Wrth ymyl yr adeilad pinc ei liw mae parc bach a cof-golofn yno ac wedi ei liwio ar wahân mae 'scarff pen' dynes. Arwyddocâd hwn yw dyma beth mae'r mamau yn wisgo am eu pennau, rhai gwyn yn unig, pan maent yn cerdded o gwmpas y parc a'r gof-golofn bob pnawn dydd Iau i gofio am eu plant sydd ar goll yn Argentina ers blynyddoedd. Nid yw'r mamau'n gwybod beth sydd wedi digwydd i'r plant hyn. Aethom i lawr am y dociau, rhain wedi eu hadnewyddu fel yr Albert Docks, Lerpwl ac yn foethus iawn i'w gweld. Heibio cae pêl-droed anferth, Boca Juniors ac i'r rhain arferai y pêl-droediwr Maradonna chwarae pan oedd yn ifanc. Ymlaen i La Boca, dyma le diddorol, llawn o dai bach lliwgar, siopau, caffis, marchnad ar y stryd a'r lle gorau i weld y Tango yn cael ei ddawnsio. Pawb ohonom wedi mwynhau ymweld y fan hyn a prynais bâr o glust-dlysau cerrig pinc, yr enwog Inca Rose, dim ond ar gael yn yr Ariannin. Nôl ar y bws ac ymlaen i gyfarfod â aelodau Cymdeithas Cymraeg Buenos Aires. Sôn am groeso a bwyd ardderchog bara wedi ei grasu gartref, jam cartref a dim sôn am gacen siop yn unlle. Sgwrsio llawer a chael hanes pawb. Sarah, Rona, Cali a'i gwr a Rachel a llawer eraill. Llawer ohonynt o'r Wladfa wedi dod i weithio yn y British Hospital yn Buenos Aires fel nyrsus, ond Rachel, Ysgrifenyddes oedd hi wedi priodi American Ambassador ac wedi bob yn byw yn Washington am 36 mlynedd. Mae wedi colli ei gwr, gwerthu ei thy ac wedi mynd yn ôl i'r Gaiman i fyw. Gorffen y diwrnod gyda cinio arall gyda'r nos am 9 o'r gloch. Maent yn bwyta'n hwyr iawn yn yr Ariannin! Fory Y Wladfa!
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |