![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Gwaun Cwm Garw - adolygiad Cynhyrchiad ysgytwol gwerth ei weld
Adolygiad Eifion Lloyd Jones o gynhyrchiad cwmni Bara Caws Gwaun Cwm Garw gan Sharon Morgan. Clwyd Theatr Cymru. Mawrth 20, 2007.
Gwerth ei gweld!
Camp fwya' unrhyw addasiad yw ymddangos fel pe bai'n waith gwreiddiol - ac mae dwy ffordd o ymgyrraedd at hynny.
Y naill yw sicrhau fod y ddeialog a'r iaith yn llifo'n gwbl naturiol o enau'r cymeriadau fel pe bai nhw sy'n dweud y geiriau am y tro cynta'; a'r llall yw sicrhau fod y digwydd mewn lleoliad cwbl gredadwy fel y gellid derbyn mai yno'n wir y digwyddodd y cyfan.
Ydi'r dref ger Gwaun Cwm Garw yr un mor gredadwy â Laramie'r gwreiddiol?
Ydi'r cymeriadau'n ein argyhoeddi mai iddyn nhw y digwyddodd hyn go iawn?
Braf ydi gallu ateb yn gadarnhaol a datgan fod yr addasiad a'r cynhyrchiad wedi gweithio'n llwyddiannus iawn.
Ymgyrchol Drama ymgyrchol sydd yma: ymgais i gyflwyno ymateb cymysglyd ac ansicr brodorion y dref i lofruddiaeth Matthew Shepard, llanc hoyw un ar hugain oed.
Am y digwyddiad hwnnw yn Laramie yn yr Unol Daleithiau ddechrau Hydref 1998 y lluniodd Moisés Kaufman ei ddrama wreiddiol, gan adlewyrchu barn a rhagfarn tua deugain o drigolion a holwyd am eu hymateb i'r ymosodiad.
Chwech o actorion Dim ond chwech o actorion sy'n cyfleu hanner cant o gymeriadau yn y cynhyrchiad yma gan Bara Caws ac maen nhw'n gwneud hynny'n rhyfeddol o gelfydd.
Rydyn ni'n gallu derbyn yr holl newid cymeriadau gydol y ddrama ac mae'r clod am hynny i'w rannu rhwng yr actorion a chyfarwyddo Catrin Edwards, oedd yn gwneud defnydd da o'r symud o bob cwr o'r llwyfan.
Mae'r symud yn sydyn gan gynnal diddordeb mewn dwsinau o olygfeydd byrion. Ond yn naturiol, mewn cyfresi mor bytiog, mae'n anodd adeiladu llawer o densiwn dramatig rhwng y cymeriadau.
Er hynny, ac er ei bod yn amhosib' mynd o dan groen y cymeriadau unigol, rydyn ni'n dod i adnabod teimladau a thueddiadau pobl y dref yn gyffredinol, a thrwyddynt, ddod i adnabod y ddynoliaeth.
Defnydd effeithiol o sgriniau Set gyfoes, syml a llonydd sydd ar y llwyfan gydol y cynhyrchiad, gyda thair sgrîn go fawr, dau lwyfan bychan, gofod fel bar tafarn a nifer o flociau y mae'r actorion eu hunain yn eu symud yn hwylus fel bo'r galw.
Gwneir defnydd pur effeithiol o'r sgriniau gyda golau lliw a nifer o luniau a delweddau: gan gynnwys pobl yn symud tu ôl i'r sgriniau i gyfleu prysurdeb ac, yn arbennig, y cysgod o'r llanc wedi'i glymu i'r ffens lle'i gadawyd i farw - a'r ffurf ar y sgrîn yn cyfleu Crist ar y Groes.
Ceir cerddoriaeth gefndirol addas yn achlysurol drwy'r ddrama, er bod sain y côr lleisiol eglwysig braidd yn ymwthiol tua'r canol.
Addasiad yn gampwaith Mae addasiad Sharon Morgan yn gampwaith sy'n llifo'n gwbl rwydd mewn iaith lafar naturiol ddeheuol, gyda chyffyrddiadau o fewn y sgript sy'n unigryw Gymraeg a Chymreig fel sôn am y 'Steddfod ar y naill law, a'r mart a'r ffatri la'th ar y llaw arall.
Prin iawn ydi'r dywediadau anaddas: "dwyn oddi wrtho" yn hytrach nag "oddi arno", "pum cant o fobol" yn hytrach nag "o bobol", ac "am un deg wyth awr" yn hytrach na'r "deunaw awr" a fyddai'n fwy naturiol mewn iaith ffurfiol barnwr y llys.
Taflu geiriau Ar ddechrau'r ddrama, roeddwn i'n teimlo fod gormod o eiriau'n cael eu taflu atom ni ar ruthr gwyllt ond buan iawn y setlodd y rhythm yn un hollol naturiol ac, weddill y ddrama, roedd y llefaru'n gweddu i bob cymeriad, a hwnnw'n llefaru hynod o naturiol: siarad efo'i gilydd ac efo ni oedden nhw.
Dylid canmol pob un o'r actorion am amrywiaeth eu cymeriadu: Ifan Huw Dafydd, Jonathan Nefydd, Rhodri Evan, Geraint Pickard, Delyth Wyn a Maria Pride, er mai Maria, hwyrach, oedd fwyaf unffurf ei goslefu.
Ar y llaw arall, Rhodri Evan oedd fwyaf amrywiol ac effeithiol ei bortreadau, tra mai'r eiliadau mwyaf emosiynol oedd Ifan Huw Dafydd yn darllen llythyr tad y llanc marw gerbron y llys.
Neges - nid pregeth Cynhyrchiad digon ysgytwol ar adegau, felly, gyda'r neges gref am ragfarnau ac anoddefgarwch ein cymdeithas yn cael ei chyfleu'n gadarn, ond heb fynd yn ormod o bregeth.
Ac mae'r goleuni sydd yn llewyrchu trwy'r tywyllwch yn ei gwneud yn werth ei gweld ar bob cyfrif.
Cysylltiadau Perthnasol
Y ddrama a'r daith
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
![cyfannwch](http://www.bbc.co.uk/cymru/pobolycwm/images/headers/cas_header_427x38.gif) |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|