Eisteddfod lwyddiannus Gorffennaf 2006 Cafwyd Eisteddfod lwyddiannus iawn yn Llandegfan eto eleni.
Mae Geraint Lloyd Owen yn hen law ar ennill Cadeiriau a Choronau erbyn hyn, ac nid dyma'r tro cyntaf iddo fod yn fuddugol yn Llandegfan. Llongyfarchiadau calonnog iddo.
Mae rhyw frwdfrydedd Eisteddfodol mawr yn Llandegfan y dyddiau hyn, a chlywodd Papur Menai sibrydion mai ardal Llandegfan fydd yn noddi Eisteddfod Môn yn y flwyddyn 2008.
Os gwir y so^n - mae'n siŵr y bydd yn Wŷl i'w chofio. Edrychwn ymlaen am newyddion pellach erbyn diwedd yr haf.