![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
Y Dewraf o'n Hawduron Cwmni amatur yn plesio'r bobl
Sylwadau Glyn Evans ar gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron gan Harri Parri. Theatr Seilo, Caernarfon. Mawrth 27-31, 2007.
Cafwyd cynulleidfa y byddai Cefin Roberts a'i Theatr Genedlaethol Cymru wedi bod yn fwy na balch ohoni yn Theatr Seilo Caernarfon nos Fawrth, Mawrth 27, 2007.
Ac fe fyddai mewn perlewyg gyda sgwrs y bobl ar eu ffordd allan wedi cwta ddwyawr yn olrhain bywyd a gwaith T Rowland Hughes.
Er mai cynhyrchiad amatur oedd hwn yr oedd pobl wedi teithio yno o bellafoedd gyda bysus o Rosmeirch, Tudweiliog, Pencaenewydd, a Llanddoged er enghraifft.
A go brin i neb droi am adref o'r Theatr Seilo lawn yn siomedig gyda chynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n hawduron - T Rowland Hughes, y Dyn a'i Waith gan Harri Parri, storïwr byrion o fri a chyn weinidog y capel y mae'r theatr yn rhan ohono.
Awdur allweddol Er mewn peryg o fod yn enwog ar sail y pedwar gair, "Cadw dy blydi chips" yn unig yr oedd T Rowland Hughes yn awdur allweddol yn hanes y nofel Gymraeg - ef, yn wir, oedd y ddolen nesaf at Ddaniel Owen yn y gadwyn honno y daeth Islwyn Ffowc Elis yn rhan ohoni rai blynyddoedd wedyn.
Yr hyn sy'n rhyfeddol yw iddo gyflawni hyn yn y pedair blynedd rhwng 1943 a 1947 pryd y cyhoeddwyd ei bum nofel gan gychwyn gydag O Law i Law am yr hen lanc canol oed, John Davies, yn gwerthu eiddo'r cartref yn dilyn marwolaeth ei fam.
Er nad yn nofel yng ngwir ystyr y gair enillodd galon y Gymru Gymraeg yn syth ac fe'i dilynwyd gan William Jones, Yr Ogof, Chwalfa - ei nofel fwyaf - ac Y Cychwyn.
Ond daeth ei yrfa i ben gyda'i farwolaeth yn ddim ond 46 oed yn 1949 wedi ei lethu gan MS, yn gaeth i gadair olwyn ac yn dueddol o ysbeidiau o ddigalondid ac iselder mawr.
Mewn pruddglwyf A dyna lle mae 'drama' Harri Parri yn cychwyn - yng Nger-y-llyn, cartref T Rowland Hughes a'i briod, Irene, yn y Rhath yng Nghaerdydd ddechrau'r pedwardegau.
T Rowland Hughes mewn pruddglwyf yn cael ei berswadio gan Irene i ddechrau sgrifennu nofelau.
"Rhaid ichi ysgwyd eich hun o'r digalondid yma," meddai hi a dyma ni yn syth i olygfa enwog gwerthu'r mangl yng nghartref yr hen lanc John Davies sy'n clirio'r cartref wedi marwolaeth ei fam yn O Law i Law.
A buan iawn y sylweddolwn, er mai cyflwyniad - fyddai hi ddim yn hollol deg ei alw yn ddrama - am ddyn wedi ei lethu gan iselder yw hwn nid yw'n gyflwyniad i lethu cynulleidfa.
Y llon a'r lleddf Mae'n brothio o hiwmor gyda golygfeydd a llinellau cofiadwy wrth ddilyn gyrfa T Rowland Hughes yn fachgen yn Llanberis (Owen Alun Puw Williams), yn y coleg ym Mangor, yn brifardd cenedlaethol ac yn gynhyrchydd gyda'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yng Nghaerdydd (Dafydd Hughes) cyn dod oherwydd ei waeledd yn ffigwr allweddol yn hanes llenyddiaeth Gymraeg (Gwyn Lewis).
"Dyma un a droes ei salwch yn hamdden," meddir gan ddyfynnu Wil Ifan a ddywedodd hefyd;
"Bu ei salwch yn gyfle iddo . . . ddehongli'r bywyd y bu'n gynefin ag ef."
Cadw'r chips Wrth gwrs, ni fyddai fiw ichi hyd yn oed sôn am T Rowland Hughes heb gyfeirio at y dyfyniad llenyddol Cymraeg gyda'r enwocaf - a mwyaf beiddgar am flynyddoedd lawer - "Cadw dy blydi chips".
Ac yn wir yr oedd yr olygfa o William Jones ymhlith y 27 o olygfeydd a chwaraewyd gan y cast o gryn bymtheg ar hugain o chwaraewyr y Gronyn Gwenith.
Hwn oedd y cynhyrchiad i ddathlu deng mlynedd ar hugain Cymdeithas y Gronyn Gwenith - cymdeithas a sefydlwyd pan agorwyd Theatr Seilo gyntaf yn 1977 ac a fu'n llwyfannu cynyrchiadau bob blwyddyn ers hynny gan ennill cryn boblogrwydd yn lleol.
Camp nid bychan yn y Gymru sydd ohoni.
Yn gyn weinidog ar y capel y mae'r theatr yn rhan ohono cyfrannodd Harri Parri at fwy nag un o'r cynyrchiadau hynny.
Golygfeydd byrion Plethiad difyr o olygfeydd byrion allan o nofelau T Rowland Hughes ac o wahanol benodau yn ei fywyd yw Y Dewraf o'n Hawduron - gyda llaw, onid "y dewra' o'n hawduron" ydoedd yn englyn R Williams Parry, tasa hynny o bwys?
Ac fel nofelau'r gwrthrych llithra'r golygfeydd yn rhwydd o'r llon i'r lleddf o'r dwys i'r doniol a hynny'n amlwg yn plesio'r gynulleidfa i'r dim.
Go brin bod golygfa wan o gwbl ymhlith y 27 ond nid yw ond yn naturiol fod ambell un yn glynu'n dynnach na'i gilydd wrth y cof - yn arbennig: Dosbarth dysgu adrodd Ioan Llwyd; Yr impresario pictiwrs; Professor Archer yn y coleg; Adrodd Ora Pro Nobis er enghraifft.
Mae'r sgript yn asiad hyfryd a graenus o arddull T Rowland Hughes a Harri Parreiaid lliwgar. Idiomau lliwgar mewn Cymraeg gafaelgar.
Meddai Mam TRH wrth ei gŵr yn dilyn ymweliad athro coleg a'u cartref: "Glywsoch chi ei Saesneg o?" ac yntau'n ateb, "Ond Sais oedd o." "Wn i ddim lle magwyd rhai pobl - os nad o dan ddail riwbob." Ac meddai Irene, wrth i'w gŵr geisio ymddangos yn siriol gerbron ymwelydd; "Hyfforddi actorion oedd gwaith Tom - ac yn awr ef yw'r actor."
Y llwyfan Ar gyfer y cyflwyniad rhannwyd cefndir y llwyfan yn bedwar hwylus gyda lluniau i gyfleu, 'Ger-y-llyn' yng Nghaerdydd, stiwdio radio, Llanberis, cartref rheini TRH, y chwarel a siop gyda lle yn weddill ym mlaen y llwyfan ar gyfer ambell i olygfa arall fel yr ysgol.
Cerddoriaeth hiraethus Mae defnydd effeithiol o gerddoriaeth hiraethus y cyfnod rhwng y golygfeydd ac yn ei phlith fersiwn o Tydi a roddaist liw i'r wawr
Wrth gwrs, byddai'n annheg peidio â chydnabod mai cynhyrchiad amatur gyda gwerthoedd cynhyrchiad amatur yw hwn ond o fewn y cyd-destun hwnnw yr oedd yn un a roddodd gryn fwynhad a boddhad i gynulleidfa - ac mae hynny'n rhywbeth na ellir ei ddweud am sawl cynhyrchiad proffesiynol clyfrach yng Nghymru y dyddiau hyn.
Bydd perfformiad o Y Dewraf o'n Hawduron bob nos tan nos Sadwrn.
Go brin mai lle adolygydd yw awgrymu na fyddai'n wastraff amser i aelodau o'n theatr broffesiynol bicio draw i Theatr Seilo er mwyn gweld beth sy'n tynnu pobl a'u hanfon adref yn fodlon y dyddiau hyn - ond fe allai fod yn fuddiol iddynt.
A chymryd bod yna sedd wag ar ôl erbyn hyn.
Cliciwch YMA i weld lluniau a dynnwyd gan y Parchedig gwenda Richards, gweinidog Seilo, o'r cynhyrchiad.
Cysylltiadau Perthnasol
Lluniau o'r cynhyrchiad
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif)
![cyfannwch](http://www.bbc.co.uk/cymru/pobolycwm/images/headers/cas_header_427x38.gif) |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |
|