enghraifft nodedig.

Mae hi bron yn amhosib plesio pawb gyda sioe dwyieithog, ac efallai y dylid canmol y ffaith fod y Gymraeg yn bresennol o gwbl.

Roedd Sibrydion yn cynnig deunydd diddorol ac amrywiol ond heb lawer o her i'r perfformwyr, a lwyddodd yn ddios i gyflwyno ar lefel uchel.

Mae angen canmol y cast yn ei gyfanrwydd ond mae'r gwyliwr yma, fodd bynnag, yn gobeithio gweld Th. G. I. C. yn arbrofi mwy ac edrych tua'r dyfodol - yn y dyfodol.



cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Eisteddfod
Bei-Ling Burlesque
Mwnci ar Dân
A Toy Epic
A4
Actus Reus
Actus Reus - adolygiad
Ar y Lein
Araith hir yn y gwres
Back to the Eighties
Bitsh
Branwen
Branwen - adolygiad
Bregus
Breuddwyd Branwen
Breuddwyd Noswyl Ifan
Bryn Gobaith
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caban Ni Caban Nhw
Caerdroia
Caffi Basra
Café Cariad
Café Cariad
Camp a Rhemp -
Canwr y Byd Caerdydd
Cariad Mr Bustl
Crash
Cymru Fach
Cysgod y Cryman
Cysgod y Cryman - barn arall
Dan y Wenallt
Dawns y Cynhaeaf
Deep Cut
Deinameit
Dewi Prysor DW2416
Digon o'r Sioe
Dim Mwg
Diweddgan
Diweddgan - barn Aled Jones Williams
Dominios - adolygiad
Drws Arall i'r Coed
Erthyglau Cynllun Papurau Bro
Esther - adolygiad
Ffernols Lwcus
Fron-goch
Gwaun Cwm Garw - adolygiad
Gwe o Gelwydd
Gwell - heb wybod y geiriau!
Halen yn y Gwaed
Hamlet - adolygiad 1
Hamlet - adolygiadau
Hedfan Drwy'r Machlud
Hen Bobl Mewn Ceir
Hen Rebel
Holl Liwie'r Enfys
Iesu! - barn y beirniaid
Jac yn y Bocs
Johnny Delaney
Life of Ryan - and Ronnie
Linda - Gwraig Waldo
Lleu
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llyfr Mawr y Plant
Llywelyn anghywir
Lysh gan Aled Jones Williams
Macsen
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
Maes Terfyn
Maes Terfyn - adolygiad
Marat - Sade
Mari'r Golau
Martin, Mam a'r Wyau Aur
Meini Gwagedd
Melangell
Mosgito
Mythau Mawreddog y Mabinogi
Môr Tawel
Nid perfformiad theatrig
Noson i'w Chofio
O'r Neilltu
O'r boddhaol i'r diflas
Owain Mindŵr
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar
Porth y Byddar:
adolygiadau ac erthyglau

Pwyll Pia'i
Rapsgaliwns
Redflight Barcud
Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
Sibrydion
Siwan - adolygiadau
Siwan - adolygiadau
Siwan - barn Iwan Edgar
Sundance
Tafliad Carreg
Tair drama tair talaith
Taith Ysgol Ni
Taith yr Urdd 2007
Theatr freuddwydion
Trafaelu ar y Trên Glas
Tri Rhan o Dair - Adolygiad
Tri Rhan o dair
Twm Siôn Cati
TÅ· ar y Tywod
Wrth Aros Godot
Wrth Borth y Byddar
Y Bonc Fawr
Y Crochan
Y Dewraf o'n Hawduron
Y Gobaith a'r Angor
Y Pair
Y Pair - Adolygiad
Y Pair - adolygiad Catrin Beard
Y Twrch Trwyth
Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
Yn y Ffrâm
Yr Argae
Yr Ystafell Aros
Zufall
Eisteddfod
Yr Eisteddfod
Genedlaethol
2008 - 2004

Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


Eisteddfod 2004
Eisteddfod 2003
Eisteddfod 2002
erthyglau
Bitsh! ar daith drwy Gymru
Adeilad y Theatr Genedlaethol
Alan Bennett yn Gymraeg
Beckett yn y Steddfod
Blink
Bobi a Sami a Dynion Eraill
Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
Buddug James Jones
Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
Caerdroia
Clymau
Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
Cysgod y Cryman - her yr addasu
Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
Dominos
Drws Arall i'r Coed
Ennyn profiadau Gwyddelig
Esther
Ffernols Lwcus
Fron-goch yng Ngwlad Siec
Frongoch
Grym y theatr
Gwaun Cwm Garw
Gŵyl Delynau Ryngwladol
Hamlet - ennill gwobr
Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
Hen Rebel
Holi am 'Iesu'
Iesu! - drama newydd
Llofruddiaeth i'r teulu
Lluniau Marat-Sade
Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
LluniauMacsen - Pantomeim 2007
Llyfr Mawr y Plant ar daith
Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
Marat - Sade
Marat - Sade: dyddiadur actores
Mari'r Golau
Mari'r Golau - lluniau
Meic Povey yn Gymrawd
Melangell
Migrations
Mrch Dd@,
Mwnci ar Dân
Myfyrwyr o Goleg y Drindod
Olifer - Ysgol y Gader
Owain Glyndŵr yn destun sbort
Panto Penweddig 2006
Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
Pishyn Chwech
Plas Drycin
Ploryn
Porth y Byddar
Romeo a Juliet
Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
Sion Blewyn Coch -
y seicopath?

Siwan ar daith
Streic ar lwyfan
Sundance ar daith
Teulu Pen y Parc
Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
TÅ· ar y Tywod
TÅ· ar y Tywod
- y daith

Wrth Aros Godot - holi actor
Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
Y Pair
Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
Y ferch Iesu
Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
Yr Argae ar daith


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý