Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y castActus Reus
Yr union beth - digri gyda phlot cyffrous
  • Adolygiad Glyn Jones o Actus Reus gan Valmai Jones. Theatr Bara Caws gyda Maldwyn John, Eilir Jones, Valmai Jones, Jonathan Nefydd, Dyfan Roberts a Sue Rodderick. Cyfarwyddwr, Tony Llewelyn.


  • Wel o'r diwedd!
    Drama gall gan ddramodydd call - ac mae hynny'n beth prin.

    Fel rheol, creadur rhyfedd yw'r dramodydd gyda rhyw syniad ffôl fod yn rhaid i ddrama dda fod yn gymhleth gyda chymeriadau deg dimensiwn yn athrawiaethu a siarad yn symbolaidd.

    Nid felly'r ddramodwraig hon.
    Aeth ati i ysgrifennu gydag un bwriad yn unig - gwneud i'r gynulleidfa chwerthin.
    A chwerthin a gafwyd.
    Roedd Theatr Gwynedd bron yn llawn a'r chwerthin yn codi'r to.
    Dyna i chi brofi llwyddiant y ddrama.

    Actorion ecsentrig
    Ond nid rhyw bantomeim di-chwaeth mo hon chwaith. I'r gwrthwyneb, dychymyg soffistigedig sydd ar waith yma.

    Stori yw am griw o actorion ecsentrig yn cyrraedd gwesty anghysbell jest cyn y Nadolig i berfformio 'murder mystery'.

    Yn anffodus, oherwydd eira trwm ni all y gynulleidfa gyrraedd, ac yma mae'r hwyl go iawn yn dechrau - tra'n ymarfer mae un o'r actorion yn cael gwenwyno ac yn marw yn y fan a'r lle, a does neb yn gwybod pwy sy'n gyfrifol.

    Cynnwys y gynulleidfa
    Iawn, medda chi, be sy'n soffistigedig am hyn?

    Wel, mi ddeudai wrthych. Dyma un o'r ychydig ddramâu a welais sy'n cynnwys y gynulleidfa yn y perfformiad.

    Cawn ein hunain yn ceisio'n gorau glas i ddatrys y llofruddiaeth ac, os fel fi, yn methu'n lân a gwneud.

    Pedwar posibl
    Pedwar llofrudd posib, pob un a rheswm a chyfle i ladd y Dame Elenora, y ddynes ryfedda a welais ar lwyfan erioed.

    Un eisiau ysgariad, un eisiau arian, un oherwydd cyfrinach a'r llall oherwydd casineb pur.

    Dyma'r actus reus - y 'weithred euog' os leiciwch.

    Fesul un, mae'r cymeriadau parchus, diniwed, yn cael eu rhoi dan y chwyddwydr a chyfrinachau o'r gorffennol yn dod i'r wyneb ac o fewn ychydig mae coelcerth casineb yn fflamio'n braf.

    Mae'r emosiynau sy'n medru ein troi o fod yn bobl neis, neis, i fod yn llofruddion gwaed oer i'w gweld yn glir, ac mae rhywbeth reit arswydus yn hyn.

    Ac oes, fel ym mhob drama dda mae is blot hefyd gyda thad a mab yn cyfarfod am y tro cyntaf, a hynny yng nghanol yr holl chwerthin.

    Mae'r plot yn wirioneddol grefftus ac yn ein cadw'n dyfalu tan y munud olaf un - ac hyd yn oed wedyn mae tro bach neis yn y gynffon.

    A hyn oll yn digwydd o fewn set seml - ystafell mewn gwesty. Drama yng ngwir ystyr y gair.

    Dros ben llestri
    Er hyn oll, credaf i'r ddramodwraig fynd dros ben llestri braidd gan anghofio weithiau fod y ffin rhwng y digri a'r hurt yn denau iawn a'r ddrama, gwaetha'r modd, yn croesi'r ffin sawl gwaith.

    Nid yw malu iwcaleliwm (feiolin bach) a phoeri brechdan dros y llwyfan yn ddigri o gwbl.

    Yr un modd, cymeriadau yn galw enwau ar ei gilydd - plant Dosbarth Derbyn sy'n gwneud pethau felly nid pobl mewn oed.

    Trio'n rhy galed oedd y bai mawr ac o ganlyniad collwyd naturioldeb y sefyllfa ac ar adegau fel hyn roedd yr hiwmor yn troi'n syrffed ac yn flinder.

    Pam Saesneg?
    Saesneg wedyn.
    Nid oedd gofyn amdani o gwbl yn y ddrama hon felly pam ei chynnwys?

    Os am gynnwys Saesneg mewn drama waeth ei sgwennu yn Saesneg ddim. Yn lle cân Saesneg i ddechrau, beth am gân Gymraeg?
    Siawns na all Cymru wneud rhywbeth heb Loegr!

    Pobl go iawn?
    Ac yna'r cymeriadau.
    Er yn ddigri o ecsentrig, doedd yna fawr mwy iddynt na hyn. Teimlwn weithiau nad bobol go iawn oeddent ond rhyw ddyfeisiadau i'r gynulleidfa chwerthin am eu pennau ac o'r herwydd roedd yr hyn a allai fod yn sefyllfa go iawn yn cael ei throi'n ffars.

    Credaf hefyd i'r actio fynd dros ben llestri braidd.

    Cymeriadau yn ymladd ar y llwyfan, a'r cwnstabl yn ymddangos fel Sïon Corn ar y diwedd!

    O gofio mai holl hanfod drama yw'r cymeriadau, nid oeddwn yn rhy hapus!

    Heblaw am y manion hyn, ni allaf ond canmol, canmol a chanmol.

    Dyma'r union fath o ddramâu y mae Cymru eu hangen. Dramâu digri â phlot cyffrous i chwalu'r ddelwedd o theatr fel rhywbeth i'r crachach ac i ddod a'n pobol ifainc yn ffrydio drwy'r drysau.

    Wedi'r cyfan, fanna mae'r dyfodol, ynte.


  • Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Adolygiad Rhodri Ll Evans

  • Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý