Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Mrs Doris Jones a Mrs Eirlys Prytherch Dathlu gwasanaeth
Medi 2006
Ym mis Mehefin bu cyfarfod yn y Ganolfan ym Miwmares i ddathlu trigain mlynedd ers sefydlu MENCAP, sef y Gymdeithas sydd wedi datblygu yn wasanaeth ac adnodd effeithiol iawn i bobl ac anghenion addysg arbennig.
Yn ystod y cyfarfod bu i Mr Dafydd Wigley gyflwyno tlysau i ddwy sydd wedi gwasanaethu'r Mudiad ar Ynys Môn ac yn arbennig felly ym Mhorthaethwy.

Mae Mrs Doris Jones wedi bod yn rhan o waith MENCAP ar Ynys Môn am tros 40 mlynedd, ac am tros 30 mlynedd yn un o arweinwyr ac yn drefnydd Clwb y Gateway, Porthaethwy (sydd yn dod o dan nawdd MENCAP).

Am 30 flynyddoedd mae Mrs Eirlys Prytherch wedi bod un o'r arweinwyr, ac am lawer blwyddyn yn Ysgrifennydd. Yng nghyfarfod olaf y Clwb cyn gwyliau'r haf daeth y ddwy a'u tlysau i ddangos i aelodau'r Gateway.

Nid yw'n ormod dweud y byddai dyfodol y Clwb wedi bod yn ansicr ond am ffyddlondeb diflino Doris ac Eirlys ac ychydig eraill. Erbyn hyn, mae mwy o wirfoddolwyr, ond mae angen arweinwyr i'r dyfodol.

Trwy gyfrwng Papur Menai llawenhawn yn yr anrhydedd a roddwyd iddynt, a diolchwn am eu gwasanaeth sydd, wrth gwrs, yn parhau.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý