Byd y Bêl-droed yw maes Alison Mummery o Lansadwrn. Wedi dechrau'r gamp gyda thîmau lleol, mae Alison erbyn hyn yn chwarae i dîm merched Manchester United. Mae tri mis caled o ymarfer a chwarae o flaen Alison ar y lefel Ryngwladol. Ar ddechrau Ebrill bydd carfan Cymru yn croesi Môr Iwerddon i gymryd rhan mewn Twrnarment Rhyngwladol. Ddechrau Mai bydd y garfan yn ymarfer yng Nghaerdydd am ddau ddiwrnod cyn teithio i herio yr Alban dan 17 oed ar faes Clwb Livingstone. Yna dechrau Gorffennaf teithio i wlad Denmarc ar gyfer Cystadleuaeth y Dona Cup. Ac Alison fydd yn arwain y tîm. Merch o Lansadwrn yn arwain ei gwlad â balchder. Dymuniadau gorau iddi. Athletau yw maes penodol Sarah McRobie o Landegfan. Mae hi yn cynrychioli timau Cymru mewn tri math o redeg. Ar y trac mae'n gobeithio datblygu dros 1500m a 3000m. Mae hi eisoes yn aelod o dîm Merched Hyn Cymru yn y gamp o redeg mynydd. Mae hefyd wedi gwneud ei marc yn y maes rasio traws gwlad. Enillodd ras y Merched Hyn yn y Bencampwriaeth Genedlaethol i Ysgolion Cymru.
Hi fydd yn arwain y tîm mewn Cystadleuaeth yn erbyn Gogledd Iwerddon, Canolbarth Lloegr a Chymru yn Aberhonddu. Yn ddiweddar bu Sarah draw yn yr Eidal yn cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Ewrop. Gorffennodd yn yr 17eg safle perfformiad disglair iawn. Mae Sarah yn aelod o Academi Athletau Cowell syn ymarfer ar drac Treborth. Llongyfarchiadau i ddwy ferch hynod Capteiniaid Cymru!
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |