Ysgrifennodd Owain Siôn, sy'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llanfairpwll at awdur cyfres Alun yr Arth yn gofyn iddo lunio'r stori nesaf yn y gyfres am y Frigâd Dân. Derbyniodd Morgan Tomos yr her, a ffrwyth y gwaith yw Alun yr Arth a'r Tan Mawr.
Mae Alun yn dysgu'r rheolau diogelwch a sut i wneud galwad ffôn 999 ac mae'n cael achos i ffonio'r frigâd dan pan mae fflamau'n cynnau wrth gael barbaciw yn yr ardd. Yn ôl Morgan, "Mae Alun yr Arth yn gymeriad llawn hwyl ac yn mynd i drafferthion yn aml. "Ond diolch i Owain Siôn cawn weld bod Alun yn gwybod yn iawn i beidio chwarae â th thân. "
Aeth Morgan ac aelodau o Wasanaeth Tan ac Achub, Gogledd Cymru i Ysgol Llanfairpwll i gyflwyno copi o'r gyfrol ac un o'r lluniau wedi'i fframio i Owain. Cynhaliwyd gwasanaeth arbennig ar ddiogelwch tân yn yr ysgol er mwyn codi ymwybyddiaeth disgyblion o
beryglon tân yn y cartref. Roedd Owain Siôn wrth ei fodd. Meddai, "Mae'r llyfr yn wych. Rwyf wrth fy modd ag Alun yr Arth. Mae'n bwysig bod yn ofalus a dysgu'r rheolau tân ac mae'n grêt bod dynion tan go iawn a Morgan Tomos wedi
dod i'r ysgol. "
Dywed Neil Gallagher, Rheolwr Diogelwch dros Ynys Môn, "Mae ymroddiad plentyn fel Owain i ddiogelwch tan yn ysbrydoliaeth i ni.
" Braf o beth fyddai gweld holl drigolion Môn mor gydwybodol ac ymwybodol o'r peryglon ag Owain! "Rhan bwysig o'n gwaith ni yw addysgu pobl ynglŷn a sut i atal tanau yn y lle cyntaf. Bydd Alun yr Arth a'r Tan Mawr yn modd i ni gael y neges at blant Cymru ac felly codi ymwyddyddiaeth teuluoedd cyfan."
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |