Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Toy EpicA Toy Epic
Rhagori ym mhob ffordd
  • Adolygiad Glyn Jones o A Toy Epic gan Emyr Humphreys. Addasiad llwyfan gan Manon Eames. Cyfarwyddwr, Tim Baker.


  • Aelodau'r Cast: Catrin Aaron, LlÅ·r Evans, Gareth Milton, Jonathan Nefydd, Dyfed Potter, Alys Thomas, Dylan Williams.

    Roedd Theatr Gwynedd bron yn llawn ar gyfer cynhyrchiad Clwyd Theatr Cymru o nofel fawr gyntaf Emyr Humphreys wedi ei haddasu ar gyfer y llwyfan gan Manon Eames a hynny'n dyst i'r broliant a gafodd y ddrama yn llyfryn y theatr.

    "A moving evocation of lost innocence and destiny in a Welsh community where the future seems suddenly fragile and uncertain."

    Tri phlentyn
    Drama am dri phlentyn yn tyfu a lledu eu hadenydd sydd yma. Stori gyfarwydd a gaiff ei dweud a'i hailddweud mewn nofelau a dramâu fel ei gilydd.

    Er hyn, nid yw'r stori'n ddiflas, hynny'n bennaf oherwydd y ffordd y'i dywedwyd.

    Goleuir y llwyfan i ddangos hen ŵr yn edrych yn hiraethus dros drefi yr hen Sir Fflint. Gorwedd, cysga, cofia.

    Ar ddiwedd y ddrama fe ddeffry ac edrych dros y gwastadeddau yn hiraethus unwaith eto. Ymddengys mai breuddwyd yw corff y ddrama. Gwelwn yr atgofion hyn mewn cyfres o vignettes - fflachiadau o fywyd y tri bachgen wrth iddynt dyfu yn ddynion ifanc.

    Mae dweud y stori yn y ffordd hon yn cadw diddordeb y gynulleidfa ac yn fodd i ganolbwyntio ar bob un o'r tri bachgen yn eu tro, a hynny mewn ffordd nad yw'n tynnu sylw at ei hun.

    Fodd bynnag, credaf i'r ddrama lusgo braidd yn rhy hir. Disgwyliais iddi orffen gyda'r chwarae cuddio, yna gyda sgwrs Iorwerth a Michael, yna gyda'r llun, ac yna gyda'r ddamwain.

    Actiwyd y tri phrif gymeriad, Albie, Michael ac Iorwerth gan Dyfed Potter, Gareth Milton a Dylan Williams - y tri yn gwbl gredadwy.

    Adlewyrchwyd diniweidrwydd cefn gwlad Iorwerth yn ei acen, ac yn enwedig yn y ffordd y cynhyrfid ef gan bethau fel golau trydan a chael ei symud i flaen y dosbarth am gael ei sỳms yn gywir bob un.

    Yn yr un modd, Albie a Michael.
    Ar ddechrau'r ddrama roedd y ddau yn falch gydag ysgwyddau llydain ond fel y deuai siomedigaethau bywyd i'w blino maent yn troi'n fwy mewnblyg a phenisel.

    O un i'r llall
    Roedd y pedwar actor arall yn actio oddeutu 15 cymeriad rhyngddynt gan newid o un i'r llall yn slic a di-lol.

    Catrin Aaron, er enghraifft, yn feistres Maesgwyn, yn wraig y Mans, yn gariad Albie ac yn fersiwn dros ben llestri o athrawes Ladin.
    Pan newidiai gymeriad roedd ei hacen a'i goslef yn newid gyda hi.

    Y llwyfan
    Roedd y set yn syml ond effeithiol. Dim ond ramp yn codi tuag ochr dde y llwyfan w hwnnw'n cyfleu y bryncyn y safai'r hen ŵr arno ar ddechrau ac ar ddiwedd y ddrama yn wych.

    Yr un modd, y llecyn lle chwaraeai'r plant.

    Defnyddid y llwyfan i'w lawn botensial. Galluogai i Wil Ifor, yr hogyn drwg, guddio a chwarae castiau ar ei gyfoedion. Galluogai i Iorwerth weld ei gariad a'i ffrind gorau yn cusanu, a hynny heb yn wybod iddynt. Mae hyn oll yn glod i gyfarwyddo effeithlon Tim Baker.

    Darlun o fryniau gwyrdd yn null Kyffin Williams oedd y cefndir gan roi'r ymdeimlad o gefn gwlad a Chymreigrwydd.

    Ar un achlysur trowyd y cefndir hwn yn las er mwyn ein symud yn drawiadol iawn o gefn gwlad Cymru i noson oer ar bromenâd y Rhyl.

    Roedd y gerddoriaeth achlysurol yn cyfleu naws y cyfnod fel y dewis o wisgoedd.

    Michael mab y Mans mewn trowsus a gwasgod. Iorwerth mewn trowsus blêr a siwmper dyllog, wladaidd. Albie mewn dillad syml, trefol.

    Celfyddyd
    Roedd iaith y ddrama'n union yr hyn y dylai iaith y theatr fod. Yn wahanol i dalp go helaeth o'n dramodwyr cyfoes mae Manon Eames yn gwerthfawrogi mai darn o gelfyddyd yw drama lwyfan ac fe sicrhaodd fod y ddeialog yn adlewyrchu'r iaith lafar ond sicrhaodd fod ganddi'r rhywbeth bach ychwanegol hwnnw sy'n ei chodi uwchben iaith bob dydd.

    Mae'r ddrama'n frith o wreiddioldeb ieithyddol megis y rhyfeddod hwnnw a welodd Iorwerth yn ffenest y siop; 'A pyramid of glistening bottles.'

    Mae'r ddrama'n enghraifft berffaith o lenyddiaeth Eingl-Gymreig ar ei gorau. Dengys ddwy iaith a dau ddiwylliant Cymru yn cydfyw.

    Mae'n deyrnged i'r oes a fu ac yn cofnodi digwyddiadau'r cyfnod megis y tlodi, y diweithdra, y streicio a'r Rhyfel.

    Yn bwysicach, efallai, daw a gwên i'r wyneb gyda'i hiwmor, a thristwch i'n llygaid pan welwn pa mor hawdd y gall breuddwydion ieuenctid chwalu'n dipiau mân.


  • Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.


  • Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý