Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú

Explore the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Homepage
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Cymru
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Papur Menai
Rhai o'r aelodau yn gorymdeithio Dathlu penblwydd
Hydref 2008
Ddydd Sadwrn, 20 Medi, bu gorymdaith fawreddog trwy Beaumaris i ddathlu 25 mlynedd ers ail-sefydlu seindorf y dref.

Roedd dros 150 o aelodau y 5 band presennol a sawl cyn-aelod balch yn rhan o'r prosesiwn, a'u hoedrannau o 7 oed i'w 70au, pawb yn eu topiau coch - golygfa ryfeddol

Yn dilyn yr orymdaith bu cyngerdd ar y sgwâr, gyda thorf fawr yn gwylio a'r haul yn gwenu.

Fred Evans fy'n allweddol wrth ailgychwyn y seindorf 25 mlynedd yn ôl ac mae o'n dal yn hynod o weithgar efo nhw.

Y pump seindorf yw: y band Ieuengaf, y band Canolradd, y band Iau, y band Hyn, a band newydd o oedolion oedd am ddechrau neu ailafael mewn dysgu offeryn pres - y Last of the Summer Wind, fel y'u hadnabyddir!

Pen blwydd hapus iawn i'r Seindorf, a llongyfarchiadau i Fred, Gwyn, Paul a sawl un arall am eu gwaith caled a diflino gyda'r holl offerynwyr.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹¹ÙÍøÊ×Ò³Èë¿Ú | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý