Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Diweddgan
Pwdin Dolig o ddifyrrwch uwch.
Ar daith yn awr o amgylch Cymru
  • Adolygiad Iwan Edgar o Diweddgan gan Samuel Beckett - cyfieithiad Gwyn Thomas. Theatr Genedlaethol Cymru. Theatr Gwynedd, nos Iau, Hydref 5, 2006.


  • Ia trwm, disgwyliadwy drwm.
    Ailadroddus dindroi, beichus - dyna'r math o ddrama ydyw hon.

    Llathenni o fregliach a llifeiriant o eto, eto, eto.

    Darlunio diddymdra yn ei holl ogoniant gwag.
    Dyna oedd y bwriad a dyna oedd yn ei wneud, gyda Threfor Selway a Lisabeth Miles yn codi fel Bill a Ben gynt (er parchus goffadwriaeth) o ddau fin lludw yn yr ochr i rwdl athronyddu.

     Yntau, y cymeriad canolog , Hamm (Arwel Gruffydd) - mab y ddau sydd yn y biniau - yn ddall ac ynghlwm wrth gadair olwyn yn traethu am y gwegi a Clov (Owen Arwyn) yn anfoddog weini arno.

    Marw yn y bun
    Am wn i mai'r unig ddatblygiad sydd i'r ddrama yw bod Lisabeth Miles (neu'n hytrach, Mamm Hamm) yn marw yn y bin (er mai wrth fynd heibio y mae hynny).
    Hamm yn chwilio am ryw gysur cariad tua'r diwedd, a Clov o'r diwedd, ar ôl bygwth drwy'r ddrama, yn mynd a gadael y lle.

    I lle mae'n mynd ac i beth nid oes wybod. Dyna pam mai diwedd - gân ydyw. Am wn i.

    Cael ei fowlio hyd y lle
    Cyn hynny, ymhlith nifer o bethau diflas eraill, mae Hamm yn cael ei fowlio hyd y lle rownd a rownd gan Clov, gan fwydro a yw'n y canol pan fo yn y canol ynteu a yw ormod i'r dde ynteu ormod i'r chwith; ormod yn ôl ormod ymlaen, a phethau felly, ac mae llygoden fawr yn y gegin drwodd meddai Clov a rywbeth arall a rhywbeth arall, a Hamm i gael ryw hyn a'r llall wrth iddo chwythu ei bib yn ddiddiwedd i dynnu Clov i wneud rhywbeth neu'i gilydd.

    Mae'r holl drefn erbyn hyn wedi troi'n slwj ym mhen rhywun wrth geisio cofio'n ôl; yn gyforiog o symbolaeth a gwir a gau bosibiliadau dehongli.

    Mae'r set yn llwm: dau fin, dwy ffenestr, un drws, waliau pyg a chadair efo olwynion bach arni, ac ar y dechrau gorchudd gwyn dros y buniau a'r gadair olwynog. Lle digalon a phrudd.

    Piffian a lled chwerthin
    Lladdfa o ddrama i'w gwneud debygwn i, ond fyddai neb yn gwybod petai'r actorion yn ad-libio gwamalrwydd yn un scoth, gan gymryd na fyddai hynny'n mennu dim ar ysbryd a bwriad y genadwri waelodol.

    Mi oedd yna biffian a lled chwerthin gydol y perfformiad y noson gyntaf yn Theatr Gwynedd, drwy fod abswrdrwydd gogleisiol i'r cyboli ar brydiau a'r modd yr oedd y cymeriadau yn ymroi i ryw fanion truenus - er enghraifft, cafwyd cysur o'r ci clwt a wnaed gan Clov i Hamm ac a ddaeth yn rhan o'r props ayyb.

     Lled lafar lled lenyddol
    Rhyw ieithwedd lled lafar a lled lenyddol oedd i'r cyfieithiad gydag ynganu llenyddol braidd ar brydiau - wn i ddim a oedd hynny'n fwriadol ac wn i ddim a oedd hynny o ots.

    Mae'n debyg fod Arwel Gruffydd drwy fethu a symud o'i sêt a'r ddau arall yn eu biniau yn gwneud actio arferol yn anodd - ond maent yn llwyddo.

    Leciwn i ddim 'mo'r dasg o orfod cofio y ffasiwn druth ag un Arwel Gruffydd oni bai ei fod, fel y dywedais, yn ddigon 'tebol i ddyfeisio o'r newydd wrth ruo a rhefru ymlaen ac ymlaen.

    Cadw eu cynulleidfa
    Yr oedd profiad a hyder yr actorion yn eglur ac yn llwyddo i gadw eu cynulleidfa.

    Ond faint o gynulleidfa fydd honno drwy'r daith - wn i ddim.

    Drama i bobl ddrama go iawn ydyw hon. Fel y gallai bwytwyr mawr sglaffio dau neu dri pwdin Dolig yn olynol heb ddim menyn melys, rhaid cael dramagarwyr mawr i deimlo y gallant iawn stumogi hon.

    Ond 'dydw i ddim yn awgrymu na wyddai'r Theatr Genedlaethol hynny ac mai fi yw'r cyntaf i sylwi ar y peth (neu fyddai fy sylw fawr amgen i rai o sylwadau cwbl ynfyd amlwg y cymeriadau'r ddrama ei hun).

    Difyrrwch difyr a Difyrrwch uwch
    Ond o dderbyn hynny, wrth gwrs, mae yma'r glorian barhaol sydd yn pwyso rhwng difyrrwch "difyr" a difyrrwch "uwch" i'w hystyried.

    Ac mae'n siŵr, os caf ateb ar eu rhan, fod y Theatr Genedlaethol wedi penderfynu ein bod yn haeddu dogn o'r difyrrwch "uwch" ar brydiau ac nad ydynt mor wirion a meddwl y bydd y lluoedd yn ciwio tu allan cyn pob perfformiad.

    Mae'n debyg nad llawer ceiniog fydd diwedd y gân hon o ran arian wrth y drysau - ond dyna fo, dyna yw'r penderfyniad polisi mae'n debyg.

  • Aled Jones Williams yn anghytuno Cliciwch

  • Beth yw eich barn chi - cyfle i ymateb isod . . .


  • Taith Diweddgan
    Dyma fanylion y daith gyda phob perfformiad yn dechrau am 7.30:
    * - isdeitlo.
  • Theatr Gwynedd, Bangor. Hydref 5-7*.
  • Theatr Sherman, Caerdydd. Hydref 11-12*.
  • Theatr Hafren, Y Drenewydd. Hydref 19*.
  • Canolfan Gelfyddydau, Aberystwyth. Hydref 24.
  • Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug. Hydref 27-28*.
  • Theatr Lyric, Caerfyrddin. Hydref 31.
  • Theatr Mwldan, Aberteifi. Tachwedd 3 Tachwedd.

    Mae'r daith yn cynnwys gweithdai arbennig ar gyfer myfyrwyr drama a dysgwyr y Gymraeg, yn ogystal â'r is-deitlo yn Theatr Gwynedd, Bangor; Theatr Sherman, Caerdydd; Theatr Hafren, Y Drenewydd a Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug.

  • Cysylltiadau Perthnasol
  • Taith Diweddgan


  • cyfannwch

    John Owen, Rhuthun
    Gwerthfawrogais y perfformiad o "Diweddgan" yn Yr Wyddgrug (y cyntaf o`r ddau). Nid yw`n ddrama i`w mwynhau yn yr ystyr arferol er bod iddi ei hiwmor du. Mae gen i ddau beth i`w ddweud am y cynhyrchiad: 1.Roedd y ffenestri yn isel ac yn rhy gonfensiynol, ac o ganlyniad ni chafwyd yr esgyn a`r disgyn syrffedus i fyny ac i lawr yr ystol. A mae syrffed wrth hanfod ei ddramâu! 2. Mae seibiau yn bwysig yn nramâu Beckett, ac nid yw hon yn eithriad. Ni chafwyd y seibiau sy`n syfrdanu ac yn tanlinellu rhediad syrffedus amser. Roedd y cynhyrchiad fel cyfanwaith a`r actio unigol yn effeithiol iawn.

    Sian Roberts, Trefor
    Dw i mor falch i ddarllen hyn - dw i'n gwbod bod cwyno bod drama abswrd yn abswrd fel cwyno bod madarch mewn steak & mushroom pie ond a oedd angen iddi fod cweit mor abswrd?

    Mae Iwan Edgar wedi dweud yn union beth oeddwn i'n ei deimlo - a'i ddweud yn llawer gwell.
    ±á·É°ùê!



    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    TÅ· ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    TÅ· ar y Tywod
    TÅ· ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý