Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Ifor Roberts Pobl y Fro
Mai 2005
Y mis yma mae Edward yng nghwmni'r naturiaethwr Ifor Roberts ar ei aelwyd ym Mrynsiencyn.
Rwy'n adnabod y gŵr arbennig hwn, o ran ei weld ers blynyddoedd lawer. Fo ydy'r cogydd siriol, yr wyneb direidus a'r wên y tu ôl i gownter bwyty'r Pili Palas ger y Borth.

Yn ddiweddar fodd bynnag wrth wrando arno'n trafod bywyd cefn gwlad, byd adar, anifeiliaid a planhigion gwylltion Môn ar un o raglenni difyrraf Radio Cymru'r Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú roedd yn rhaid cael sgwrs! Beth well na chael Ifor ei hun i ddweud y stori?

*

"Dwi'n siŵr bod sawl un yn gofyn. A pwy ydi'r Ifor Roberts yma, sydd rai boreau Sadwrn yn siarad am fywyd gwyllt ar y radio ar raglen Gerallt Pennant a'r criw; Galwad Cynnar? Wel, dyma fi!

Cefais fy ngeni ac yn dal i fyw ym Mrynsiencyn. Rwy'n gweithio'n llawn amser yn y Pili Palas, Porthaethwy, lle mae pob math o ryfeddodau, a digon i'w wneud i'r holl deulu, hen ac ifanc.

Hefyd, rwyf yn Warden gwirfoddol efo Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn nhwyni Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn ers rhai blynyddoedd, cyn cael y swydd uchod. Bob munud rhydd oedd gen i, byddwn yn, ac ar y twyni yn gwylio adar, ond tua 1968 cefais y fraint o gyfarfod A. J. Mercer am y tro cyntaf.

Roedd Tony ar y pryd yn gweithio i'r Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd yng Nghonwy gyda pheth o'i waith yn cael ei wneud yn ardal Niwbwrch. Dyna ffodus o beth bod Tony yn byw ym Mrynsiencyn! Bob dydd bron ar ôl y gwaith yn y gwanwyn, mi fyddwn i'n cael bwyd, ymolchi ac yna rhuthro i dy Tony ac i ffwrdd a ni yn Y Land Rover am y Twyni.

Ifor ar un o'i deithiauGan fod Tony yn perthyn ar y pryd i'r Ymddiriedolaeth Ornitholeg Brydeinig, roeddwn yn cael ei helpu i fodrwyo rhai o'r adar.

Dwi'n siŵr eich bod wedi clywed am y gwalch y pysgod, (yr osprey enwog) a nythodd yng Nghymru ers 2004. Wel rwyf yn un o'r gwirfoddolwyr hynny sydd yn helpu'r RSPB i warchod y nyth ac mae'r gwalch yn ôl ac yn nythu eleni eto! Mae hi tua awr a chwarter o siwrnai o Frynsiencyn ond awr a chwarter gwerth ei gwneud.

Heblaw am yr uchod, byddaf (os yw'r amser a'r arian gen i!) wrth fy modd yn trafaelio o gwmpas Prydain a thramor i wylio adar a bywyd gwyllt.

Lle bynnag y byddaf yn ymweld, y peth cyntaf a wnaf yw prynu llyfr ar adar yr ardal neu'r wlad honno. Ers pan rwyf yn cofio, mae gen i ddiddordeb mawr mewn bywyd gwyllt, yn arbennig adar gwyllt, ond rwyf yn cymryd diddordeb mewn blodau gwyllt ac anifeiliaid hefyd. Ers 1976, rwyf wedi cael y fraint o ymweld â gogledd ddwyrain Affrica, yr Aifft, De Affrica (trafaelio o'r dwyrain i'r gorllewin), gogledd a dwyrain Anialwch y Sahara, Gorllewin Affrica, Gwlad Groeg ac Ynysoedd Malta, Gozo, Cuba, Awstralia, Hawaii, Canada, Gogledd America, gan obeithio cael mynd ddechrau'r flwyddyn nesaf, 2006, i Dde America, yr Amazon a'r Galapagos! Mae'n ddiddorol dros ben cael cyfarfod â phobl a gweld bywyd gwyllt y gwledydd.

O ia, mae'n rhaid dweud am y llyfr adar newydd sydd allan. Enw'r llyfr yw Llyfr Adar Iolo Williams. Mae'n llyfr gwerth ei gael, i'w roi yn eich bag cefn wrth fynd i gerdded neu i wylio adar. Llyfr gwych yn wir! Daliwch i wrando ar y Galwad Cynnar. Efallai y clywch fy llais eto ... yn y dyfodol."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý